'Angen system hunan-adnabod rhywedd fel yr Alban' - Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Pin yn dangos y faner lliwiau trawsryweddolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud y dylai fod gan Gymru system hunan-adnabod rhywedd tebyg i'r un gafodd ei chymeradwyo yn yr Alban.

Mae Senedd yr Alban wedi cefnogi deddf a fyddai'n ei gwneud yn haws i bobl newid eu rhyw gyfreithiol.

Dywedodd Mr Drakeford nad oes gan Gymru yr un pwerau â'r Alban ond y byddai'n eu ceisio gan Lywodraeth y DU.

Mae gan weinidogion y DU bryderon am y gyfraith ac mae Aelod o'r Senedd Ceidwadol yn dweud y dylai Mr Drakeford "ddiystyru" ddilyn yr Alban.

Fis diwethaf, cymeradwyodd Senedd yr Alban reolau newydd a oedd yn gostwng yr oedran y gall pobl wneud cais am dystysgrif cydnabod rhywedd i 16, ac yn dileu'r angen am ddiagnosis meddygol o ddysfforia rhywedd.

Yr Alban yw'r unig wlad yn y DU i symleiddio'r broses o newid rhywedd.

Dywedodd llywodraeth y DU fod ganddi bryderon am ddeddfwriaeth yr Alban ac y gallai geisio ei hatal rhag dod yn gyfraith trwy rwystro Cydsyniad Brenhinol - pan fydd y Bil yn cael cytundeb ffurfiol gan y Brenin ac yn dod yn Ddeddf Senedd yr Alban.

Dywedodd llywodraeth yr Alban y byddai unrhyw ymgais gan lywodraeth y DU i rwystro'r gyfraith yn cael ei "wrthwynebu'n gryf".

'Pob plaid yn yr Alban'

Wrth siarad yn y Senedd heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai tystysgrif cydnabod rhywedd o'r Alban sydd gan unrhyw un sy'n dod i Gymru, "yn cael ei chydnabod yma at yr holl ddibenion y byddech yn disgwyl iddi gael ei chydnabod ar eu cyfer".

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi siarad â Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon am y gyfraith a nododd ei bod wedi cael ei chefnogi gan "bob plaid wleidyddol yn Senedd yr Alban".

Ychwanegodd: "Byddwn yn ceisio'r pwerau, ac os cawn y pwerau hynny, byddwn yn rhoi'r pwerau hynny ar waith yma yng Nghymru, a byddwn yn rhoi cynigion gerbron y Senedd hon".

Roedd y prif weinidog yn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Laura Anne Jones a ddywedodd fod "pryderon" am ddeddfwriaeth yr Alban ar ôl iddi gael ei "rhuthro" a gofynnodd i Mr Drakeford "ddiystyru" deddfwriaeth o'r fath yng Nghymru.

Gwrthododd Mr Drakeford ddiystyru'r ddeddfwriaeth a dywedodd nad oedd yn derbyn bod y ddeddfwriaeth wedi ei "rhuthro drwodd".

Ychwanegodd yn ddiweddarach ei fod wedi ei "synnu" gan ymateb llywodraeth y DU i gyfraith yr Alban.

"Maen nhw'n bygwth defnyddio pŵer sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio yn holl hanes datganoli".

'Rhannu'r pryderon'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn rhannu'r pryderon y mae eraill - gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched - wedi'u mynegi ynghylch mesur yr Alban, yn enwedig am faterion diogelwch i fenywod a phlant.

"Mae ein pryderon yn cynnwys diogelu mannau un rhyw, a'r cydbwysedd yn y broses o ennill tystysgrif cydnabod rhywedd gyfreithiol.

"Rydym yn dal i ystyried ein camau nesaf, a hefyd y goblygiadau ar gyfer Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth arall ledled y DU. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar hyn o bryd."