Siaradwyr Cymraeg anneuaidd eisiau iaith LHDCT+ gynhwysol

  • Cyhoeddwyd
Cymuned CymraegFfynhonnell y llun, Emma Peel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymuned Cymraeg yn cwrdd pob pythefnos

Mae siaradwyr Cymraeg anneuaidd (non-binary) yn dweud eu bod yn teimlo na allant fynegi eu hunaniaeth yn Gymraeg oherwydd cenedl geiriau.

Maen nhw eisiau gweld mwy o ymwybyddiaeth a defnydd o iaith LHDCT+ gynhwysol.

Fel llawer o ieithoedd Ewropeaidd, mae enwau Cymraeg fel arfer yn wrywaidd neu'n fenywaidd, sy'n effeithio'r treigladau ac mae proffesiynau hefyd yn tueddu i fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd.

Mae un tiwtor sy'n gweithio i'r rhaglen Dysgu Cymraeg, sy'n cael ei hariannu gan y llywodraeth, wedi newid yr hyn mae'n addysgu.

Dywedodd Tomos Hopkins ei fod yn arwain at fwy o gynwysoldeb tuag at fyfyriwr anneuaidd.

Ond ychwanegodd fod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn llai tebygol o ddod ar draws Cymraeg niwtral o ran cenedl.

Mae llawer o bobl anneuaidd yn defnyddio'r "nhw" lluosog fel rhagenw unigol niwtral o ran cenedl.

Ond mae llawer o enwau proffesiynau yn seiliedig ar genedl - "athro" ac "athrawes" ac ati.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tomos Hopkins fod angen i'r Gymraeg esblygu a bod yn gynhwysol

Mae diffyg gwybodaeth am dermau LHDCT+ yn y Gymraeg yn golygu pan fydd pobl yn defnyddio "nhw" weithiau nad ydyn nhw'n cael eu deall, yn ôl Rowan Gulliver, athrawydd 22 oed yn Y Barri.

Yn gweithio mewn ysgol Gymraeg, roedd yn rhaid i Mx Gulliver ddod allan i gydweithwyr yn Saesneg oherwydd nad oeddent yn teimlo y gellid eu deall yn Gymraeg, ac nid oedd ganddynt yr eirfa i wneud hynny.

"Dylech chi allu siarad am eich hunaniaeth â phobl eraill yn eich iaith gyntaf," medden nhw. "Mae fel bod rhan fach ohonoch chi'n marw pan mae'n rhaid i chi ei ddweud yn Saesneg.

"Mae'n gwneud i chi deimlo fel... eich bod chi'n beth rhyfedd sydd ddim yn perthyn neu sydd â gwerth o fewn cymdeithas," ychwanegon nhw.

'Dod allan ddwywaith'

Dywedodd Mx Gulliver bod siaradwyr Cymraeg yn deall os yw termau'n cael eu hesbonio, ond mae'r rhwystrau ieithyddol yn atal pobl anneuaidd rhag bod yn hyderus wrth siarad am eu hunaniaeth.

"Mae fel bod yn rhaid i chi ddod allan ddwywaith," ychwanegon nhw.

Mae gan Stonewall Cymru eirfa Gymraeg gynhwysol i lenwi bylchau mewn geiriaduron.

"Mae angen mwy o ymwybyddiaeth, mwy o gynrychiolaeth yn y cyfryngau fel S4C ac mae angen ei ddysgu mewn ysgolion," meddai Mx Gulliver.

Dywedodd Ems Rixon, 38, o Landeilo, sy'n dysgu Cymraeg: "Yn aml dwi'n teimlo fy mod i'n achosi problemau yn fy nosbarthiadau siarad pan dwi'n dweud nad ydw i eisiau dweud cenedl gair."

Dywedodd Mx Rixon bod pobl anneuaidd yn aml yn cael eu cywiro gan eraill pan fyddan nhw'n defnyddio'r lluosog.

Newidiodd tiwtor Cymraeg Mx Rixon, Mr Hopkins, ddeunydd gwersi ar gyfer dysgwyr newydd i fod yn gynhwysol i hunaniaethau anneuaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Amlygodd Ems Rixon bwysigrwydd cynrychiolaeth

Mae'r gwerslyfrau sy'n cael eu defnyddio gan Dysgu Cymraeg yn cael eu diweddaru bob dwy flynedd, sy'n golygu eu bod yn gallu bod yn fwy cynhwysol.

Dywedodd Mr Hopkins mai'r ffordd i gynyddu gwybodaeth am ragenwau cywir yw cynyddu cynrychiolaeth yn y cyfryngau.

"Dwi'n meddwl ei fod yn sicr yn gwella gyda rhaglenni fel S4C Hansh," ychwanegodd. "Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych o ddangos llawer o gynnwys hunaniaeth cwiar.

"Mae'n hynod bwysig bod y Gymraeg yn esblygu ac yn gynhwysol... mae yna eiriau newydd am bopeth bob dydd.

"Yn ystod y pandemig roedd rhaid cael terminoleg newydd i ddisgrifio technoleg, felly dim ond cam naturiol i'r iaith yw hwn."

Mae geiriau LHDCT+ wedi'u bathu yn y Gymraeg ers sawl blwyddyn, ond nid ydynt eto wedi cael eu defnyddio'n gyffredin, meddai Dr Gareth Evans Jones, o Brifysgol Bangor, sy'n golygu'r flodeugerdd Gymraeg gyntaf o hawliau LHDCT+.

Sefydlwyd grŵp Cymuned Cymraeg, sy'n cwrdd pob pythefnos yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a Phowys, gan Ella Peel, i helpu siaradwyr Cymraeg anneuaidd eraill.

"Pwrpas iaith yw deall eich gilydd a chyfathrebu, felly os ydych chi'n dweud geiriau a phobl ddim yn eich deall chi, dyna pryd mae iaith yn chwalu," meddai Ms Peel.

Mae'r dosbarth yn arfer defnyddio "-ydd" ar gyfer terfyniadau niwtral o ran cenedl. Mae hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai proffesiynau megis comisiynydd.

Ychwanegodd Mx Rixon: "Mae cynrychiolaeth mor bwysig. Dim ond yr hyn rydych chi'n ei weld ac yn gallu siarad amdano y gallwch chi fod."