Qatar: Drakeford 'ddim yn difaru' aros mewn gwesty pum seren am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud nad yw'n difaru derbyn arhosiad am ddim mewn gwesty pum seren yn Qatar yn ystod Cwpan y Byd.
Datgelodd BBC Cymru fod llywodraeth y wlad wedi talu am ddau weinidog a phedwar swyddog i aros yn y Ritz-Carlton.
Dywedodd Mr Drakeford fod yn rhaid iddo gymryd y pecyn lletygarwch am resymau diogelwch, ac na allai fynd i gyfarfodydd hebddo.
"Er nad dyna'r ffordd y bydden ni wedi dewis mynd i Qatar, roedd yn anorfod," meddai.
Ysgogodd newyddion am y pecyn lletygarwch bryderon y gallai fod wedi tanseilio safiad Llywodraeth Cymru ar hawliau dynol, tra bod Amnest Rhyngwladol wedi herio gweinidogion Cymru i ddangos eu bod wedi codi'r materion.
Roedd Qatar wedi cael ei feirniadu am ei driniaeth o bobl LHDCT+, menywod a gweithwyr mudol.
Dywedodd y prif weinidog ei fod wedi codi pryderon hawliau dynol "ym mhob cyfle posib" yn ystod ei ymweliad.
Tra bod Llywodraeth Cymru wedi talu £13,000 am deithiau hedfan, canfu cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC i Lywodraeth Cymru fod Qatar wedi talu am Mr Drakeford, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething a phedwar swyddog i aros yn y gwesty pum seren.
Mynychodd y ddau weinidog gemau ar wahân, ochr yn ochr â dirprwyaeth o ddau swyddog yr un, gyda'r ddwy daith ar wahân yn para tair noson yr un.
Daeth taith Mr Drakeford er gwaethaf penderfyniad Syr Keir Starmer i gadw draw o'r twrnament.
Roedd gweinidogion Llywodraeth y DU hefyd yn bresennol yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies - dyw hi ddim yn glir a ydyn nhw wedi derbyn yr un pecyn.
Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru: "Dydw i ddim yn difaru, oherwydd dyma'r unig ffordd yr oedd hi'n bosibl cyflawni'r dibenion yr es i i Qatar ar eu cyfer.
"Fe wnaethon ni edrych i weld a oedd hi'n bosib mynd yn annibynnol. Roedd y drefn ddiogelwch o amgylch y gemau yn syml yn golygu, oni bai eich bod chi'n barod i dderbyn y trefniadau yno ar lawr gwlad, ni fyddech wedi cael mynediad corfforol i'r lleoedd lle roedd angen i mi fod a'r y cyfarfodydd yr oedd angen i mi eu mynychu.
"Er nad dyna'r ffordd y byddem wedi dewis mynd i Qatar, roedd yn anochel, pe bai'r ymweliad yn cyflawni'r dibenion."
'Pob cyfarfod'
Dywedodd Mr Drakeford ym "mhob cyfarfod yr oeddwn yn bresennol ynddo, fe wnaethom godi'r materion sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru".
"Ym mhob cyfarfod y bûm ynddo, boed hynny gyda gweinidogion y llywodraeth, busnesau, sefydliadau celfyddydol, cyfweliadau â'r cyfryngau lleol yno yn Qatar, cafodd y materion - hawliau dynol, gwerthoedd dynol, hawliau gweithwyr - sylw ym mhob cyfle posibl."
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y daith dro ar ôl tro, gan ddweud bod Cwpan y Byd wedi rhoi cyfle i Gymru hyrwyddo ei hun ar lwyfan y byd a cheisio buddsoddiad gan Qatar.
Dywedodd Mr Drakeford ym mis Tachwedd ei fod yn "benderfyniad anodd" i fynd, ond dywedodd fod "rhwymedigaeth" i weinidogion gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd.
Wrth ofyn am drefniadau gweinidogion y DU, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Roedd Cwpan y Byd yn ddigwyddiad rhyngwladol mawr ac mae'n iawn fod Llywodraeth y DU yn cael ei chynrychioli. Bydd manylion yr ymweliad yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd arferol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2022