Neb i gael ei erlyn yn achos damwain trên Llangennech
- Cyhoeddwyd

Daeth 10 o danciau tanwydd oddi ar y cledrau yn dilyn y digwyddiad yn 2020
Fydd neb yn cael eu herlyn ar ôl i drên nwyddau ddod oddi ar y cledrau yn Llangennech ger Llanelli ym mis Awst 2020, gan arllwys cannoedd o filoedd o litrau o ddisel i'r ddaear.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gael unrhyw gwmni yn euog, ac y byddai erlyn yn wastraff o arian cyhoeddus.
Er hynny, fe ddywedon nhw ei bod hi'n "benderfyniad anodd a siomedig" iddyn nhw ei wneud.
Cafodd y penderfyniad i beidio ag erlyn ei ddisgrifio fel un "trychinebus" i gasglwyr cocos yn yr ardal.
'Dim gobaith realistig'
Daeth y trên oddi ar y cledrau ychydig wedi 23:00 ar 26 Awst, 2020.
Cafodd bron i 330,000 litr o danwydd ei ollwng. Fe gymerodd hi dros 30 awr i ddiffodd y tân, a bu gwasanaethau brys yn gweithio drwy'r nos.
Bu'r wagennau'n llosgi am dros 30 awr, a bu llinell reilffordd Calon Cymru ar gau am saith mis.
Flwyddyn yn ôl daeth adroddiad yr RAIB (Rail Accident Investigation Branch) i Lywodraeth y DU i'r casgliad mai brêcs diffygiol oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am y ddamwain.

Roedd safle'r ddamwain ger aber Afon Llwchwr
Nawr mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod i'r casgliad na allen nhw fod yn hyderus o erlyn unrhyw gwmni nac unigolyn yn llwyddiannus.
"Er bod tystiolaeth gref yn nodi'r hyn oedd yn debygol o fod yn gyfrifol am achosi i'r trên ddod oddi ar y cledrau, a'r effaith a gafodd hynny ar yr amgylchedd, ni fu'n bosibl penderfynu pwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw am achosi i'r trên ddod oddi ar y cledrau," meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau'r De Orllewin CNC.
"Rydym wedi ymchwilio i bob trywydd posibl fel rhan o'r archwiliad, ond er hynny, nid oes digon o dystiolaeth i sicrhau unrhyw obaith realistig o ddwyn achos yn erbyn unigolyn neu gwmni penodol.
"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd a siomedig i CNC ei wneud. Bydd effaith y digwyddiad hwn i'w deimlo yn yr amgylchedd am flynyddoedd i ddod."
'Dysgu gwersi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod pobl yn disgwyl i'r sawl oedd yn gyfrifol i wynebu'r canlyniadau.
"Fel CNC, rydym yn siomedig er yr ymchwiliad trylwyr, nad oeddynt yn gallu erlyn unrhyw un am y digwyddiad.
"Er hyn fe wnaeth y gwaith adfer ar ôl y digwyddiad helpu sicrhau nad oedd difrod amgylcheddol pellach gan gyfyngu ar y niwed hir dymor. Fel sydd i ddisgwyl roedd y rhai ynghlwm a'r digwyddiad yn gyfrifol am gost y gwaith yma - gan sicrhau fod y rhai wnaeth lygru yn talu am y difrod.
"Mae nifer o ymchwiliadau nawr wedi eu cwblhau ac mae'n bwysig fod gwersi yn cael ei dysgu er mwyn osgoi rhywbeth fel hyn yn digwydd eto."
'Diffyg atebolrwydd'
Fe ddigwyddodd y ddamwain mewn safle sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, ac o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cilfach Tywyn.
Mae'n cwmpasu tua 4,000 hectar o bysgodfa gocos, ac yn ôl y casglwyr cocos, mae'r penderfyniad i beidio ag erlyn yn ergyd drom.
Bu'n rhaid cau'r gwelyau cocos am hyd at wyth wythnos ar ôl y ddamwain er mwyn cynnal profion am lygredd.
Dywedodd Ashley Jones, perchennog cwmni cocos Selwyn ym Mhenclawdd, fod y ddamwain wedi digwydd ar "yr adeg prysuraf i'r casglwyr", a'u bod o ganlyniad wedi colli hyd at £15,000 - tua thraean o'u hincwm am y flwyddyn.

Fe wnaeth y ddamwain achosi cryn dipyn o ddinistr i amgylchedd yr ardal
Mae Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith, yn dweud bod diffyg atebolrwydd a bod hyn yn siom enfawr i'r casglwyr cocos a phobl leol.
Galwodd ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod "cyrff cyhoeddus yn atebol pan fo damweiniau fel hyn yn digwydd".
Dywedodd Llywodraeth y DU na fyddan nhw'n ymateb i honiadau yn ymwneud ag erlyniadau na chyfrifoldeb.
Mae sgil effeithiau'r ddamwain, a'r disel gafodd ei ollwng o'r trên a'r wagenni, yn dal i gael ei fonitro. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fe fydd y gwaith hwnnw'n parhau am flynyddoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020