Rhybudd fod angen codi prisiau llyfrau i gefnogi'r diwydiant
- Cyhoeddwyd
Mae angen codi prisiau llyfrau i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi, yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd pennaeth busnes y cyngor y byddai siopau ac awduron hefyd yn elwa, gan ychwanegu fod prisiau llyfrau Cymraeg wedi bod yn "artiffisial o isel".
Yn ôl Mererid Boswell, bydd prynwyr llyfrau o hyd yn cefnogi cyfrolau Cymraeg os yw'r pris yn codi.
Ond dywedodd un o'r gweisg Cymraeg fod angen bod yn "ofalus iawn" wrth godi prisiau.
'Prisiau'n sefydlog ers blynyddoedd'
Yng Nghymru mae nifer o weisg Cymraeg a Saesneg yn dibynnu ar grant gan Gyngor Llyfrau Cymru i ariannu teitlau sydd o bwys diwylliannol, ond fyddai ddim o reidrwydd yn llwyddo'n fasnachol.
"Mae'n bwysig iawn bod prisiau yn mynd i fyny eleni," meddai Mererid Boswell, pennaeth busnes Cyngor Llyfrau Cymru.
"Mae prisiau wedi bod yn eithaf sefydlog ers blynyddoedd erbyn hyn."
Dywedodd Ms Boswell bod y gweisg, awduron a siopau yn ddibynnol i wahanol raddau ar yr arian sy'n dod o bob llyfr.
"Mae [prisiau] llyfrau Cymraeg yn artiffisial o isel o gymharu â llyfrau Saesneg," meddai.
Dydy'r gweisg ddim yn awyddus i godi prisiau llyfrau, er eu bod yn ceisio ymdopi â chostau cynyddol argraffu'r cyfrolau a rhedeg eu busnesau.
'£80,000 yn fwy ar bapur'
"Welon ni godiadau aruthrol yng nghostau popeth," meddai Garmon Gruffudd o wasg Y Lolfa wrth drafod heriau ariannol y flwyddyn ddiwethaf.
"Er enghraifft, warion ni £80,000 yn fwy ar bapur. Mae costau platiau, inc a glud a phopeth wedi mynd trwy'r to, a hefyd mae costau egni wedi dyblu, os nad treblu."
Yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth, mae Y Lolfa wedi bod yn cyhoeddi llyfrau ac yn darparu gwasanaeth argraffu ers 1967.
Dywedodd Mr Gruffudd i'r wasg weld "cynnydd bychan mewn gwerthiant" y llynedd.
"Fel cwmni sydd yn argraffu ac yn cyhoeddi, mae bron popeth rydyn ni'n gwneud yn cael ei argraffu ar bapur, felly mae unrhyw gynnydd mewn pris papur yn mynd i effeithio yn aruthrol arnom ni."
Angen codi prisiau'n 'ofalus iawn'
Mae Y Lolfa yn cytuno gyda'r Cyngor Llyfrau bod angen codi prisiau llyfrau Cymraeg, ond yn pwysleisio fod angen bod yn "ofalus iawn."
Dywedodd Mr Gruffudd: "Mae'n rhaid i ni godi prisiau. Mae'n gyfnod o chwyddiant, ac fel popeth arall yn anffodus mae'n rhaid i brisiau llyfrau godi hefyd.
"Ond 'da ni am drio peidio codi prisiau yn ormodol, achos y peryg yw bydd pobl yn rhoi'r gorau i brynu llyfrau.
"Felly mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud hynny."
Mae'r Cyngor Llyfrau hefyd am weld mwy o amrywiaeth ymhlith y cyfrolau sy'n cael eu cyhoeddi, gan rybuddio bod 'na ormod o gystadleuaeth am rai darllenwyr a diffyg opsiynau i eraill.
"'Da ni yn darparu grantiau i nifer o'r gweisg, ac mae'r grantiau yna i fod ar gyfer darparu amrywiaeth i'r farchnad," meddai Mererid Boswell.
"Mae hynny yn bwysig - bod pawb yn cael eu cynrychioli o fewn y llyfrau hynny."
'Ni'n ymdopi'n weddol'
Siop lyfrau Cant a Mil ydy un o siopau Cymraeg mwyaf llwyddiannus Caerdydd, gyda dysgwyr yn arbennig yn prynu llyfrau a mynychu digwyddiadau.
Mae perchennog Cant a Mil, Jo Knell, hefyd yn pwysleisio fod angen amrywiaeth ar y silffoedd i gadw'r diwydiant llyfrau Cymraeg i ffynnu.
"'Da ni yn lwcus i fod yn y brifddinas, lle mae llawer o bobl eisiau llyfrau Cymraeg, a llawer o bobl yn dysgu Cymraeg, felly mae 'na wastad gwsmeriaid newydd," meddai.
"'Da ni yn ymdopi yn weddol llwyddiannus gyda'r pwysau."
Ychwanegodd Ms Knell fod y pandemig wedi helpu'r siop i werthu llyfrau.
"Roedd pobl wedi ailddarganfod y pleser o ddarllen, y pleser o ddarllen gyda'r plant, ac roedd llawer o bobl yn cael cysur wrth ddarllen neu ailddarganfod llyfrau," meddai.
'Llyfrau da wastad yn gwerthu'
Tra bod gweisg yn ystyried cyhoeddi llai o deitlau gwahanol i ymdopi â'u costau cynyddol, mae Ms Knell yn gobeithio y bydd ansawdd uchel y farchnad yn parhau.
"Mae'n drueni os ydyn ni yn gweld llai o lyfrau, llai o amrywiaeth," meddai.
"Ond dwi yn ffyddiog y bydden nhw yn canolbwyntio ar ansawdd.
"Mae llyfrau da wastad yn gwerthu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023