Colleen Ramsey: 'Mae coginio yn fy esgyrn'

  • Cyhoeddwyd
Colleen ac Aaron Ramsey a'r teuluFfynhonnell y llun, S4C

"Mae coginio yn ffordd i ymlacio yn sicr - ond hefyd mae'n bwysig i fi i fod yn greadigol a gwthio fy hun i drio pethe newydd. Mae yn fy esgyrn i, dwi ishe creu rhywbeth newydd."

Mae'r dyhead yma wedi arwain Colleen Ramsey i gyhoeddi llyfr coginio a ffilmio cyfres deledu goginio newydd gyda S4C, Colleen Ramsey - Bywyd a Bwyd.

Mae'r cogydd o Gaerffili, sy'n wraig i'r pêl-droediwr Aaron Ramsey, wedi bod yn rhannu ryseitiau a lluniau trawiadol o'i phrydiau bwyd ar Instagram ers blynyddoedd.

Y cam nesaf iddi oedd rhannu ei dawn gyda chynulleidfa fwy eang, cam oedd yn dipyn o her i'r fam ifanc: "Roedd y gyfres yn dipyn bach o her i fod yn onest - o'n i ddim yn gwybod beth o'n i'n 'neud yn dweud 'ie'!

"Dwi jyst wedi cael y cyfle a meddwl 'pam ddim, bydd e'n brofiad' - os mae'n mynd yn dda neu ddim, mae dal yn brofiad ac yn rhoi dipyn bach o hyder i fy hun.

O flaen camera

"Am y cwpl o ddiwrnodau cyntaf o'n i allan o comfort zone fi yn llwyr. Dwi ddim wedi 'neud unrhyw beth ar teledu o'r blaen, ar Instagram dwi ddim hyd yn oed yn siarad dros fideo felly dyw llais fi ddim allan yn y byd!

"O'n i'n rili lwcus i gael y criw o'n i 'di cael - ni jyst wedi cael hwyl."

Ffynhonnell y llun, S4C

Bywyd teulu

Mae'r gyfres yn rhoi cipolwg ar fywyd Colleen gyda'i theulu - ei gŵr a'i efeilliaid pedair blwydd oed a'i mab saith oed.

Mae aelodau eraill o'r teulu yn ymddangos yn y gyfres hefyd gyda thad Aaron Ramsey, Kevin, yn helpu yn y gegin yn y rhaglen gyntaf.

Ydy Aaron hefyd mor dda yn y gegin ag yw e ar y cae pêl-droed?

Yn ôl Colleen: "Galle fe fod os bydde fe eisiau. Os fydde fe'n mynd i fod yn chef bydde fe siŵr o fod yn Michelin star!

"Dyw e ddim yn 'neud unrhyw beth yn rybish - mae ishe ennill a 'neud popeth yn berffaith.

"Ond ar hyn o bryd fi yw'r cook."

Ffynhonnell y llun, S4C

Cefnogaeth

Gyda thri o fechgyn ifanc a dipyn o deithio fel gwraig i bêl-droediwr, mae bywyd Colleen yn un prysur ac mae'n cydnabod fod cefnogaeth y teulu yn hanfodol iddynt: "Os fydde fi ddim yn cael help gan rhieni fi a rhieni Aaron, sy'n ffantastig hefyd, bydde ddim rhaglen na llyfr.

"Ni'n lwcus iawn i gael teulu anhygoel sy'n helpu allan ac maen nhw wedi helpu allan blwyddyn yma mwy na unrhyw bryd gyda Aaron yn yr Alban a Ffrainc a nôl ac ymlaen i'r Eidal - dwi'n rili lwcus i gael help fan 'na.

"Hebddyn nhw bydden i wedi mynd yn wallgo'. Mae'n anodd i jyglo er mae'n dod yn haws pan mae'r plant yn hŷn."

Cynllunio yw cyfrinach Colleen ac mae'n dweud: "O ran coginio a threfnu yr wythnos dwi'n dueddol o gynllunio ar ddydd Sul a trio neud batch cook, mae'r bennod cyntaf yn y llyfr am gynllunio.

"Dwi'n dangos sut i 'neud rhywbeth mawr sy'n cymryd dipyn bach o amser ac wedyn trwy'r wythnos mae'n helpu trefnu y prydiau i gyd a neud bywyd yn haws i ti."

Cymru

Mae Colleen wedi byw mewn sawl gwlad erbyn hyn yn sgil gyrfa ei gŵr gyda'r trip diweddaraf i Gwpan y Byd yn Qatar.

Ac mae hi'n falch i fod nôl yng Nghymru am y tro: "Dwi wastad wedi cael perthynas dda gyda Cymru yn tyfu fyny yma - pan ti'n gadael ac yn teithio mae'r hiraeth yno.

"Maen anodd i ddisgrifio y teimlad, mae'n dod yn fwy presennol ac yn gryf, yn enwedig pan mae pobl yn dismisso Cymru ac maen nhw ddim rili yn gwybod am Gymru fel gwlad.

"Mae bod i ffwrdd yn creu bond gyda'r wlad ac mae'n sicr yn rhan o fy hunaniaeth a dwi ddim yn swil i ddweud wrth pobl 'dwi ddim yn dod o Loegr, dwi'n dod o Gymru ac mae Cymru'n wlad gyda iaith ei hun'.

"Ac mae'r iaith mor bwysig i fi ac i Aaron hefyd, ni mor falch bod ni'n siarad Cymraeg.

"Ni'n trio siarad Cymraeg 'da'r plant - mae 'di bod yn anodd (i siarad yr iaith) yn byw yn yr Eidal ers bod yr efeilliaid yn chwe mis oed. Ni'n trio dysgu siarad Eidaleg ac wedyn ar ôl dod nôl i Gymru ni yn siarad â nhw a'n dysgu nhw i siarad Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, S4C

Sut brofiad oedd Cwpan y Byd?

Meddai Colleen: "Roedd e'n fendigedig draw fan 'na, mor falch i'r bechgyn yn cynrychioli Cymru. Cymru fach yng Nghwpan y Byd a gweld y bucket hats a'r baneri - oedd e'n anhygoel, mae'r cefnogwyr mor passionate.

"Cyn i ni fynd allan i Cwpan y Byd 'oedden ni wedi gwylio rhaglen Together Stronger i weld y daith i gyrraedd yno.

"Mae perthynas neis gyda'r staff a'r tîm a'r cefnogwyr - a gyd o'r teuluoedd hefyd. Maen nhw i gyd yn cefnogi'r tîm."

Tyfu i fyny

Mae Colleen yn coginio ers yn blentyn ac yn disgrifio ei theulu fel foodies mawr: "Mae Mam yn cook ffantastig, yn teulu ni roedd yn beth mawr cael bwyd o gwmpas y bwrdd 'da'n gilydd a dewises i goginio fel pwnc yn yr ysgol."

Pan symudodd i Lundain wrth i'w gŵr gychwyn chwarae i Arsenal dechreuodd Colleen gwmni cacennau priodas. Bu rhaid iddi roi'r gorau i'r cwmni pan symudodd y teulu i'r Eidal wrth i Aaron gychwyn chwarae i Juventus.

Meddai: "Mae byw yn yr Eidal wedi effeithio ar ffordd dwi'n edrych ar fwyd - ac hefyd cynhwysion newydd dwi ddim wedi trio.

"Dwi'n neud pob math o wahanol fwyd yn dibynnu ar beth mae pobl yn ffansio. Dwi'n hoffi datblygu a thrio ryseitiau newydd a chael dipyn bach o challenge.

"Mae'n hollol boncyrs i fi bod fi'n cael llyfr coginio fy hun ar y silff, yn enwedig amser Nadolig.

"Mae gen i lyfrgell gyda lot o lyfrau coginio dwi wedi casglu. Mae cael un fy hun yn sbeshal."

Ydy Colleen yn barod i fod yn wyneb adnabyddus i gynulleidfa S4C?

Meddai gan chwerthin: "Does neb yn mynd i adnabod fi - fi just yn ferch o Abertridwr. Dwi ddim yn enwog, dwi ddim yn trio bod yn enwog, dwi ddim ishe bod yn enwog.

"Dwi'n hoffi pobl a siarad gyda pobl, yn enwedig am fwyd a choginio a ryseitiau. Os mae unrhyw un ishe siarad â fi, dwi'n hapus i neud hynny.

"Mae bach yn wahanol i Aaron achos mae pobl yn 'nabod e o hyd - mae e'n fachgen o Gaerffili hefyd, mae wedi gweithio'n galed yn ei swydd e ac mae'n gyfarwydd 'da'r sefyllfa o pobl yn gofyn am lun.

"Am nawr dwi'n rili ddiolchgar am y profiadau ffantastig fi wedi cael. Dwi'n edrych 'mlaen i Nadolig nawr gyda'r teulu."

Cyngor Colleen ar gyfer coginio cinio Nadolig

Meddai Colleen: "Yn tŷ ni mae rheol - dim yfed gwin na alcohol cyn 'neud y bwyd. Achos os ti yn mae just yn mynd allan drwy'r ffenest. Hwnna yw tip un!

"Y tip mwyaf yw cadw bwyd yn syml a pheidio 'neud gormod - mae bwyd yn lyfli ond amser da'r teulu sy' bwysicaf. Y ryseitiau mwya' syml yw'r rhai mae pobl yn hoffi mwyaf - mae tato mash mor syml ond os ti'n cael e'n gywir mae'n hyfryd.

"Yn y gyfres a'r llyfr mae tatws tadcu (Rowly's roasties) yn ffantastig ac hefyd y grefi gwyrdd - os ti'n mynd i 'neud rhywbeth yn y llyfr am Nadolig dyna beth bydden i'n dweud i 'neud."

Mae'r gyfres Colleen Ramsey - Bywyd a Bwyd yn cychwyn ar Nos Fercher 28 Rhagfyr, 8.25, S4C

Pynciau cysylltiedig