Adran Dau: Grimsby 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Priestley Farquharson yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amddiffynnwr Priestley Farquharson (chwith) wedi sgorio deirgwaith yn y gynghrair ers dechrau'r tymor

Llwyddodd Casnewydd i fachu pwynt oddi cartref wedi i'r amddiffynnwr Priestley Farquharson ddod â nhw'n gyfartal gyda Grimsby yn yr ail hanner.

Roedd John McAtee (36) wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen gyda foli penigamp ar ôl gwneud y mwyaf o hanner cyfle.

Ond fe gysylltodd Farquharson â chic gornel gan gyfeirio'r bêl i'r rhwyd o'r postyn pellaf wedi 55 o funudau.

Golyga'r canlyniad bod yr Alltudion wedi sicrhau pwynt wedi dwy golled yn olynol yn Adran Dau.

Maen nhw yn 18fed safle'r tabl gyda 38 o bwyntiau, dau safle'n is na Grimsby.