Athrawon "heb yr hyder" i siarad am faterion rhywedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd canllaw cenedlaethol i ysgolion ynglŷn â sut i gefnogi disgyblion traws yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru byddai'n cynnig cyngor clir a bod angen ymgynghori helaeth oherwydd cymhlethdod y pwnc.
Yn aml, does gan athrawon ddim hyder yn siarad am faterion i wneud gyda rhywedd, yn ôl un elusen.
Dywedodd y School of Hard Knocks bod y mater yn codi fwyfwy mewn ysgolion.
Dechreuodd yr elusen weithio ar hyfforddiant ac adnoddau am gynhwysiad rhywedd ar gais athrawon.
Cynnig hyfforddiant
Mae'r School of Hard Knocks yn defnyddio chwaraeon fel rygbi i helpu plant sydd wedi ymbellhau o'u haddysg, ond fe wnaeth eu gwaith mewn ysgolion ganfod bod angen cymorth ar sut i gefnogi pobl ifanc traws, anneuaidd neu sy'n cwestiynu eu rhywedd.
Dywedodd Dr Sian Edwards o'r School of Hard Knocks eu bod wedi siarad gydag athrawon a disgyblion am y pryderon.
"Mae mwy a mwy o fyfyrwyr yn archwilio eu rhywedd ac yn agored gyda'u hunaniaeth ac yn defnyddio rhagenwau sy'n wahanol i'r rhai gafodd eu rhoi iddyn nhw pan ganfon nhw eu geni", meddai Dr Edwards.
"Mae hynny'n rhywbeth mae athrawon yn gweld fwyfwy a dyw e ddim yn rhywbeth mae nhw o reidrwydd yn gyfarwydd ag e neu'n gyfforddus gydag e."
Mae Prosiect Inc nawr yn cynnig hyfforddiant i ysgolion a sefydliadau eraill.
"Neges allweddol o'r hyfforddiant yw i gael y sgwrs. Mae myfyrwyr jyst eisiau gwybod eich bod chi'n ceisio helpu - dyna'r peth mwyaf fydd yn gwneud gwahaniaeth".
'Gwneud y diwrnod yn un gwell'
Fe wnaeth Alison Carney, ymgynghorydd sy'n helpu i ddarparu'r hyfforddiant, gydnabod y gall fod yn faes sensitif a bod athrawon yn ofni gwneud rhywbeth o'i le.
"Fe wnaethon ni siarad gyda'r plant a'r athrawon am beth yw'r problemau mae'n nhw'n eu cael yn yr ysgol.
"Dyw hyn ddim o reidrwydd ynglŷn â mynd lawr i [fanylion] polisi - yn syml, mae e am beth allai wneud y dydd yn well," meddai.
Fel ymrwymiad yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, roedd canllaw i fod i gael ei gyhoeddi'n wreiddiol erbyn Haf 2023, ond dywedodd y llywodraeth bod yna oedi er mwyn sicrhau bod yna ymgynghoriad llawn gan osgoi arholiadau a gwyliau'r haf.
"Mae hwn yn faes polisi cymhleth sy'n gofyn am ymgynghori'n helaeth gydag arbenigwyr, staff a'r cyhoedd, yn ogystal â phlant a phobl ifanc eu hunain," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
Dywedon nhw fod angen canllawiau i helpu athrawon i sicrhau bod plant a phobl ifanc traws "yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi'n ddigonol mewn addysg".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn "bwnc dyrys" ai bod hi'n "hanfodol" i'w gael yn iawn.
Yn ôl eu llefarydd addysg Laura Anne Jones, "dylai'r canllawiau ganiatáu i athrawon ganolbwyntio ar addysgu" a nid plygu i "wleidyddiaeth hunaniaeth a rhyfeloedd diwylliant".
Ni ddylai unrhyw ganllawiau "ddod ar draul hawliau merched", ychwanegodd.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo canllawiau i ysgolion yn Lloegr yn ystod tymor yr haf ar ôl i undeb addysg ddweud bod aelodau'n gorfod llywio'u ffordd trwy ddyfroedd peryglus.
Mae yna enghreifftiau o rieni'n herio penderfyniadau ysgolion ac awdurdodau lleol yn y maes.
'Teimlo'n anghyfforddus iawn yn mynd i'r ysgol'
Mae Dan Hayes yn 23 oed ac yn byw yn y Rhondda.
"Fe ddechreuodd e i gyd pan oeddwn i'n wyth neu naw efallai. Ro'n i'n meddwl 'nid dyma'r dillad dwi fod i'w gwisgo'. Wrth i fi fynd trwy glasoed.. 'ddylwn i ddim edrych fel hyn'.
"Cefais i hyd i'r geiriau i ddisgrifio fy hun llawer yn hwyrach pan oeddwn i'n 16 neu 17. Ond hyd yn oed wedyn roedd e wedi cymryd lot i fi uniaethu â'r geiriau hynny 'dwi'n drawsryweddol'."
Roedd Dan yn gweld gorfod gwisgo gwisg ysgol merched yn anodd.
"O'n i wastad yn teimlo'n anghyfforddus iawn yn mynd i'r ysgol yn edrych fel 'na. Fe wnes i drio fy ngorau i ffitio mewn… tyfu fy ngwallt yn hir, gwisgo colur ond doedd e jyst byth yn gweithio"
Yn ôl Dan, anaml y byddai pobl traws neu anneuaidd yn cael eu crybwyll yn yr ysgol.
"Doedd dim sôn amdano ac os oedd 'na... jôc oedd hi bob tro," meddai ac mae'n credu y gallai mwy o arweiniad i athrawon helpu.
"Doeddwn i ddim eisiau siarad ag unrhyw un o fy athrawon i am y peth oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y bydden nhw'n deall," meddai.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i blant traws wybod bod pobl fel nhw allan yna."
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, ei fod yn bwysig bod gan oedolion adnoddau addas a'n "hyderus wrth roi cyngor a help".
"Rwy'n disgwyl i ganllawiau traws cenedlaethol Llywodraeth Cymru sydd ar y gweill ar gyfer ysgolion, fod yn declyn cynhwysfawr ac ymarferol i helpu ysgolion i ymateb yn hyderus i anghenion disgyblion," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021