Adran Dau: Casnewydd 1-1 Bradford City

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Casnewydd yn dathlu dod yn gyfartalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Casnewydd yn dathlu dod yn gyfartal

Bu'n rhaid i Gasnewydd fodloni ar bwynt yn dilyn gêm gyfartal - gôl yr un - yn erbyn Bradford City yn Adran Dau.

Fe roddodd Andy Cook yr ymwelwyr ar y blaen yn Rodney Parade wedi 36 o funudau gydag ergyd droed dde o ganol y blwch i waelod cornel chwith y rhwyd.

Ond yn anffodus i'r ymwelwyr, eu hamddiffynnwr Liam Ridehalgh wnaeth ddod â'r Alltudion yn gyfartal pan rwydodd i'w gôl ei hun wedi 61o funudau.

Roedd hynny wedi i groesiad Mickey Demetriou ei daro a bownsio dros y golwr Harry Lewis.

Daeth Nathan Moriah-Welsh a Cameron Norman yn agos at sgorio wedi hynny, ond yn ofer gan olygu bod Casnewydd yn parhau yn 18fed safle Adran Dau.