Llangefni: Pryderon bywyd gwyllt yn taro cynllun cabanau gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i godi cabanau gwyliau ar gyrion Llangefni wedi cael ergyd yn sgil pryderon am yr effaith ar fywyd gwyllt.
Bwriad Anglesey Lodge and Caravan Ltd yw adeiladu 32 chalet gwyliau rhwng un a phedair llofft yr un ar lôn Penmynydd, ar gyrion y dref farchnad.
Ond brynhawn Mercher aeth cynghorwyr sir yn groes i argymhelliad swyddogion a gwrthod rhoi caniatâd i'r cynllun.
Roedd hynny yn bennaf oherwydd pryderon am yr effaith bosib ar boblogaethau'r wiwer goch.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y cais fis nesaf.
'Datblygiad enfawr'
Mae Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y wiwer goch, gyda choedwig Nant y Pandy - neu'r Dingl - yn fan lle gellir gweld yr anifeiliaid o fewn ffiniau'r dref yn rheolaidd.
Ond yn ôl cynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol, nid oedd ffyniant y wiwer goch wedi cael digon o sylw gan swyddogion tra'n paratoi nac ystyried y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, un o aelodau lleol y dref, ei fod yn "ddatblygiad enfawr y tu allan i'r ffin datblygu".
"Bydd unrhyw un sy'n ymweld â'r Dingl yn gwybod bod gynnon ni boblogaeth o wiwerod coch yn yr ardal, ond does dim sôn am hynny yn yr adroddiad," meddai.
"Bydd trigolion Lôn Penmynydd yn dweud wrthych eu bod yn cael eu gweld yn aml yn yr ardal y mae'r cais hwn yn cyfeirio ati."
Ychwanegodd un arall o gynghorwyr y dref, Geraint Bebb, ei fod "eto i siarad ag unrhyw un yn Llangefni sy'n gefnogol o'r cais".
"Mae 'na ormod o ddarpariaeth o'r math yma ar yr ynys. Ydy, mae twristiaeth yn bwysig i economi'r ynys ond ddylai hynny ddim fod ar draul ein pobl."
Ychwanegodd y Cynghorydd Nicola Roberts tra nad yw trigolion yn erbyn datblygiad, fod "teimlad bod y cynllun hwn yn mynd â Llangefni i'r cyfeiriad anghywir" ac y byddai'n cael "effaith andwyol".
Cyfnod o gnoi cil
Er yn agos at gampws Coleg Menai a'r ffordd gyswllt newydd, barn swyddogion cynllunio'r cyngor oedd bod y cais yn un addas ac nad oedd pryderon wedi'u datgan gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ôl y datblygwyr byddai'r cynllun yn creu dwy swydd lawn amser a hyd at chwech arall rhan amser, yn ogystal â swyddi glanhau a chynnal a chadw.
Yn "ddatblygiad o ansawdd uchel", dywedon nhw mai'r bwriad oedd "darparu llety a chyfleusterau o safon i ymwelwyr gydag effaith gyfyngedig iawn a chwbl dderbyniol ar yr amgylchedd a buddiannau cadwraeth natur a bioamrywiaeth".
"Byddai'r cynnig hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol a gwerthfawr i'r economi leol drwy wariant ymwelwyr a chyflogaeth uniongyrchol, a fydd yn cynorthwyo i gefnogi teuluoedd a gwasanaethau lleol," ychwanegodd.
Ond er rhybudd y byddai'r datblygwyr yn debygol o sicrhau caniatâd ar apêl, o chwe phleidlais i bump brynhawn Mercher fe benderfynodd aelodau o bwyllgor cynllunio Môn i wrthod y cais.
Mae'r datblygwyr wedi cael cais i ymateb.
O ganlyniad bydd y mater yn ôl gerbron cynghorwyr fis Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2018