Adran Dau: Casnewydd 2-2 Stevenage

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Sgoriodd Omar Bogle ddwywaith i Gasnewydd wrth iddyn nhw ymestyn eu rhediad heb golli i dair gêm.

Roedd yn ddechreuad hunllefus i'r Alltudion wrth iddyn nhw ildio ar ôl dim ond tri munud, gydag ergyd Luke Norris yn canfod cefn y rhwyd.

Erbyn yr egwyl roedd hi'n hafal, wedi i Bogle sgorio gyda dau funud yn weddill o'r hanner.

Unwaith eto cafodd Casnewydd eu cosbi bron yn syth wedi i'r chwarae ailddechrau, gyda foli Jordan Roberts ar ôl 49 munud yn rhoi Stevenage yn ôl ar y blaen.

Ond rhwydodd Bogle o'r smotyn gyda chwe munud yn weddill i sicrhau pwynt.

Pynciau cysylltiedig