Adran Dau: Casnewydd 2-1 Swindon Town
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Adran Dau ers dechrau Rhagfyr trwy drechu Swindon Town o ddwy gôl i un yn Rodney Parade.
Goliau Cameron Norman a Calum Kavanagh yn yr ail hanner wnaeth sicrhau triphwynt pwysig i'r Alltudion yn erbyn tîm sy'n gobeithio aros yn safleoedd y gemau ail gyfle.
Roedd yr ymwelwyr un chwaraewr yn brin am fwyafrif y gêm wedi i Rushian Hepburn-Murph gael ei hel o'r maes gyda 15 munud ar y cloc am ymddygiad ymosodol.
Serch y fantais a sawl cyfle addawol i'r Alltudion, fe orffennodd yr hanner cyntaf yn ddi-sgôr.
Daeth gôl gyntaf Casnewydd naw munud wedi i'r gêm ailgychwyn ar ôl yr egwyl - fe gysylltodd Norman â chroesiad Adam Lewis a phenio'r bêl i ganol y rhwyd o ochr dde'r cwrt chwech.
Fy ddyblodd Kavanagh y fantais wedi 78 o funudau gydag ergydiad droed chwith i ganol y gôl.
Sgoriodd Tomi Adeloye yn y munudau ychwanegol i roi gobaith i'r ymwelwyr ond doedd dim digon o amser yn weddill i geisio sicrhau gêm gyfartal.
Mae'r triphwynt yn cynyddu cyfanswm Casnewydd i 29 o bwyntiau yn 19eg safle'r tabl cyn gweddill gemau'r dydd.