Bragdai bach yn 'byw mewn gobaith' wedi blwyddyn heriol

  • Cyhoeddwyd
Amy Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy Evans yn "gweddïo" na fydd costau a threthi ei bragdy'n cynyddu yn y flwyddyn nesaf

Mae sylfaenydd bragdy yn Sir Benfro wedi rhybuddio bod y "farchnad yn lleihau" wrth i bobl feddwl ddwywaith cyn gwario ar nwyddau "moethus".

Yn ôl Amy Evans o gwmni Bluestone Brewing Co, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un "anodd" ac "heriol", wrth iddynt ymateb i gostau cynyddol a'r newid i arferion prynu cwsmeriaid.

Er yn "byw mewn gobaith", mae'n dweud eu bod yn "gweddïo" na fydd costau a threthi'n cynyddu yn y flwyddyn nesaf.

Fe gaeodd o leiaf un bragdy bach annibynnol bob wythnos y llynedd.

Sefydlwyd Bluestone Brewing Co yn 2013 gan Amy Evans a'i thad.

Mae'r bragdy micro wedi ei leoli ar eu fferm deuluol yn Sir Benfro, lle mae'r ffocws ar greu cwrw crefft, cynaliadwy o safon.

Gyda rhai tafarndai'n dweud fod gwerthiant i lawr 20% fis Tachwedd o gymharu â 2021, mae'r rheolwr gyfarwyddwr yn dweud fod bragdai hefyd yn profi'r pwysau.

"[Mae] costau rhedeg tafarn dyddiau hyn yn enfawr, felly mae tafarndai wedi mynd lawr i agor dau, dri diwrnod yr wythnos," meddai Amy Evans.

"Wrth gwrs, mae hwnna'n effeithio ar beth ni'n gwerthu iddyn nhw.

"Mae cwrw fel luxury. Dyw pobl ddim yn gweld bod angen gwario gymaint ar bethau fel 'ny, felly mae'r farchnad yn lleihau."

Mae Bluestone Brewing Co yn dweud iddynt arallgyfeirio ac addasu'n ddiweddar i'r farchnad anodd, ond bod yr heriau'n parhau.

"Ry'n ni wedi agor sawl ffynhonnell wahanol o werthu er mwyn treial llenwi pob marchnad ond mae e'n creu lot mwy o waith i ni, costau marchnata ac ati, er mwyn treial cadw'r gwerthiant yn lefel yn hytrach na lleihau bob mis."

'O ddrwg i waeth'

Mae ymgyrch Camra (Campaign for Real Ale), sy'n cefnogi bragdai a thafarndai ar draws Prydain, yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu eto.

"Mae llawer o fragdai gyda ni yng Nghymru a dwi ddim wedi clywed bod llawer yn cau eto ond ar draws Prydain, mae nifer yn lleihau, yn bendant, yn barod," meddai Deiniol Carter, cynrychiolydd o gangen Caerdydd ar ran ymgyrch Camra.

"Dylai'r llywodraeth helpu a sefyll mewn... dwi wedi gweld llawer o dafarndai a bragdai yn cau yn barod, ond falle fydd y sefyllfa yn mynd o ddrwg i waeth."

Mae Cymdeithas y Bragwyr annibynnol hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r gostyngiad treth a gynllunnir ar werthiant tafarndai, er mwyn rhoi hwb i'r diwydiant.

Yn ôl y Trysorlys, maen nhw'n cydnabod bod y rhain yn "gyfnodau anodd" ond yn dweud eu bod yn darparu cymorth gyda chostau ynni, tanwydd a threthi busnes.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn rhewi'r dreth alcohol ymhellach, tan fis Awst nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i redeg y Crymych Arms fel menter gymunedol - cam a fyddai'n hwb i fragdai lleol

Er gwaetha'r heriau presennol sy'n wynebu bragdai a thafarndai, edrych i fentro i'r sector mae trigolion yng Nghrymych.

Gyda chynlluniau eisoes ar waith, bwriad y clwb oêl-droed lleol yw prynu'r Crymych Arms, a'i redeg fel tafarn gymunedol.

"Mae yn gyfnod anodd yn yr economi leol ond ar ddiwedd y dydd, nawr yw'r cyfle," meddai aelod o bwyllgor y clwb pêl-droed, Cris Tomos.

"Ni wedi bod yn edrych ar wahanol dafarndai eraill sydd wedi cael eu prynu gan y gymuned ac fel ry'ch chi'n cael pobl yn buddsoddi, fel 150-200 o bobl yn prynu tafarn.

"Mae'r teuluoedd a'r unigolion yn medru ychwanegu, sicrhau bod yna wirfoddolwyr a hefyd bod staff yn cael cyfle a chefnogaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cadw tafarn yn nwylo lleol yn sicrhau mwy o brynu gan gwmnïau lleol eraill, medd Cris Tomos

"Gobeithio hefyd, achos bod y clwb pêl-droed â 50 o chwaraewyr a bod y teuluoedd hynny hefyd yn cefnogi, mae cyfle i wneud hyn i weithio."

Yn ôl Mr Tomos, byddai prynu'r dafarn hefyd yn eu galluogi i gefnogi a rhoi hwb i fragdai lleol.

"Mae nifer o fragdai yn ardal y Preseli fan hyn ac maen nhw'n gwneud gwaith da a'n cyflogi pobl," meddai.

"Felly gobeithio trwy gadw'n tafarndai ni ar agor byddwn ni wedyn yn prynu'n lleol ac yn cyflogi'n lleol i sicrhau dyfodol i'r bragdai."