Dinbych-y-Pysgod: 'Rhyddhad gwerthu carafán yn sgil cynnydd ffioedd'

  • Cyhoeddwyd
Parc Kiln
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchnogion carafanau ar safle Parc Kiln wedi cyhuddo'r cwmni sy'n ei redeg o "drachwant corfforaethol"

Fe fydd hi'n "rhyddhad" i werthu carafán yn Ninbych-y-Pysgod, yn ôl un perchennog, wrth i ffioedd blynyddol gynyddu'n sylweddol.

Mae pobl sy'n berchen ar garafanau ar safle Parc Kiln wedi cyhuddo'r cwmni sy'n rhedeg y safle yn Sir Benfro o ddiffyg tryloywder a "thrachwant corfforaethol".

Bydd disgwyl i rai perchnogion dalu £2,000 yn fwy na'r llynedd - ac maen nhw'n honni bod hynny yn rhannol i ariannu costau o adnewyddu'r bar a chreu parc antur ar y safle yn 2023.

Mae cwmni Haven, sydd yn rhedeg y safle, yn mynnu eu bod nhw wedi ymddwyn yn "hollol dryloyw" wrth drosglwyddo'r neges am y ffioedd i gwsmeriaid.

Ychwanegodd y cwmni y bydd y parc antur newydd yn "trawsnewid y profiad ar y parc yn 2023 a thu hwnt".

Mae'r ffioedd wedi cynyddu hefyd yn sgil chwyddiant.

'Nonsens'

Yn ôl Richard Morgan o Gasnewydd, sydd wedi berchen ar garafán ym Mharc Kiln ers 2014, bydd hi'n "rhyddhad" i'w gwerthu yn hytrach na thalu'r cynnydd o £1,500 mewn ffioedd.

Dywedodd Mr Morgan ei fod e'n gorfod talu £500 ychwanegol eleni ar gyfer y gwelliannau hyn, ac nad oedd ymgynghori wedi bod am y datblygiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Morgan a'i deulu wedi penderfynu gwerthu eu carafán oherwydd y cynnydd mewn costau

"Fe fydd e'n ryddhad enfawr, i feddwl nad oes rhaid i fi ddelio gyda'r nonsens yma rhagor," meddai Mr Morgan.

Mae Parc Kiln yn perthyn i gwmni gwyliau Haven, sydd yn ei dro yn berchen i gwmni Bourne Leisure.

Fe brynwyd y cwmni hwnnw gan Blackstone o Efrog Newydd yn ddiweddar, sydd yn un o gwmnïau ecwiti preifat mwyaf y byd.

Mae tua 60,000 yn ymweld â'r safle yn Ninbych-y-Pysgod bob blwyddyn.

'Ddim yn ymwybodol'

Mae Richard Morgan wedi sefydlu grŵp Facebook i berchnogion sy'n galw am adolygiad o'r ffioedd blynyddol, ac mae dros 200 bellach wedi ymuno.

"Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn ffioedd, oherwydd beth mae'r parc yn galw yn 'ddatblygiadau sylweddol'," dywedodd.

"Fe adnewyddwyd y bar, ond beth doedden ni ddim yn ymwybodol ohono oedd bod disgwyl i bob perchennog i wneud cyfraniad tuag at hynny.

"Fe wnaethon ni dalu y llynedd, gan feddwl mai un tâl fyddai hynny, ond mae'r parc nawr wedi ychwanegu datblygiad arall, ac mae'r ddau beth yn ychwanegu £500 tuag at ein biliau blynyddol.

"Fe fydd ein ffioedd eleni yn £8,500, sydd ddim yn cynnwys pethau fel trydan, dŵr a threthi annomestig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 60,000 o bobl yn ymweld â'r safle bob blwyddyn

Yn ôl y cwmni, maen nhw hefyd yn "teimlo effeithiau chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni" gan ddweud ei fod "effeithio ar bob rhan o'u gweithrediadau".

"Mae cost rhedeg y parciau wedi cynyddu yn sylweddol, sydd hefyd wedi ychwanegu at gost ein ffioedd."

Prynodd Ryan Lovibond o'r Rhondda garafán i'w deulu 'nôl ym mis Medi, ond mae'n bryderus hefyd am gostau cynyddol.

"Mae'r ffioedd wedi cynyddu yn sylweddol. Mae e wedi cael effaith ddramatig," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ryan Lovibond nad oedd wedi cael gwybod am y datblygiadau ar y safle

"Doedden ni ddim wedi cael gwybod am y datblygiadau, i fod yn onest.

"Ni'n croesawu nhw i ddweud y gwir, ond mi fyddai'n braf cael lleisio barn amdanyn nhw."

'Trachwant'

Mae gan Simon Brown o Gwmbrân ddwy garafán ym Mharc Kiln. Mae'n rhentu'r ddwy ar wahanol adegau er mwyn lleddfu'r baich ariannol.

Mae'n dweud iddo orfod talu £247 y llynedd tuag at y gost o adnewyddu'r bar, ond roedd o dan yr argraff mae un tâl yn unig oedd hwnnw, nid cost flynyddol.

Mae'n teimlo'n grac am yr hyn mae'n honni yw diffyg tryloywder a "thrachwant" gan y cwmni.

"Mae disgwyl i ni dalu'r ffi yna yn barhaol. Maen nhw nawr yn datblygu Parc Antur, a heb dryloywder, maen nhw'n dweud y byddwn ni hefyd yn talu £190 am hwnna bob blwyddyn," dywedodd.

"Mae hyn yn drachwant corfforaethol o'r haenau uchaf yn y cwmni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Brown yn cyhuddo'r cwmni o fod yn drachwantus

Bydd y ddau ddatblygiad yn ychwanegu £400 at gost ei filiau yn flynyddol, gyda chostau ychwanegol hefyd am chwyddiant.

Bydd ffioedd un garafán yn cynyddu o £7,500 i £9,000, gyda chostau pellach i'w talu am drydan, nwy a threthi.

Mae Mr Brown yn dweud bod nifer o berchnogion wedi cwyno ac yn fodlon mynd â'r mater i gyfraith.

Mae Cathy Jones o Swydd Gaer wedi bod yn berchennog ym Mharc Kiln ers wyth mlynedd. Mae ei ffioedd eleni yn £2000 yn uwch na'r llynedd.

Mae hi wedi apelio ar y cwmni i drafod: "Mi fyddai'n braf petasen nhw yn siarad gyda ni.

"Mae'n amhosib cael atebion ar hyn o bryd. Ni wrth ein bodd gyda'r parc a gyda Dinbych-y-Pysgod, ond ry'ni am gael ein trin yn deg a thalu costau teg."

'Adolygu ffioedd bob blwyddyn'

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Haven: "Bob blwyddyn, mae Haven yn adolygu ffioedd blynyddol i berchnogion, yn unol gyda'r cytundeb rhwng y cwmni a pherchnogion, sydd hefyd yn ymwneud gyda buddsoddiad yn y parciau.

"Fe fydd Parc Antur newydd yn agor, fydd yn trawsnewid y profiad ar y parc yn 2023 a thu hwnt.

"Rydym wedi bod yn hollol dryloyw wrth roi'r neges i berchnogion am y cynnydd mewn ffioedd."