Pum munud gyda'r gantores Bronwen Lewis

  • Cyhoeddwyd
Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis

Mae'r gantores Bronwen Lewis o Gastell-nedd wedi profi llwyddiant mawr ar-lein yn y cyfnod clo gyda channoedd o filoedd o bobl yn mwynhau ei fersiynau Cymraeg o ganeuon poblogaidd ar Tik Tok.

Bu rhaid i Bronwen, sy' wedi cystadlu ar sioe deledu The Voice yn y gorffennol, newid ei gyrfa o berfformio'n fyw i berfformio'n ddigidol ac mae wedi canfod cynulleidfa newydd i'w chanu gyda nifer yn clywed y Gymraeg am y tro cyntaf drwy ei pherfformiadau. Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei phrofiad.

Rwyt ti wedi 'mynd yn viral' gyda dy fersiynau Cymraeg di o ganeuon poblogaidd - sut brofiad ydy hynny wedi bod yn y cyfnod clo?

Mae wedi bod yn brofiad mor, mor arbennig! Dwi methu credu y sylw. Dwi wedi bod yn cyfieithu caneuon am flynyddoedd nawr, ac oherwydd TikTok, dros nos dwi 'di cael gymaint o ddilynwyr. Dwi mor hapus bod pobl ar draws y byd yn joio clywed y Gymraeg mewn ffyrdd wahanol.

Roedd blwyddyn mawr o dy flaen pan ddigwyddodd y pandemig - sut wyt ti wedi delio gyda'r newid bywyd yn y cyfnod clo?

Roedd rhaid newid pob rhan o'm mywyd i mewn wythnos i fod yn onest. Fy ngyrfa i oedd perfformio'n fyw ac yn sydyn nid oedd modd 'neud hynny.

Felly wnes i droi popeth yn ddigidol. Dechreuais i TikTok, wnes i ganu ar cyfarfodydd Zoom cwmnïau lleol, wnes i ganu ar stepen y drws fel rhan o Sing For Wales, wnes i dechre 'neud gigs rhithwir ar Facebook bob penwythnos, ac fe wnaeth y dilynwyr a chefnogwyr jest gynyddu.

Dwi wedi neud 43 gig ar-lein nawr ers Mawrth 2020, a thrwy tips ariannol fy nilynwyr dwi wedi gallu rhoi dros £2000 i elusennau lleol. Mae locdown a'r pandemig wedi bod yn anodd ac yn llawn ofn, ond mae'n rhaid i mi gofio pa mor lwcus dwi 'di bod ynglŷn â gallu 'neud rhyw fath o waith a'r profiadau dwi 'di cael drwy 'neud perfformiadau digidol.

Mae un o dy fideos wedi cael ei wylio bron i 200,000 o weithiau! Ydy e wedi bod yn syndod i ti pa mor boblogaidd maen nhw wedi bod?

Syndod llwyr. Dwi wedi bod yn canu fy nghyfieithiadau ers o'n i'n 15 oed mewn tafarnau lleol, felly o'n i'n meddwl bod e'n rhywbeth eitha' normal i 'neud! Ond mae'r ymateb wedi bod yn wych. Dwi wastad wedi meddwl bod popeth yn swno'n well yn Gymraeg, ond nawr mae pobl eraill yn meddwl hynny hefyd. O'n i moyn lledaenu'r iaith mewn ffordd positif a hwyl, a gobeithio dwi 'di 'neud hynny!

Ffynhonnell y llun, Bronwen Lewis

Sut mae'r llwyddiant ar-lein wedi newid dy yrfa a dy fywyd?

Mae llawer wedi newid ym mhob rhan o'n fywyd i. Nawr mae gen i blatfform lot mwy i allu cysylltu gyda amrywiaeth mawr o bobl. Mae pobl yn cysylltu o bob rhan o'r byd nawr i mi berfformio, recordio ac ysgrifennu ac mae'n fraint enfawr.

Dwi wedi bod yn 'neud cerddoriaeth llawn amser am 10 mlynedd nawr, ac mae wedi bod yn lwybr eitha' anodd ar adegau, ond o'r diwedd dwi 'di cyrraedd lefel yn fy ngyrfa lle dwi'n hollol hapus.

Mae nifer o bobl wedi clywed y Gymraeg am y tro cyntaf drwy dy berfformiadau di - sut ymateb wyt ti wedi cael?

Mae ymateb pobl i'r iaith yn bositif bob tro. Mae gen i ffans o ochr draw y byd sy'n dweud bod y Gymraeg yr iaith mwyaf prydferth maen nhw 'di clywed erioed.

Mae gynnon ni iaith mor sbeshal, yn enwedig am ei fod e'n swnio MOR dda gyda cherddoriaeth. Sylw rhan fwyaf o bobl yw bod popeth yn swnio'n 'well yn Gymraeg' ac mae hynny'n gwneud fi'n falch iawn o fod yn Gymraes.

Ffynhonnell y llun, Bronwen Lewis

Rwyt ti wedi cyrraedd cynulleidfa ifanc sy' wedi bod yn dweud fod dy ganeuon yn Gymraeg yn cŵl - beth yw dy ymateb i hynny?

Fy unig ymateb yw - WAW! Dwi mor mor hapus bod plant yn gweld defnydd yr iaith, a mwy na hynny, bod e'n cŵl ac yn ffres iddyn nhw.

Pan o'n i yn yr ysgol, roedd yr iaith yn teimlo mor formal ac fel rheol (o'n i'n cal cosb os oedd athro yn clywed ni'n siarad Saesneg) a fi'n meddwl mai hyn yw'r ffordd anghywir i hybu'r iaith. Yn lle dweud 'mae rhaid i ti siarad Cymraeg' beth am, 'dyma ein iaith ni, a dyma sut i defnyddio e mewn ffyrdd hwyl a diddorol!'

Os wyt ti'n troi iaith mewn i 'rheol', bydd plant bob amser yn gwrthryfela yn erbyn hynny.

Pob amser dwi'n dweud wrth blant faint mae'r iaith wedi agor drysau i fi - The Voice, y ffilm Pride, Radio 1 - a thrwy ddangos pa mor modern a defnyddiol yw e, ni'n hybu'r iaith pob tro! Cofiwch, dyle siarad iaith fel Cymraeg fod yn HWYL, nid yn dasg.

Beth nesaf i ti?

Nesaf mae gen i albym o'r enw Canvas sy'n llawn caneuon gwreiddiol Cymraeg a Saesneg yn dod allan mis Gorffennaf.

Byddai'n cario mlaen i neud y TikToks Cymraeg ac hefyd dwi yng nghanol trefnu taith o amgylch Prydain ar gyfer y gaeaf.

Dwi mor ddiolchgar i bawb am y gefnogaeth.

Hefyd o ddiddordeb