Gareth Ward: Yr angerdd a'r aberth tu ôl fy nghoginio

  • Cyhoeddwyd
Gareth WardFfynhonnell y llun, Gareth Ward

"Dwi'n caru fy ngwaith. Nid gwaith yw e i fi - mae'n fwy o angerdd ac obsesiwn a dw i ddim yn gadael i unrhyw beth sy'n digwydd yn y byd effeithio arno."

Yng ngwyneb heriau'r cyfnod presennol mae'r cogydd Gareth Ward yn cadw'n bositif ac yn taeru na fydd problemau'r diwydiant bwyd yn ei ddal yn ôl.

Fel nifer yn y byd arlwyo, mae'r cynnydd mewn costau bwyd ac ynni wedi taro ei fusnes, bwyty Ynyshir ger Machynlleth.

Meddai Gareth, sy' wedi cael dau seren Michelin yn Ynyshir, wrth Cymru Fyw: "Mae coginio mewn bwytai yn mynd yn anoddach oherwydd y costau.

"Mae wedi effeithio ar y byd i gyd - mae unrhyw un sy'n dweud nad ydynt wedi eu heffeithio yn dweud celwydd.

"Roedd hi'n ddigon anodd rhedeg bwyty cyn popeth sy'n mynd ymlaen nawr.

"Mae wedi effeithio ar bopeth. Yn Ynyshir mae gennym demograffeg gwahanol yn dod yma ac mae rhai ohonynt dal yn gallu fforddio dod - ond mae rhai'n methu.

"Felly chi'n mynd i weld canran yn llai o bobl yn eich bookings bob blwyddyn. Nhw yw'r rhai sy'n methu fforddio dod yma mwyach.

"Yr unig lefydd sy' ddim yn mynd i gael eu heffeithio yw llefydd fel McDonald's. Achos byddan nhw'n brysur beth bynnag sy'n mynd ymlaen. Hyd yn oed yn y dirwasgiad mwyaf byddwch dal i allu fforddio burger £2 o McDonald's."

Cynyddu prisiau

Mae Gareth, sy'n disgrifio ei fwyd yn Ynyshir fel "bwyd blasus yn defnyddio cynhwysion anhygoel", wedi gweld fod pris y cynhwysion hynny wedi cynyddu yn ddiweddar, gan arwain at gynnydd yn y gost o fwyta yno (tua £350 y pen).

Meddai: "Yn anffodus mae'n rhaid i chi gynyddu eich prisiau - mae cyflogau yn cynyddu, cost cynhwysion yn cynyddu, mae cost yr aer ni'n anadlu yn cynyddu!

"Does dim pwynt cwyno - jyst bwrw mlaen a chael hwyl."

Ac mae Gareth yn ychwanegu gair o gyngor gan chwerthin: "Jyst stopiwch edrych ar eich biliau!"

Ffynhonnell y llun, Heather Birnie
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gogyddion Ynyshir wrth eu gwaith - Patrick, Gareth a Corrin

Obsesiwn

Er gwaethaf popeth mae ei angerdd am goginio yn parhau gyda Gareth, sy'n wreiddiol o ogledd-ddwyrain Lloegr ac sy' wedi gweithio mewn sawl bwyty seren Michelin cyn Ynyshir, yn dweud: "Y diwrnod dwi'n stopio mwynhau coginio fydd y diwrnod dwi'n gwerthu'r bwyty yma a symud i Ibiza gyda fy ngwraig a'm plant er mwyn partïo fy hun i farwolaeth am weddill fy oes."

Mae Gareth yn cydnabod ei fod ag obsesiwn am ei waith ac yn meddwl am goginio "100% o'r amser": "Pan fyddwch chi'n obsessed â choginio, dyna yw'ch bywyd chi. Mae'n ran ohono chi, mae'n rhan o'ch DNA a gyda chi am byth.

"Dwi'n deffro yn ystod y nos ac yn gwneud voice notes i'r staff yn y gegin gyda syniadau sy' wedi dod o fy mreuddwydion.

"Maen nhw (y staff) yn caru fe - maen nhw â'r un angerdd a fi."

Mae busnes i Gareth yn mynd o nerth i nerth gyda'i fwyty newydd, Gwen, yn agor cyn yr haf ym Machynlleth. Bydd cyn-prif gogydd Ynyshir, Corrin Harrison, wrth y llyw yn y lle newydd ac mi fydd y prisiau yn rhatach na Ynyshir.

Meddai Gareth: "Ni'n trio dod â rhywbeth newydd i'r ardal a dwi'n methu aros i drio bwyd Corrin - dwi eisiau iddo wneud fel mae e eisiau.

"Mae'n mynd i fod yn le relaxed a cŵl iawn."

Ffynhonnell y llun, Heather Birnie
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Ward

Cynnyrch Cymru

Ac mae Cymru'n cynnig cynhwysion da ar gyfer ei fusnes, meddai: "Ni'n defnyddio cynhwysion o Gymru... ond hefyd cynhwysion o ledled y byd. Bach o fwyd o Gymru, bach o Ffrainc, Gwlad Thai, Japan... bob man.

"Mae gennym ni ddŵr yn agos felly ni'n gallu cael pysgod cregyn gorau'r byd. A'r cig oen o Gymru yw cig oen gorau'r byd."

Staff

Fel nifer o fwytai eraill yn y cyfnod yma, mae wedi bod yn her i ddenu digon o staff i'w fusnes, fel mae'n cydnabod: "Mae pawb yn dioddef mewn gwahanol ffyrdd. Ond does dim pwynt cwyno, mae'n rhaid bwrw 'mlaen a gwneud iddo weithio.

"Rhowch pethau mewn lle i wneud iddo weithio, ti'n gofalu ar ôl y staff sy' gyda ti gan roi amser i ffwrdd iddyn nhw, talu nhw'n dda a trio cadw nhw a datblygu nhw fel bod nhw'n wych yn eu gwaith."

Ffynhonnell y llun, Heather Birnie
Disgrifiad o’r llun,

Cyri gwyrdd Ynyshir

Aberth

Ac mae denu staff i ardal wledig yn dod â'i heriau hefyd: "Mae'n anoddach achos does dim dinas agos i fynd allan ynddi ond os ydych chi'n wirioneddol o ddifri am eich swydd, ac mae pawb sy'n dod i weithio yn Ynyshir o ddifri am eu gwaith oherwydd maen nhw'n llythrennol wedi newid eu holl fywyd i ddod i weithio yma.

"Ac wedyn maen nhw'n barod i wneud aberth mawr.

"Os ydych chi am lwyddo mewn bywyd, mae'n rhaid i chi aberthu, oherwydd gallwch chi ddim cael popeth. Os ydych chi am fod y gorau, os ydych chi eisiau mynd bellaf, os ydych chi eisiau gweithio galetaf, mae'n rhaid i chi wneud aberth."

Mae Gareth ei hun yn cydnabod fod aberth wedi bod yn ran o'i stori wrth symud i Ynyshir: "Mae gen i gyn wraig gyda dau o blant sy' ddim yn byw gyda fi. Maen nhw mewn rhan wahanol o'r wlad.

"Felly mae hynny'n aberth anferth i symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw a pheidio â gweld fy mhlant bob dydd.

"Dim ond yn y nos byddai'n gweld fy mab dwi'n byw gyda hefyd. Pan fyddai'n dod mewn o'r gwaith ac mae'n cysgu yn y gwely, mae yn aberth enfawr.

"Dydych chi ddim yn cael gwneud y pethau mae pobl eraill yn hoffi eu gwneud fel mynd allan ar y penwythnos a phethau felly. Rydyn ni'n gweithio yma trwy'r dydd yn lle cael nosweithiau i ffwrdd - aberth yw'r cyfan. Ond dyna bywyd.

"Dyw'r diwydiant arlwyo ddim yn wahanol i unrhyw ddiwydiant arall. Os ydych chi eisiau bod y gorau mewn golff neu bêl-droed neu unrhyw beth felly, gallwch chi ddim fynd allan i yfed gyda'ch ffrindiau oherwydd mae'n rhaid i chi fod y mwyaf ffit.

"Os ydych chi eisiau bod y gorau ar unrhyw beth, mae'n rhaid i chi aberthu rhyw faint."

Dyfodol

Ag yntau wedi byw a rhedeg busnes yng Nghymru ers blynyddoedd bellach, ydy Gareth yn gweld ei ddyfodol yma?

Meddai: "Byddai'n cael fy nghladdu dan y goeden yn yr ardd.

"Pam ar y ddaear fyddech chi eisiau byw unrhyw le arall? Mae'n brydferth yma, y lle gorau ar y ddaear."

Beth nesaf iddo fe a'i deulu?

Meddai: "Yn bendant ddim mwy o blant, colli ychydig o bwysau a dod yn fwy heini, cael mwy o hwyl. A gwneud mwy o goginio. Dyna'i gyd."

Pynciau cysylltiedig