Adran Dau: Casnewydd 0-2 Sutton United
- Cyhoeddwyd
![Coby Rowe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16B6B/production/_128753039_cdf_250223_newport_v_sutton_02.jpg)
Coby Rowe yn dathlu ei gôl gynnar i Sutton
Mae Casnewydd wedi colli am y tro cyntaf mewn pum gêm yn dilyn canlyniad siomedig yn erbyn Sutton yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o fewn 10 munud wrth i Coby Rowe rwydo yn dilyn cic gornel.
Er mai Casnewydd oedd yn pwyso, dyblwyd mantais Sutton wedi 65 munud, gydag Alistair Smith yn sgorio o ymyl y cwrt cosbi.
Mae'r canlyniad yn gweld yr Alltudion yn disgyn o 16eg i 18fed yn nhabl Adran Dau.