Gwiwerod coch ar gynnydd yng nghynefin bele'r coed

  • Cyhoeddwyd
Wiwer goch a bele'r coedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadwraethwyr sy'n ceisio diogelu gwiwerod coch yng Nghymru wedi cael eu calonogi gan newyddion y gallai creadur brodorol arall fod yn helpu eu hachos.

Mae ymchwil gan Brifysgol Queens yn Belffast yn awgrymu bod nifer y gwiwerod coch ar gynnydd mewn ardaloedd lle mae bele'r coed hefyd yn byw.

Y rheswm a roddir yn yr ymchwil yw bod bele'r coed yn ysglyfaethu gwiwerod llwyd llawer mwy nag y maen nhw'n yn ei wneud ar wiwerod coch.

Mewnforiwyd gwiwerod llwyd i'r DU o Ogledd America yn y 19eg ganrif, ac ers iddyn nhw ddechrau bridio yn y gwyllt maen nhw wedi achosi dirywiad sylweddol yn nifer y gwiwerod coch brodorol.

Mae'r llwyd, sy'n fwy o faint, yn gallu cystadlu yn erbyn y goch am fwyd a chynefin. Mae hefyd yn cario clefyd y mae'n imiwn iddo ond sy'n gallu difa poblogaeth gyfan o rai coch.

Mae'r ymchwil o Belffast wedi cael ei groesawu gan Bartneriaeth Gwiwer Goch y Canolbarth - mae'r aelodau yn ceisio amddiffyn y rhywogaeth mewn ardal lle mae belaod nawr yn byw.

Rhwng 2015 a 2017 ailgyflwynwyd belaod i goetir ger Pontarfynach yng Ngheredigion. Ers hynny maen nhw wedi symud i rannau eraill o'r canolbarth.

Mae swyddogion y bartneriaeth wedi eu ffilmio yng Nghoedwig Tywi ger Llanbedr Pont Steffan, tua 30 milltir i'r de o Bontarfynach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Harries yn gweld mwy o wiwerod coch a llai o rai llwyd nag yn y gorffennol

Dywed Phil Harries o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru fod presenoldeb y belaod yn cael effaith ar nifer y gwiwerod llwyd.

"Ni wedi bod yn gwneud surveys ers tua pedair i bum mlynedd nawr ac ry'n ni wedi dechrau gweld mwy a mwy o wiwerod coch," meddai. "Gwnaethon ni survey tua chwe mis yn ôl a ffeindion ni byti pymtheg, ac mae lot o luniau o wiwerod coch 'da ni ar y camera traps.

"Pan ddechreuais i [yn 2005] doedd e'n ddim byd i ddal dau neu dri chant o wiwerod llwyd. Ond nawr, lle mae'r rhai coch, ti'n lwcus i gael un neu ddau, a 'sa i'n credu gawn ni rheiny nawr mae'r bele wedi troi lan.

"Gweld y wiwer goch yn y pentre, dyna beth licen i wneud. Mas ble dylai fe fod, mas yn y coed caled a dim yn cwato yn yr elltydd milltiroedd mewn a neb yn gweld e dim ond fi."

'Wedi esblygu gyda'i gilydd'

Mae'r ymchwilwyr yn Belffast yn credu bod bele'r coed yn targedu nythod gwiwerod llwyd, gan fynd ar ôl y rhai ifanc a'r menywod sy'n gofalu amdanynt.

Ac er y byddai'r belaod hefyd yn ysglyfaethu ar wiwerod coch, maen nhw'n gwneud hynny ar lefel lawer is na gyda'r llwydion.

Credir mai un rheswm am hyn yw bod bele'r coed a gwiwerod coch - y ddau yn frodorol o Ewrop - wedi esblygu ochr yn ochr â'i gilydd, ac o ganlyniad mae gwiwerod coch yn fwy ymwybodol o fygythiad y bele na'r wiwer lwyd Americanaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Denman yn croesawu awgrymiadau'r ymchwil diweddaraf

Mae Huw Denman yn goedwigwr o Sir Gaerfyrddin a weithiodd gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent ar ailgyflwyno bele'r coed i'r canolbarth.

Dywedodd: "Mae'r wiwer goch wrth gwrs wedi bod yn cyd-fyw gyda'r bele ers miloedd o flynyddoedd, tra bod y wiwer lwyd wedi dod o America jyst dros ganrif yn ôl.

"Ond mae'r wiwer goch a'r bele wedi esblygu gyda'i gilydd a falle bod ymddygiad y wiwer goch bach yn wahanol a bod nhw'n osgoi y bele.

"Hefyd mae'r wiwer lwyd bron dwywaith maint y wiwer goch a falle bod hwnna'n rhoi gwell cyfle i'r bele, achos mae'n cael mwy o fwyd am y gost o hela'r wiwer.

"Mae digon o dystiolaeth o Iwerddon ac o'r Alban ble mae'r bele wedi dod nôl mae'r wiwer goch wedi dod nôl 'da fe, a'r wiwer lwyd wedi diflannu fel mae'r bele yn dod nôl. Felly dwi'n credu bod hynny yn mynd i ddigwydd yng Nghymru. Mae'n newyddion arbennig o dda."

Ar un adeg roedd gwiwerod coch yn byw ym mhob rhan o Gymru, ond maen nhw i'w gweld bellach mewn pocedi yn unig.

Yn ogystal â mewn rhannau o'r canolbarth, amcangyfrifir bod 800 ar Ynys Môn - o le mae gwiwerod llwyd wedi'u difa'n gyfan gwbl - ac yng Nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun.

Mae rhai gwiwerod coch hefyd wedi cael eu gweld yng Ngwynedd. Ym mis Gorffennaf, rhyddhawyd pedwar bele'r coed i goedwig ger Bangor fel rhan o brosiect Red Squirrels United - rhaglen yr UE i ddiogelu poblogaethau o wiwerod coch.

Dywedodd Craig Shuttleworth, sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ar Ynys Môn: "Mae'n ddyddiau cynnar, ond maen nhw eisoes wedi bod yn bwyta gwiwerod llwyd, brain a phiod.

"Ein gobaith yw bod poblogaeth y wiwer goch ar y tir mawr yn parhau i ledaenu a bod bele'r coed yn sefydlu ar draws gogledd Gwynedd.

"Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol mai dim ond un elfen yn y dull integredig o reoli gwiwerod llwyd yw'r bele a bydd angen i ni fod yn wyliadwrus a chael gwared ar unrhyw wiwerod llwyd sy'n dychwelyd i Ynys Môn."