Deintyddiaeth drwy'r GIG 'ar y dibyn' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae deintyddiaeth drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru "ar y dibyn" a "ddim yn gweithio fel mae pethau yn sefyll", yn ôl deintydd amlwg.
Fe wnaeth ymchwil gan y BBC haf y llynedd ganfod bod dim un deintyddfa yn derbyn oedolion fel cleifion newydd drwy'r GIG mewn 10 o 22 awdurdod lleol y wlad.
Nid yw triniaeth ddeintyddol am ddim i fwyafrif oedolion Cymru, ond mae'n rhatach na thriniaeth breifat oherwydd cymhorthdal gan y llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi addo £2m o gyllid ychwanegol fydd yn sicrhau 112,000 o apwyntiadau "ychwanegol".
'Taflu llwch i'r llygaid'
Ond beirniadu'r cyhoeddiad mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), gan gyhuddo'r llywodraeth o "daflu llwch i'r llygaid", "gwneud datganiadau camarweiniol" a bod yn "amharod i fuddsoddi a dod â'r nifer sy'n gadael y gweithlu gwladol i stop".
Yn ôl y gymdeithas, mae cytundebau newydd gan Lywodraeth Cymru i ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yn rhoi pwyslais ar dderbyn cleifion newydd, ond maen nhw'n honni bod rhai sydd eisoes wedi cofrestru gyda deintydd yn dioddef.
Yn ôl y BDA, am bob claf newydd sydd yn cael eu gweld, "mae dwsin o bobl sydd eisoes dan ofal deintydd yn colli mynediad i wasanaethau deintyddol".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y system newydd yn "gweithio", ac mai "lleiafrif bychan iawn" sydd yn gwrthwynebu.
Fe wnaeth hynny ysgogi ymateb chwyrn gan y BDA, sy'n dweud eu bod yn "disgwyl gweld nifer fawr o gytundebau [GIG] yn dod i ben neu'n cael eu lleihau o ganlyniad uniongyrchol i'r canllawiau newydd".
Mae Tristan Roberts yn aelod o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain. Yn ddeintydd ers degawd, mae wedi gweithio i'r gwasanaeth iechyd ers graddio.
Ond mae nawr wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithio i'r GIG.
"Dwi'n meddwl ei fod o [deintyddiaeth drwy'r GIG] ar y dibyn," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n colli ffordd o ran pwrpas deintyddiaeth dyddiau yma. Mae'r pwyslais ar ariannu a thorri costau.
"Mae'n rhaid i ni feddwl am y darlun mawr a beth allwn ni gynnig i gleifion ac i bobl y wlad yma.
"Mae'n rhaid iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] feddwl am ble maen nhw eisiau mynd â phethau, a bod yn agored efo ni fel deintyddion am beth maen nhw'n disgwyl gennym ni, ac efo cleifion hefyd am beth allan nhw ddisgwyl yn hytrach na phawb yn gweithio ar eu telerau eu hunain a gwneud i bethau ffitio.
"Dydy o ddim yn gweithio ar hyn o bryd."
Fe ddywedodd Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Andrew Dickenson bod gofal iechyd wedi wynebu heriau digynsail dros y tair blynedd diwethaf, a bod yna heriau unigryw i ddeintyddiaeth yn y cyfnod hwnnw.
"Ar hyn o bryd mae gwasanaethau yn cael eu hadfer, ond mae hynny yn cymryd amser, ac er fy mod yn deall y farn sy'n cael ei mynegi, yr hyn rydyn ni wedi bod yn ceisio ei wneud ydy mynd i'r afael â'r angen ar gyfer y boblogaeth."
"Rydyn ni wedi gofyn i ddeintyddfeydd os y gallan nhw gynnig apwyntiad i gleifion sydd heb gael triniaeth ddeintyddol gyson, i geisio mynd i'r afael â'r problemau ar hyn o bryd, ac yn amlwg unwaith y bydd hynny wedi cael ei sortio fe fydd yn rhoi mwy o sefydlogrwydd i wasanaethau deintyddol."
Wrth ymateb i'r pryderon am y cytundebau newydd fe ddywedodd Andrew Dickenson ei fod yn gwerthfawrogi bod hyn yn newydd, yn arloesol ac yn newid y ffordd y mae deintyddiaeth wedi cael ei redeg am yr 17 mlynedd ddiwethaf.
"Ond rydyn ni wedi edrych ar yr anghenion o ran poblogaeth," meddai, "sef ehangu'r mynediad i'r rhai sydd â phroblemau a sydd angen cael eu gweld gan ddeintydd a'u hasesu, ond ar yr un pryd edrych ar safon y gofal yn ei gyfanrwydd."
Mae Dafydd Williams yn 73 oed ac yn byw yn Y Drenewydd, Powys.
Yn ôl astudiaeth gan y BBC haf diwethaf, doedd dim un deintyddfa yn derbyn oedolion newydd fel cleifion drwy'r gwasanaeth iechyd yno, nac ychwaith mewn naw o siroedd eraill yng Nghymru.
Mae Mr Williams nawr yn teithio dros y ffin i Telford i weld deintydd - taith o dros 100 milltir yno ac yn ôl, er ei fod yn byw yn Y Drenewydd ers dau ddegawd.
Dywedodd: "Dwi'n flin a dweud y gwir bod rhaid i ni drafeilio milltiroedd i gael gweld deintydd.
"'Dan ni'n mynd ddwywaith y flwyddyn i gael check-up, ond os oes rhywbeth eisiau cael ei wneud a maen nhw'n dweud 'mae'n rhaid i chi ddod 'nôl mewn 10 diwrnod neu bythefnos', mae diwrnod arall yn mynd."
Mae Newyddion S4C wedi clywed am nifer o ddeintyddfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru sydd wedi rhoi'r gorau i driniaethau drwy'r gwasanaeth iechyd, gan droi at gynnig gwasanaeth preifat yn unig.
Yr wythnos hon, derbyniodd cleifion Deintyddfa Marcwis yn Llanfairpwll, Ynys Môn, lythyr oedd yn nodi bod "newidiadau diweddar i'r ffordd mae'r llywodraeth yn disgwyl i ni ddarparu triniaeth i gleifion drwy'r gwasanaeth iechyd yn gwneud hi'n amhosib i ni barhau i ddarparu gofal o'r safon rydyn ni'n ei ddymuno i gleifion".
O ddechrau Ebrill, mae'r ddeintyddfa yn dweud mai gofal preifat yn unig fydd yn cael ei gynnig ganddyn nhw.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi codi cwestiynau am fynediad i ddeintyddion drwy'r gwasanaeth iechyd ar lawr y Senedd.
Mae Jane Dodds yn dweud ei bod hi wedi clywed am nifer o ddeintyddfeydd sydd yn yr un sefyllfa.
Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth ddiwedd y llynedd, darganfuwyd bod 794 o blant ym Mhowys yn unig ar restr aros i gofrestru gyda deintydd drwy'r GIG.
"Mae gyda ni ryw fath o two-tier system yma yng Nghymru; pobl sy'n gallu fforddio talu am ddeintydd a phobl sydd ddim. Dyw hynny ddim yn iawn - ddim yn deg," meddai Ms Dodds.
"Mae'n rhaid i ni gael system gyhoeddus dros Gymru sydd yn gwneud yn siŵr, os ydych chi'n dlawd neu ddim yn gallu fforddio cael deintydd, bod 'na system sydd yn dweud 'dyma ddeintydd i chi' a bod honno'n system gyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022