'Pobl yn defnyddio twyni Porth Tywyn fel tai bach'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr ym Mhorth Tywyn wedi cynnal digwyddiad yn ardal yr harbwr er mwyn tynnu sylw at ddiffyg toiledau cyhoeddus yn yr ardal.
Cafodd placardiau eu gadael o amgylch yr harbwr yn beirniadu'r prinder tai bach gan gefnogwyr sy'n nofio'r rheolaidd yn yr ardal.
Dywedodd y trefnydd, Kathy Start wrth BBC Cymru bod y sefyllfa'n amharu ar "hawliau" ac "urddas".
Yn ôl Cyngor Sir Gâr mae yna doiledau cyhoeddus o fewn caffi ar ochr orllewinol yr harbwr ac yn yr orsaf reilffordd gyfagos, "tua 800 metr i ffwrdd".
Cafodd bloc o doiledau ar ochr ddwyreiniol yr harbwr eu cau yn 2019 yn sgil fandaliaeth.
Yn ôl Kathy Start, mae yna dystiolaeth bod bobl yn defnyddio'r twyni o amgylch yr harbwr fel tŷ bach.
"Mae'r gwirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel o'r traeth yn gyson yn dod ar draws y dystiolaeth, yn anffodus," dywedodd. "Does dim byd arall fedar pobl wneud.
"Rydym yn haeddu urddas ac mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn dweud y dyliwn ni gael urddas, ond dyw hynny ddim yn digwydd yn fan hyn."
Ychwanegodd bod y tŷ bach cyhoeddus ar ochr orllewinol yr harbwr yn "hollol annigonol" ac ond ar agor am "oriau cyfyngiedig".
"Ar hyn o bryd mae un tŷ bach sydd tu ôl i fi fan hyn ond yn anffodus mae e dan reolaeth y caffi," meddai Dawn Evans o Borth Tywyn.
"Felly dyw e ddim a bod yn onest yn dŷ bach cyhoeddus, achos mae e ond ar gael o dan amodau penodol pan fydd y caffi ar agor.
"I bobl sydd yn dod lawr fan hyn yn eu cannoedd, a weithiau yn eu miloedd, mae angen cyfleusterau sylfaenol arnom ni."
'Cwyno a chwyno'
"Dyma un o'r llefydd pwysicaf o ran twristiaeth," dywedodd Les George, sy'n 82 oed a hefyd yn byw ym Mhorth Tywyn.
"S'dim un toilet ar yr ochr ddwyreiniol, ble mae'r bad achub. Mae un toilet fan'na ond private toilet yw.
"Pan mae'r caffi ar gau, s'neb yn gallu cael toilets. Mae'n terrible!
"Mae pobl yn cwyno a chwyno. Chi'n mynd lawr i Bentywn, Talacharn, a Glanyfferi, a s'dim byd gyda ni ac mae popeth gyda nhw. Ni mo'yn toilets ar ddwy ochr yr harbwr."
Mae'r sefyllfa'r gur pen i Sheila Amor, 74 ac o Ben-bre, sy'n defnyddio sgwter symudedd.
"Mae yna dŷ bach yn y caffi pan mae ar agor ac yn y clwb hwylio pan mae ar agor.
"Rwy' fel arfer ond yn dod i lawr yma pan fo'r clwb hwylio ar agor - rwy'n aelod, felly mi gaf ddefnyddio'u toiledau.
"Mae'n anodd iawn. Mi wn eu bod yn dweud bod yna dai bach yn y stesion ond fel y gwelwch chi, ni alla'i gerdded yn bell."
Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn sy'n "arwain ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus dros dro a rhai parhaus ar gyfer ochor ddwyreiniol Harbwr Porth Tywyn", yn ôl y cynghorydd sir sy'n arwain ar faterion hamdden a thwristiaeth, Gareth John.
"Mae swyddogion Cyngor Sir Gâr mewn trafodaethau cyson gyda'r cyngor tref mewn cysylltiad â lleoli'r adnoddau hyn. "
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hi'n ofynnol dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i bob cyngor sir "gyhoeddi strategaeth toiledau cyhoeddus ar gyfer ei ardal".