Tu ôl i’r llen yn Stiwdios Ffilm Aria
- Cyhoeddwyd
Ym mis Ionawr eleni roedd cryn gynnwrf yn Llangefni pan agorwyd stiwdios ffilm newydd yn swyddogol. Mae Stiwdios Aria wedi bod yn gartref newydd i rai o setiau Rownd a Rownd ers dros flwyddyn ond dim ond ers 'chydig fisoedd mae'r safle yn agored yn swyddogol.
Gweithredwr Stiwdio y stiwdios, Iddon Jones, fu'n siarad gyda ni am yr adnodd a'r gobeithion i'r diwydiant.
"Beth sy' mor braf am Stiwdio Ffilm Aria ydy does yna'm adnodd fel 'ma 'di bod yn y gogledd erstalwm iawn ac ein gobaith ni ydy bod hyn yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl leol. Wrth gwrs yn barod mae Rownd a Rownd wedi bod ffilmio ym Môn ers blynyddoedd ac yn cynnig hyfforddiant a profiadau gwaith, hyd yn oed upskill-io o fewn y gweithlu hefyd.
Wedyn, wrth gwrs gan bod gynnon ni'r adnodd yma, rydan ni'n medru cynnal hynny'n hyd yn oed gwell drwy gael teithiau yma. 'Dan ni wedi bod hefo Ysgol Henblas, ysgol leol yma yr Ynys Môn a 'dan ni hefyd wedi cael lot o bobl yn dod aton n i gael profiad gwaith, a'r gobaith ydy i fod yn medru rhoi rhywbeth mwy swyddogol er mwyn hybu a ffynnu cyfleoedd yma yn y gogledd."
Symud yn ystod y pandemig
Digwyddodd y symud hwn o Borthaethwy yn ystod y pandemig. Er bod y cynhyrchiad yn dal i ddefnyddio'r brif set ym Mhorthaethwy mae nifer helaeth ohonynt nawr yn Llangefni. Adeiladwyd setiau'r tai yn Stiwdios Aria yn gopïau llwyr, mwy neu lai, o'r tai go iawn oedd y cynhyrchiad yn eu defnyddio ym Mhorthaethwy gyda metr neu ddwy yn hwy o hyd a lled er mwyn gallu cadw pellter a bod yn ddiogel.
Yn ddiweddar aeth Iddon Jones, Gweithredwr Stiwdio Ffilm Aria â ni o amgylch y stiwdio a'r setiau gan rannu ambell i gyfrinach cynhyrchu gyda ni.
Setiau newydd Rownd a Rownd
"Pan ddaeth y pandemig oedd o'n ofnadwy o anodd trio cario 'mlaen yn y ffordd oedd Rownd a Rownd y gweithredu ar y pryd.
"Oedden nhw'n dueddol o ddefnyddio lleoliadau go iawn, tai go iawn ac yn anffodus doedd hynny ddim yn saff ddim mwy - ddim i'r actorion a ddim i'r criw, a ddim i'r teuluoedd felly fel ffordd o symud ymlaen er mwyn trio cadw Rownd a Rownd i fynd, mi benderfynwyd drio cael lleoliad newydd a medru ail-greu tai yma fel set a dyna sy' gynnon ni yma ar llwyfan dau.
"Dyma gegin Sophie a Dylan, ac wrth gwrs mae'n ffantastig. Mae fel rhywbeth allan o gatalog. Mae'n set fawr fel y gwelwch chi. Wnaethon ni benderfynu cadw'r setiau'n fawr er mwyn cadw pawb yn saff yn ystod yr adeg oedden ni'n trio ymdopi efo cario 'mlaen efo cynhyrchu yn ystod adegau Covid."
Na, does dim "fyny grisiau" go iawn yn nhŷ Sophie a Dylan! Eglurodd Iddon, "Weithiau 'dan ni'n dechrau'r actorion cwpl o stepiau i fyny a dod â nhw i lawr ac mae hwnna'n rhoi'r teimlad i ni fod yr actorion wedi bod i fyny'r grisiau. Ond wrth gwrs, it's all smoke and mirrors fel maen nhw'n ei ddweud!"
Roedd Iddon ei hun yn actor ar Rownd a Rownd am flynyddoedd yn chwarae rhan Osian Powell. Ac un o'r setiau oedd o'n gyfarwydd iawn â hi oedd set tŷ Ken a Kay Walsh, sef cartref ffrind gorau Osian, Kelvin.
Er bod y tŷ wedi mynd drwy sawl gwisg a lliw, mae'r gofod yr un mor gyfarwydd ag erioed.
"Dw i'n 'nabod y set yma ers blynyddoedd a be' sy'n grêt ydy bod footprint y set yn union yr un fath ag oedd gynnon ni yn y tŷ gwreiddiol ym Mhorthaethwy.
"'Dan ni wedi ychwanegu rhyw ddwy fedr, a mae 'na rannau o'r waliau yn medru cael eu tynnu o 'na er mwyn i ni allu rhoi y cameras i mewn a chadw pawb yn saff. Ond mae'n deimlad mor braf cael gweithio yma ar ôl yr holl flynyddoedd a'r atgofion melys o fod yn actor ar Rownd a Rownd fy hun."
Cafodd set Siop Yr Iard ei adeiladu yn gopi llwyr o'r adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio ar lan y Fenai. Mae'n set trawiadol ac yn un o hoff rai'r gweithredwr stiwdio.
"Be' oedd yn grêt am yr adeilad oedd ein bod ni'n gallu ffilmio ar lan y Fenai ond yn ystod Covid doedden ni ddim yn medru defnyddio'r adeiladau fel yr oedden ni wedyn mae'r dylunwyr wedi mynd ati i ailgreu bob dim ym berffaith yma.
"Un o'r pethau o'n i wrth fy modd efo fo pan o'n i'n cyfarwyddo Rownd a Rownd oedd weithiau ar y boreau godidog 'na ar lan y Fenai 'dach chi'n cael y tarth yn dod oddi ar y dŵr a 'dan ni'n medru ail greu hynny yn y stiwdio yn defnyddio smoke machine. A gyda'r goleuo ffanastig sy'n cael ei wneud gan y criw yma mae o wirioneddol yn edrych yn drawiadol iawn."
Ymlaen â ni i'r llefydd nad ydan ni'n eu gweld ar gamera - yr adran wisgoedd a'r adran goluro.
"Dyma lle mae'r cymeriadau i gyd yn dod yn fyw. Be sy'n grêt am gael yr adnodd yma ydy ei fod o'n rhoi cyfleoedd i bobl leol - pobl sydd eisiau bod yn wneuthurydd costiwm, er enghraifft, maen nhw'n gallu dod yma i gael profiad gwaith efo ni ar Rownd a Rownd a chael dysgu gan bobl profiadol dros ben. "
Cynhyrchu yn gynaliadwy
"Mae cynaliadwyedd yn ofnadwy o bwysig i ni yma yn Stiwdios Ffilm Aria gan ein bod ni mewn ardal o harddwch yma yn Ynys Môn, yn enwedig wrth i gynyrchiadau mawr ddod yma.
"Mae edrych ar ôl yr ardal a gwneud yn siŵr bod y cynhyrchu yn gynaliadwy felly rydyn ni yn cymryd mewn i ystyriaeth sut rydyn ni'n cynhyrchu drwy droedio'n ysgafn."
Yn nerbynfa'r stiwdios mae'r murlun trawiadol hwn o'r adeilad a'r olygfa sydd i'w gweld o ben y bonc yn y maes parcio. Y dylunydd Sïan Angharad sydd wedi dal yr ardal odidog y mae Iddon yn sôn amdani wrth nodi pa mor bwysig yw gwneud y mwyaf o'r lleoliad a'i gwarchod ar yr un pryd.
"Wrth gwrs mae'r diwydiant ei hun, fel unrhyw waith arall, yn medru dod â lot o bwysau. Gyda lot o stiwdios eraill, maen nhw'n gallu bod mewn dinasoedd, ond be' dan ni'n lwcus iawn efo fo ydy ein bod ni o gwmpas yr ardal brydferth 'ma sy'n dy alluogi di i fynd am dro am ryw hanner awr, mor agos at y traethau godidog ac felly ti'n cael rhyw fath o elfen iechyd a lles sy'n bwysig iawn i ni yma."
Hefyd o ddiddordeb: