'Dim dewis ond gwerthu siop llyfrau Cymraeg Llandudno'

  • Cyhoeddwyd
Siop Lyfrau LewisFfynhonnell y llun, Siop Lyfrau Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno bellach ar y farchnad

Mae perchennog siop llyfrau Cymraeg yn Llandudno wedi dweud nad oes dewis ganddo ond gwerthu wrth i werthiant barhau i ostwng.

Mae Siop Lyfrau Lewis bellach ar y farchnad, gyda'r perchennog Trystan Lewis yn dweud fod "argyfwng costau byw wedi gwaethygu'r sefyllfa".

Dywedodd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio gyda'r Cyngor Llyfrau i sicrhau gwerthiant llyfrau Cymraeg.

Ym mis Mawrth eleni fe ddywedodd Mr Lewis ei bod yn unfed-awr-ar-ddeg ar siopau llyfrau a nwyddau Cymreig.

Daeth hynny wedi i Aled Rees, perchennog Siop y Pethe yn Aberystwyth, ddweud ei fod yn ystyried dyfodol y siop gan nad yw hi bellach yn talu ffordd.

Erbyn hyn, mae Mr Rees wedi cadarnhau y byddan nhw'n cau yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror 2023 wrth iddyn nhw geisio llunio "dyfodol gwahanol" ar gyfer y siop.

'Gwerthiant wedi haneru'

"Dwi ddim yn chwilio am unrhyw gydymdeimlad," meddai Trystan Lewis wrth siarad â Cymru Fyw, "ond doedd gwerthu llyfrau a nwyddau Cymreig mewn siop ddim yn talu ffordd i ni bellach.

"'Dan ni'n byw mewn amseroedd gwahanol.

"Dwi'n credu y dylai'r llywodraeth gydweithio gyda'r Cyngor Llyfrau i sicrhau gwerthiant llyfrau Cymraeg - yn sicr rhai plant.

"Mewn ardal fel Llandudno mae siop sy'n gwerthu llyfrau Cymraeg mor bwysig. Dyw prynu llyfrau ar-lein ddim yr un fath.

"Mae'n hyfryd gweld plentyn yn dod fewn gyda thaleb y mae o wedi'i gael a dewis ei hoff lyfr."

Ychwanegodd Mr Lewis: "Wrth i ni gau bydd y ffeiriau llyfrau roeddem yn eu cynnal mewn neuaddau pentref ac ysgolion yn diflannu a fydd 'na ddim siop Gymraeg ar lannau'r gogledd - does 'na'r un ym Mangor bellach na'r Rhyl.

"Ond doedd dim dewis. Mae argyfwng costau byw wedi gwaethygu'r sefyllfa - ry'n ni'n byw 18 milltir o'r siop ac roedd hi'n ddrud i gyrraedd y siop bob diwrnod.

"Ond hefyd mae'r gwerthiant wedi haneru ers y dyddiau cynnar, gydag ysgolion hefyd yn prynu llawer llai o lyfrau."

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cau'r siop lyfrau yn ergyd i Gymreictod yr ardal, medd Trystan Lewis

Wrth edrych yn ôl ar gyfnod o 15 mlynedd yn y siop, dywed Mr Lewis mai un o'r pethau sydd wedi rhoi'r boddhad mwyaf iddo oedd "gwerthu llwyth o lyfrau plant yn Gymraeg oherwydd yn fanno mae dyfodol y Gymraeg".

"Rydym wedi ceisio bod yn nodded a chanolfan i'r Gymraeg mewn ardal ddigon anodd o ran Cymreictod ac yn falch o hynny," meddai.

"Yn ogystal â gwerthu llyfrau Cymraeg, cardiau a nwyddau Cymreig ry'n wedi bod yn fangre i ddysgwyr i gael cyfarfod am baned a sgwrs.

"Mi oedd yna ddysgwyr yn cyfarfod yma sawl gwaith yr wythnos - a hynny wrth gwrs yn hybu nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd y miliwn o siaradwyr."

Mae'r adeilad Siop Lewis yn un pedwar llawr ac mae Mr Lewis yn pwysleisio y bydd y siop yn parhau ar agor nes daw prynwr.

"Bu'n gyfnod da - ond dyna ni, edrych ymlaen 'dan ni rŵan gan obeithio gawn ni brynwr," ychwanegodd.

'Dim rhedeg busnes - dim ond bodoli'

Dros y penwythnos dywedodd Aled Rees y bydd Siop y Pethe yn cau ym misoedd Ionawr a Chwefror 2023 a'i fod ar hyn o bryd yn trafod cynlluniau newydd ar gyfer y siop.

"Dan ni just about yn cynnal ond nid rhedeg busnes y'n ni - dim ond bodoli. Mae'n drist iawn i weld y stryd fawr - nifer yn cael trafferth," meddai.

"Dyw pethe ddim wedi gwella o gwbl - gwaethygu i ddweud y gwir gydag argyfwng costau byw.

"Ry'n ni'n gorfod rhoi y golau mla'n i ddenu pobl mewn. Fi mewn sefyllfa i ddweud y gwir lle mae'r pen a'r galon yn brwydro yn erbyn ei gilydd - mae'r galon eisiau cadw Siop y Pethe ar agor ond y pen yn dweud yn wahanol."

Ffynhonnell y llun, Siop y Pethe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Siop y Pethe, Aberystwyth ar gau ym misoedd Ionawr a Chwefror 2023

Ychwanegodd: "Mae'r byd yn newid. Mae pobl yn arbed arian ac yn tecstio yn lle anfon cerdyn - mae'n rhatach.

"Fel arfer ro'dd y siop yn middle man - ond ddim rhagor. Mae pobl yn prynu nwyddau yn uniongyrchol.

"Bydd rhaid i ni gau Ionawr a Chwefror - mae'r elw ni'n 'neud dros Nadolig yn mynd i gynnal y siop yn y misoedd yma.

"Allwn ni ddim fforddio fe ac mae gen i gynlluniau ar gyfer y siop - cynlluniau y byddai'n eu rhannu yn ystod y diwrnodau nesaf ond cynlluniau fydd gobeithio yn gallu cynnal y siop yn 2023. Mae'n anodd."

'Covid wedi cael effaith fawr ar y stryd fawr'

Yn gynharach eleni dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu gweledigaeth ar gyfer yr iaith yn "allblyg ac yn gynhwysol" a'i bod yn bwysig fod pawb yng Nghymru yn teimlo bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw.

"Strategaeth hirdymor yw Cymraeg 2050 sy'n datgan map ffordd a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â'r gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd," medd llefarydd.

"Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bod pandemig Covid wedi cael effaith fawr ar y stryd fawr a busnesau bach ledled Cymru, a dyna pam, ers dechrau'r pandemig, ein bod wedi ymrwymo mwy na £2.5bn i fusnesau ledled Cymru, yn ychwanegol at ein cefnogaeth arferol drwy Busnes Cymru.

"Gyda'i gilydd, mae hyn wedi helpu i amddiffyn miloedd o gwmnïau a diogelu llawer mwy o swyddi."

Mewn ymateb i gais Mr Lewis ar i'r llywodraeth gydweithio gyda'r Cyngor Llyfrau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein hiaith a'n diwylliant yn agored i bawb wrth i ni weithio tuag at Cymraeg 2050.

"Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cwmni adnoddau addysg dwyieithog gan Gymru, i Gymru. Bydd yn sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael."