Galw am ailsefydlu'r hen enw Cymraeg ar orsaf Llanbedr

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf LlanbedrFfynhonnell y llun, Geograph/Stuart Wilding
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd enw gorsaf Halt Talwrn Bach ei newid i Lanbedr 'nôl yn 1978

Mae ymgais wedi dechrau er mwyn ceisio ailsefydlu enw Cymraeg ar orsaf drenau ym Meirionnydd.

Tan 1978, enw gorsaf Llanbedr oedd Halt Talwrn Bach, ond bellach mae 'na alw i ailsefydlu'r enw hanesyddol yn swyddogol.

Mae'r orsaf ar Reilffordd y Cambrian, sy'n rhedeg rhwng Aberystwyth a Phwllheli, ac yn dilyn cromlin Bae Ceredigion.

Tarddiad enw Halt Talwrn Bach yw fferm leol, yn ôl clerc Cyngor Cymuned Llanbedr, Morfudd Lloyd.

"Mae'r hen enwau hyn yn mynd ar goll ac rydym am eu hachub er mwyn i genedlaethau'r dyfodol wybod," meddai.

"Roeddem yn meddwl y byddai'n braf ei gadw.

"Y cyfan rydyn ni eisiau yw i'r enw gael ei beintio ar yr orsaf - efallai o dan Llanbedr mewn cromfachau.

"Does dim ots mewn gwirionedd, cyn belled â'n bod ni'n cadw'r hen enw i fynd."

'Hen enwau lleol yn bwysig'

Er i'r cynnig sicrhau cefnogaeth y cyngor cymuned, llugoer oedd ymateb Trafnidiaeth Cymru yn ôl un o gynghorwyr sir yr ardal, Gwynfor Owen.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd: "Yn 1978 gwnaed y newid o Halt Talwrn Bach i Llanbedr.

"Does 'na neb yn gwybod yn iawn pam," meddai, gan ddisgrifio'r orsaf fel un "prysur iawn" yn yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

"Os nad fedran ni newid yr enw, fysa'n braf hyd yn oed ychwanegu'r enw," meddai Gwynfor Owen

"Dyna be' mae pobl leol yn dal i gyfeirio at yr orsaf fel.

"Mae'r hen enwau lleol yn bwysig, yn rhan o'n hanes a'n hunaniaeth, ac mae'n bwysig cadw nhw i fynd.

"Roedd y cyngor cymuned wedi gosod cwestiwn gerbron Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd y Cambrian wythnos dwytha', ond yn anffodus yr ateb oedd 'na' pendant gan ei fod yn fater llawer rhy gymhleth i newid enw gorsaf."

Serch hynny, dywedodd y Cynghorydd Owen fod y frwydr yn parhau, gyda chamau posib yn cynnwys codi'r mater gyda Phwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd neu gydag Aelod o'r Senedd.

"Os nad fedran ni newid yr enw, fysa'n braf hyd yn oed ychwanegu'r enw... fysa hynny'n cael yr enw fyny yna," meddai.

"Bosib allwn gael nhw i gytuno i ychwanegu'r enw fel fod o yna'n glir, ond fod nhw'n dal i allu cyfeirio ato fel Llanbedr, ond fod ni'n lleol hefyd yn gallu gweld Talwrn Bach yn cael ei ddefnyddio."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Nigel Thompson

Cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru nad oedden nhw "yn edrych i symud ymlaen gyda'r newid enw".

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Nid yw'r mater o newid enw gorsaf Llanbedr i Halt Talwrn Bach wedi ei gyfeirio at Bwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd.

"Fodd bynnag, gan fod Polisi Iaith y Cyngor yn gosod allan ein hymrwymiad i warchod a hyrwyddo'r defnydd o enwau Cymraeg cynhenid ​​o fewn y sir, byddwn yn debygol o gefnogi galwadau gan y Cyngor Cymuned lleol i ddefnyddio'r enw Cymraeg gwreiddiol ar yr orsaf."

Pynciau cysylltiedig