Adran Dau: Salford 3-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Salford o ddyrchafiad yn parhau yn fyw wrth iddynt ddod yn ôl i guro Casnewydd.
Rhoddodd Harry Charsley yr Alltudion ar y blaen ar ôl gwaith da gan gyn-chwaraewr Cei Conah, Priestley Farquharson.
Ond daeth Salford yn gyfartal ar ddiwedd yr hanner diolch i Callum Hardy.
Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi i Conor McAleny guro Joe Day yn fuan wedi'r egwyl.
Sicrhawyd y triphwynt diolch i beniad funud olaf Elliot Watt o gic gornel.
Mae ail golled yn olynol Casnewydd yn eu gadael yn yr 18fed safle.