Adran Dau: Casnewydd 0-0 Leyton Orient

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y tîm sydd ar frig Adran Dau, Leyton Orient, yn Rodney Parade nos Wener.

Doedd dim goliau yn yr hanner cyntaf, ond llwyddodd y ddau dîm i greu digon o gyfleoedd.

Fe wnaeth golwr yr Alltudion, Joe Day, arbediad da i atal Aaron Drinan yn yr hanner cyntaf, ac un arall yn yr ail hanner o ergyd gan Theo Archibald.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn aros yn y 18fed safle yn Adran Dau.