Adran Dau: Tranmere Rovers 1-3 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Aaron WildigFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Wildig sgoriodd y gôl gyntaf i Gasnewydd

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn erbyn Tranmere Rovers, gan eu symud 12 pwynt yn glir o safleoedd y cwymp yn Adran Dau.

Aaron Wildig wnaeth rhoi Casnewydd ar y blaen ar ôl 25 munud, yn dilyn pas gwych gan Harry Charsley.

Fe wnaeth y blaenwr Charlie McNeill ddyblu sgôr yr ymwelwyr yn fuan wedyn, gyda'i gôl cyntaf i'r clwb.

Cafodd y fuddugoliaeth ei gadarnhau gan yr eilydd Calum Kavanagh gyda thrydedd gôl yn hwyr yn yr ail hanner, er i Regan Hendry lwyddo sgorio i'r tîm cartref yn y munudau ychwanegol ar y diwedd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Casnewydd yn codi i 17eg yn y tabl, 12 pwynt yn glir o safleoedd y cwymp, tra bod Tranmere yn disgyn i 14eg.