Adran Dau: Casnewydd 2-2 Crawley

  • Cyhoeddwyd
Dom Telford yn sgorio'n erbyn CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Osgoi colli o drwch blewyn wnaeth Casnewydd wrth sicrhau eu hail gôl yn yr amser ychwanegol yn erbyn Crawley.

Dom Telford sgoriodd ddwy gôl y gwrthwynebwyr gyda Matty Dolan yn sicrhau gôl hwyr i Gasnewydd wedi 83 munud.

Gôl hwyrach fyth ddaeth gan Offrande Zanzala wedi 93 o funudau i sicrhau nad colli oedd eu hanes brynhawn Llun.

Mae Casnewydd yn 18fed yn Adran Dau.