Adran Dau: Walsall 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Isaac Hutchinson yn sgorio i Walsall yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Isaac Hutchinson yn sgorio i Walsall yn yr hanner cyntaf

Fe lwyddodd yr Alltudion i gipio pwynt gwerthfawr mewn gêm anodd brynhawn Sadwrn.

Gêm rhwng dau dîm yng nghanol y tabl oedd y gêm yn Walsall ond roedd hi'n gem gystadleuol.

Hanner foli troed chwith gan Isaac Hutchinson o 25 llath roddodd Walsall ar y blaen ar ôl llai na hanner awr a doedd dim gobaith i Nick Townsend, gôl geidwad yr Alltudion, ei hatal.

Fe wnaeth Casnewydd bedwar newid yn ystod hanner amser er mwyn ceisio cael gafael ar y gêm ond prin oedd y cyfleon roeddynt yn eu greu.

Yna o gic gornel fe ddaeth gobaith i gefnogwyr Casnewydd - daeth croesiad Adam Lewis o gic gornel i'r blwch cosb ac fe gododd Cameron Norman yn uwch na neb a phenio i'r rhwyd.

Gêm gyfartal felly a'r Alltudion yn falch o'r pwynt gwerthfawr.