Y gŵr o'r Barri sydd y tu ôl i gyfrif TikTok Cory's World
- Cyhoeddwyd
Mae gan Cory o'r Barri 175,000 o ddilynwyr ar ei gyfrif TikTok.
Mae'r gŵr 26 oed yn rhannu fideo yn ddyddiol yn dangos yr hyn y mae wedi ei fwyta yn ystod y dydd, ac mae'r fideos hynny bellach wedi cael eu 'hoffi' 9 miliwn o weithiau gan ddefnyddwyr y platfform. Cafodd Cymru Fyw gyfle am sgwrs gydag o i ddarganfod mwy am y seren ryngwladol o Fro Morgannwg.
'Gwna fe... fydd e'n hwyl!'
Cafodd Cory ei ysbrydoli gan ei ffrind, Charly, i ddechrau postio'n ddyddiol ar TikTok. Mae Charly ei hun yn seren ar y platfform, ac mae ganddi hi bron i 360,000 o ddilynwyr.
Eglura, "Mi oedd gen i gyfrif am flynyddoedd, ond wnes i ddim dechrau postio arno fe tan fis Awst y llynedd. Mae Charly wedi bod yn gwneud fideos ers y cyfnod clo, ac oedd hi'n dweud wrtho fi ddechrau gwneud rhai 'What I Eat In A Day'. Felly, mi wnes i un ac mi wnaeth e chwythu lan! Ers hynny, rydw i'n gwneud un bob dydd.
"Wnes i 'mond ei wneud e fel jôc. Roedd gen i 300 o ddilynwyr, i gyd yn ffrindiau a theulu, ac iddyn nhw o'n i'n ei wneud e. O fewn y tair wythnos cyntaf, mi wnes i daro 10,000 o ddilynwyr, ac ers hynny mae wedi tyfu a thyfu."
'Aethon ni i Amsterdam ac mi wnaeth pobl ofyn i ni am luniau'
Mae cariad Cory, Lea, yn ymddangos yn aml yn y fideos, ac mae pobl ar hyd a lled y byd yn ei adnabod o, Lea a Charly pan maen nhw'n mynd ar wyliau.
"'Dyn ni'n cael ein stopio yn gyhoeddus, ac mae pobl yn tynnu lluniau. Mae'n crazy! Aethon ni i Amsterdam ac mi wnaeth pobl ofyn i ni am luniau... ac yn Cyprus hefyd!"
I Cory, mae cynnwys ei deulu a'i ffrindiau'n bwysig, gan ei fod yn credu bod y fideos yma'n gofnod hanesyddol iddyn nhw.
"Mae fy ffrindiau a fy nheulu wedi bod mor gefnogol. Mae'n braf cael edrych yn ôl ar y fideos wedyn. Er enghraifft, ar ddiwrnod Nadolig, mi es i draw at deulu fy nghariad ac yna at fy nheulu i. Oherwydd 'mod i wedi gwneud y fideo, mae gen i gofnod nawr o'n diwrnod Nadolig ni.
"Pan fydd fy nheulu i ddim yma ddim mwy, mi fydd gen i record o hynny. Bu farw fy nhad-cu ychydig o flynyddoedd yn ôl, a does gen i ddim fideos ohono fe."
Perthynas gymysg gyda bwyd dros y blynyddoedd
Mae'n ymwybodol nad ydi popeth y mae'n ei fwyta yn y fideos yma yn cael eu hystyried yn iach, yn enwedig pan mae'n bwyta prydau o fwytai bwyd cyflym. Pan yn ieuengach, doedd o ddim yn hoff iawn o'r math yma o fwyd, fodd bynnag.
"Roeddwn i'n arfer bod yn fussy iawn hefo fy mwyd. Mi'r oeddwn i'n casau bwyd oedd ddim yn iach, a pan oeddwn i'n blentyn, yr unig beth oeddwn i'n ei fwyta oedd veg a cooked dinner. Os oedd Mam yn mynd â ni i McDonalds neu'r chippy, doeddwn i jest ddim isie bwyta bwyd fel 'na.
"Fel oeddwn i'n mynd yn hŷn, mi wnes i gyfyngu lot ar yr hyn oeddwn i'n ei fwyta jest achos oeddwn i'n ymwybodol iawn o fy mhwysau. Mi oeddwn i'n cyfri calorïau. Ond, un diwrnod, mi wnes i feddwl... mae bywyd yn rhy brin, a nawr 'dw i ddim yn cyfyngu fy hun yn yr un ffordd.
"Mae'n bwysig bwyta bwyd iach os mai dyna beth ydych chi isie gwneud, ond dydi e ddim yn rywbeth 'dw i'n ei fwynhau ddim mwy."
Ers creu'r fideos yma, mae wedi gweld newid yn ei hunan-hyder a pha mor gyfforddus ydi o yn ei groen ei hun, meddai.
"Pan oeddwn i'n yr ysgol, doedd pobl ddim yn neis iawn. Roeddwn i'n cael fy mwlio, ac mi'r oeddwn i'n casau'r ffaith 'mod i'n wahanol ac yn dipyn o freak. Ers bod ar TikTok, fi'n teimlo'n llawer gwell am fi fy hun, a dw i wedi gwneud i bobl eraill deimlo'n well amdanyn nhw eu hunain hefyd."
Mae'n derbyn nifer o negeseuon gan ddilynwyr, ond doedd o heb ragweld y buasai'n newid bywydau pobl i'r graddau hyn.
"Doeddwn i ddim wedi meddwl dechrau helpu pobl yn bwrpasol. 'Nes i ei wneud e am hwyl. Ond, mi ges i bobl yn gyrru negeseuon i fi yn dweud 'mod i wedi eu helpu nhw hefo anhwylderau bwyta. Mi wnaeth pobl gyda pherthynas wael gyda bwyd gysylltu i ddweud 'mod i yn eu gwneud nhw deimlo yn fwy hyderus, ac yn teimlo eu bod nhw'n gallu bwyta unrhyw beth heb deimlo euogrwydd. Dyna sy'n fy ysbrydoli fi bostio bob dydd."
Rhoi'n ôl i'r gymuned
Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac roedd hynny'n fuddiol iddo am flynyddoedd tra'n gweithio gyda llinell Gymraeg Cyngor ar Bopeth [Citizens Advice], meddai. Fodd bynnag, yn ddiweddar, mae'n gweithio rhan amser fel gweithiwr cymdeithasol gyda phobl â dementia, ac mae wrth ei fodd yn gwneud hynny.
"Dw i'n mwynhau'n fawr be' dwi'n ei wneud nawr. Mae'n lwybr gwahanol iawn i mi o ran gyrfa. Roeddwn i'n gweithio ar ben fy hun yn aml gyda Citizens Advice ond dwi'n cael gweithio gyda'r henoed nawr a 'dw i wrth fy modd."
Er ei boblogrwydd, does ganddo ddim awydd gadael y gyrfa hwn i fod yn ddylanwadwr llawn amser.
"Faswn i ddim isie gwneud TikTok llawn amser. Mae'r swydd rhan amser yn cadw fi yn grounded. Mae gen i lwythi o fwytai yn fy ardal yn gofyn i fi, Lea a Charly i fynd i lawr yno i wneud fideos. Mae 'na bobl hefyd yn gofyn i fi anfon fideos iddyn nhw yn dweud pen-blwydd hapus neu rywbeth fel 'na. Ond, dydi hynny ddim yn apelio, dw i isie gwneud y fideos am ddim. Dwi isie rhoi yn ôl.
"Mae 'na downsides i TikTok, mae'n cymryd amser ac mae 'na bobl yn gadael sylwadau cas. Ond mae 'na fwy o dda na drwg."
Hefyd o ddiddordeb: