Adran Dau: Casnewydd 1-2 Mansfield

  • Cyhoeddwyd
Calum Kavanagh (Casnewydd) yn cael ei herio gan Alfie Kilgour (Mansfield)Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd Casnewydd yn anlwcus i golli yn erbyn Mansfield - o ddwy gôl i un - yn Adran Dau nos Fawrth ar Rodney Parade.

Er iddyn nhw gael dechrau digon bywiog i'r gêm, gyda Micky Demetriou yn taro'r trawst, roedden nhw ar ei hôl hi hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf yn dilyn ergyd Hiram Boateng i'r ymwelwyr.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Alltudion hanner ffordd trwy'r ail hanner pan ddyblodd James Gale fantais Mansfield.

Gyda phedwar munud yn weddill o'r 90 fe gysylltodd Aaron Wildig â chroesiad Aaron Lewis i benio'r bêl yn nerthol i dop gornel chwith y rhwyd, gan roi gobaith i gefnogwyr y tîm cartref.

Roedd yna gais aflwyddiannus am gic gosb yn ystod yr wyth munud ychwanegol o chwarae ar ddiwedd yr ail hanner, ac mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn llithro un safle i'r 18fed safle yn y tabl.