Adran Dau: AFC Wimbledon 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
FootballFfynhonnell y llun, Getty Images

Gwnaeth Casnewydd ymdrech dda i geisio cipio triphwynt ddydd Llun yn erbyn AFC Wimbledon ond cyfartal oedd hi ar y diwedd.

Ethan Chislett roddodd y tîm cartref ar y blaen ar ôl 58 munud gyda chic rydd arbennig o dda.

Cafodd Kyle Hudlin ei anfon oddi ar y maes am ymddygiad ymosodol, gan ddod â Wimbledon lawr i ddeg dyn.

Cic o'r smotyn unionodd y sgôr wedi i Huseyin Biler dynnu Nathan Moriah-Welsh i lawr yn y cwrt cosbi, ac Offrande Zanzala roddodd y bêl yn y rhwyd.