Noakes: Costau cynyddol yn cau siop fara 108 mlwydd oed
- Cyhoeddwyd
Mae siop fara - sy'n gwasanaethu pobl Pontarddulais ers 1914 - yn paratoi i gau ei drysau am y tro olaf.
Dywed perchennog Noakes ei bod hi'n amhosib ei chadw ar agor oherwydd costau cynhyrchu cynyddol.
"Mae 'nheulu i wedi bod yma ers tair cenhedlaeth ac rwy'n teimlo yn emosiynol iawn wrth 'neud y penderfyniad yma - ond does dim dewis," meddai Paul Noakes.
Pan ddechreuodd weithio yn y siop fara gyda'i dad 60 mlynedd yn ôl, roedd torth yn costio swllt.
Ond mae pris bara - fel bob dim arall - wedi codi tipyn ers hynny.
"Mae cyflogau yn codi trwy'r amser ond y prif beth sy' wedi taro ni yw cost trydan," meddai.
"Ro'n i'n talu £1,500 y mis, ond nawr rwy'n talu £1,000 yr wythnos. Alla'i ddim fforddio hynna," dywedodd Mr Noakes.
'Hoelen arall yn arch y stryd fawr'
Mae'r newyddion wedi achosi tor-calon a phryder am ddyfodol y stryd fawr ym Mhontarddulais.
Mae cwsmeriaid lleol fel Bethan Mair yn dweud bod y newyddion am gau'r siop yn dorcalonnus.
"Mae wedi bod yn gymaint yn rhan o fywyd y pentre' dros y degawdau," meddai.
"Mae'r staff yma yn nabod pawb ac yn gw'bod enw pawb.
"Mae'n golled sylweddol ac yn hoelen arall yn arch y stryd fawr fan hyn ym Mhontarddulais."
Roedd Paula Thomas yn 16 oed pan gafodd swydd yn gweithio yn y siop yn pobi bara 43 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, hi yw'r rheolwr.
"A dweud y gwir ro'n i'n teimlo'n sâl pan glywes i'r newyddion," meddai.
"Bydd rhaid i fi chwilio am swydd arall nawr. Rwy' wir yn drist. Dyma'r unig beth dwi 'di 'neud ar hyd fy oes.
"Mae hwn wedi bod yn lle gwych i weithio. Ond ar ddiwedd y dydd ry'n ni'n deall pam bod Paul wedi penderfynu cau."
Mae gweld siop wag ar y stryd fawr hefyd yn ofid i fusnesau lleol eraill.
Dywedodd Emma Thomas, sy'n berchen siop trin gwallt Roots 107 drws nesaf i Noakes, ei bod yn "drist iawn" i glywed y newyddion.
"Byddai yn gweld ishe galw mewn am fwyd, yn enwedig y bacon rolls!" meddai.
"Mae e wedi bod 'ma mor hir. Rwy'n cofio dod yma fel merch fach. Mae yn drist i'r pentre' i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023