Dod allan yn drawsryweddol: 'Ges i fy ngeni yn y corff anghywir'
- Cyhoeddwyd
Roedd Kai Saraceno yn hapus yn byw ei fywyd heb ddatgelu ei fod yn berson trawsryweddol, ond mae bellach yn teimlo'r angen i ddod allan yn gyhoeddus.
Mae Kai, wnaeth symud o'r Ffindir i Gymru ar ôl dysgu Cymraeg, dolen allanol, yn gweld yr angen i rannu ei brofiadau er mwyn dangos cefnogaeth i'r gymuned draws ac i newid agweddau.
"Mae dweud 'mod i wedi cael fy ngeni yn y corff anghywir yn un ffordd o'i ddisgrifio," meddai ar Siarad Moel: Podlediad Aled Hughes
Bu Kai yn byw yn Yr Eidal nes oedd o'n naw mlwydd oed cyn symud i ddinas Helsinki, Y Ffindir.
"Ges i 'ngeni yn ferch yn yr Eidal," meddai. "Do'n i'm yn meddwl amdano fo llawer fel plentyn neu berson ifanc.
"Ro'n i'n 17 pan wnes i sylwi. O'n i reit lwcus, wnes i dyfu fyny mewn teulu oedd reit laid-back fatha fi. O'n i'n cael gwneud beth bynnag, do'n i ddim yn poeni am gael gwneud petha' genod a gwneud petha' hogia' felly doedd o ddim yn effeithio fi lawer fel plentyn.
"Ond wedyn wnes i hitio puberty a sylwi'n araf fod rhywbeth yn wrong."
O'n i wedi clywed am bobl traws ac yn gwybod fod pobl yn newid rhywedd ond do'n i'm yn gwbod be' oedd hynna yn ei olygu."
Ar hap a damwain, trwy wylio sianel YouTube y sylweddolodd am fodolaeth pobl trawsryweddol, cyn yna ddechrau pendroni am ei deimladau ei hun:
"Wnes i ffeindio allan bod pobl traws yn bodoli wrth wylio fideo YouTube. Roedd y boi oedd yn cyflwyno'r fideo digwydd bod yn draws.
"Do'n i ddim yn gwybod hynna wrth wylio'r fideo nes sylwi ar lun thumbnail ohono heb dop a sylwi o'r creithia' ei fod wedi cael chest surgery. Wnes i ffeindio mwy o wybodaeth am y cyflwynydd wedyn.
"Wnaeth hyn wneud i fi sylwi ei fod yn bosib newid rhyw heb i bobl sylwi. O'n i wastad yn meddwl bod pobl am allu dweud bod rhywun yn traws a ro'n i'n poeni am hynna.
"O'n i wedi clywed am bobl traws ac yn gwybod fod pobl yn newid rhywedd ond do'n i'm yn gwbod be' oedd hynna yn ei olygu.
"Do'n i'm yn gwybod bo' chdi'n medru cymryd testosteron neu estrogen (dibynnu pa ffordd ti'n mynd) a bod hynna yn newid eitha' lot o betha'. Do'n i'm yn deall bod 'na lot o opsiynau nid jest un llawdriniaeth fawr. Mae 'na gamau bach fedri di wneud a chamau mwy os ti angen."
Penderfynu newid rhywedd
Ar ar ôl mis o bendroni, daeth Kai allan fel person traws i'w fam a'i ffrind gorau gan ddatgelu ei fod yn dymuno newid rhywedd:
"Ar ôl mis o feddwl ar ben fy hun, wnes i ddweud wrth fy ffrind gorau ac roedd o'n iawn am y peth. Wedyn wnes i ddweud wrth mam. Nid eu hymateb nhw oedd yn poeni fi, ond ro'n i'n cwestiynu os o'n i'n siŵr am y peth.
"Os o'n i'n dweud wrth rywun arall roedd o'n teimlo fel 'mod i'n comitio i wneud rhywbeth am hyn. Wedyn os dwi'n newid fy meddwl, be' os ydi pawb yn meddwl 'mod i'n 'neud hyn am attention neu rhywbeth?"
Bellach mae Kai yn sylweddoli fod teimlo amheuaeth yn rhan naturiol o'r daith, ac nad oes rheidrwydd ar berson trawsryweddol i dderbyn triniaeth er mwyn newid rhyw. Mae'r cyfan yn nwylo'r unigolyn ac mae pawb yn wahanol:
"Hyd yn oed os wyt ti'n dweud wrth rywun, mae'n iawn i newid dy feddwl os wyt ti'n ffeindio allan bo' chdi ddim isio gneud dim am y peth, neu os ti'n ailfeddwl a sylwi bo' chdi ddim yn traws. Mae'n iawn dod allan jest er mwyn bod yn agored am dy deimladau.
"O'n i'n poeni sut fyddai Mam yn ymateb. Ges i fy magu i feddwl nad ydi dy gorff di'n bwysig a dy fod ti'n cael gwneud beth bynnag ti isio felly o'n i'n poeni y bydda hi'n dweud 'does dim pwynt, dylet ti ddim 'neud o.'
"I raddau, oedd hi fel 'na ychydig bach, ac isio i fi fod yn ofalus a meddwl amdano fo. Ond gydag amser wnaeth hi ddechrau deall pam 'mod i angen 'neud o. Mae'n deimlad cymhleth ac mae dal yn anodd i fi hyd yn oed esbonio pam ro'n i angen newid rhywedd."
Y cam nesaf i Kai oedd dweud wrth ei nyrs ysgol er mwyn cael cyngor meddygol:
"Digwydd bod ro'n i angen mynd at y nyrs ysgol am rywbeth arall, a wnes i benderfynu dweud wrthi hefyd 'mod i'n drawsryweddol. Roedd hi'n 'nabod rhywun mewn ysgol arall oedd yn arbenigo mewn pobl traws a rhywioldeb ac o'n i'n ffodus i gael fy nghyfeirio at y nyrs yna.
"O'n i'n gallu mynd at y nyrs yn syth. Yn anffodus dwi wedi clywed ei bod hi'n reit anodd cael rhywbeth fel 'na mor ddi-drafferth yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, sy'n siomedig."
Cymryd testosteron
Ar ôl blwyddyn o ymchwilio ac ymweliadau gyda'r nyrs arbenigol a'r meddyg, dechreuodd Kai gymryd yr hormon testosteron yn ddeunaw oed, rhywbeth y mae'n debygol o wneud am weddill ei oes.
"Wnes i ddechrau wrth rwbio gel testosteron ar fy nghroen. Wnes i safio arian i dalu i wneud hyn yn breifat. Ro'n i'n gwybod y basa'n cymryd amser hir i'w gael am ddim gan y gwasanaeth iechyd yn y Ffindir.
"Ro'n i hefyd ar fin symud i Gymru i fynd i'r brifysgol a do'n i ddim yn meddwl y byddwn i'n ei dderbyn ar yr NHS yn syth. Dwi wedi clywed ei fod yn medru cymryd tair blynedd i bobl traws weld rhywun arbenigol yn y wlad yma.
"Rŵan chwistrellu testosteron ydw i; fydda i'n chwistrellu am byth. Dwi'n chwistrellu bob 18 diwrnod ar hyn o bryd. Dwi wedi gorfod dysgu sut i chwistrellu fy hun. Taswn i wedi cael y testosteron ar yr NHS mi fasan nhw yn gallu wneud o i fi bob tro.
"Mae'r nodwydd yn mynd syth mewn i'r muscle yn nhop y goes. Dydi o ddim yn neis ei 'neud o, ond mae'n lot haws ar ôl blwyddyn o'i 'neud ac mae'n well na gorfod rhoi gel ar dy fraich bob bora'.
"Mae'r gel yn cymryd amser hir i sychu ac mae'n rhaid bod yn ofalus nad ydi'r gel yn cyffwrdd rhywun arall. Does dim angen meddwl am hynny efo chwistrellu."
Penderfynu pa rannau o'r corff i'w newid
Mae Kai bellach yn ugain oed ac wedi cymryd testosteron ers dwy flynedd. Yn y cyfnod hwn mae hefyd wedi cael triniaeth ar ei frest ac mae bellach yn teimlo'n gyfforddus ac yn fodlon gyda'i driniaethau meddygol. Meddai Kai:
"Dwi ddim yn siŵr os ydw i am 'neud unrhyw beth am fy organau rhyw. Yn y dechrau o'n i reit siŵr 'mod i am wneud rhywbeth ond rŵan dwi wedi cael top surgery, sef llawdriniaeth ar y frest ac wedi bod ar testosteron am gwpwl o flynyddoedd felly dwi lot mwy cyfforddus, a ddim yn cael dysphoria,sef y teimlad o fod yn anghyfforddus yn dy gorff.
"Faswn i'n licio newid yr organau rhyw ond gan ei fod yn llawdriniaeth cymhleth lle mae yna risg a chymryd misoedd i ddod yn well, dwi'n teimlo nad ydw i ei angen o.
"Mae dewis be' wyt ti eisiau ei newid am rannau o dy gorff yn wahanol i bawb."
Newid enw a symud i Gymru
Carreg filltir arall yn siwrne Kai oedd newid ei enw, a thrwy ei enw newydd daeth allan fel person traws i'w gyfoedion ar ei ddiwrnod olaf yn yr ysgol.
"Do'n i ddim yn licio'r ysgol," meddai, "ro'n i jest yno i gael mynd i'r brifysgol. Ar y pryd ro'n i'n edrych 'mlaen i gael symud i Gymru. Do'n i heb ofyn i bobl yn yr ysgol alw fi yn Kai, roedd o'n teimlo fel gormod i ofyn i bobl oedd yn fy 'nabod i.
"Er do'n i ddim yn licio clywed fy hen enw, felly ar fy niwrnod ola' yn yr ysgol roedd o'n eitha' neis ac yn hwyl eu clywed nhw yn galw Kai Saraceno i'r llwyfan er mwyn i mi fynd fyny i dderbyn y tystysgrif. Fel yna daeth sawl un i wybod 'mod i'n traws."
Doedd gorffen yr ysgol yn Y Ffindir a phenderfynu symud i Gymru er mwyn astudio ym Mhrifysgol Bangor fisoedd ar ôl dechrau triniaeth hormon ddim yn gyd-ddigwyddiad:
"Roedd symud i Gymru ar ôl dechrau cymryd testosteron yn 'amseru' da. Ro'n i angen ychydig o bellter a pheidio poeni bod rhywun am alw fi fy hen enw. Roedd yr holl beth yn reit newydd i fi ar y pryd a ro'n i isio anwybyddu'r peth yn lle siarad amdano fo.
"Un o'r pethau mwyaf cyffrous am yr haf ar ôl gadael yr ysgol a symud i Gymru oedd 'dechrau pasio', sef pan mae pobl yn gweld chdi fel dyn yn hytrach na gorfod dweud bo' chdi'n berson traws. Mae hynny wastad yn braf iawn."
Diffyg dealltwriaeth
Wrth siarad am ei brofiad a dod allan yn gyhoeddus, mae Kai yn gobeithio taclo rhai o'r heriau sy'n wynebu'r gymuned drawsryweddol. Meddai:
"O'n i eitha hapus i fyw fy mywyd a ddim siarad am newid rhywedd ond dwi bellach yn teimlo fel bod angen i mi wneud er mwyn helpu'r gymuned traws ac i newid agweddau.
"Un o'r prif bethau sy'n bwysig i fi am newid rhywedd ydi nad ydi o i wneud efo be' ti'n wisgo, y ffordd ti'n siarad a be' ti'n licio fel mae rhai pobl yn meddwl. Gei di fod yn ddyn a gwneud be' bynnag wyt ti isio.
"Be' sy'n gwneud person yn traws ydi'r teimlad tu mewn i chdi bo chdi isio newid rhywedd.
"Mae angen i bobl siarad yn uniongyrchol gyda phobl trawsryweddol er mwyn deall eu safbwyntiau. Mae angen i bobl sydd ddim yn traws godi llais i ddangos eu cefnogaeth i'r gymuned hefyd."
Cyngor Kai i'r sawl sy'n ystyried newid rhywedd
"Meddylia amdano fo lot, a gwna lot o ymchwil, ond mae'n rhaid i chdi ddallt na fyddi di byth yn hollol siŵr dy fod di'n gwneud y peth cywir a mae hynna yn naturiol. Ti mond angen bod yn ddigon siŵr."
Cyngor Kai i ffrindiau neu deulu person trawsryweddol yw:
"Mae'n naturiol i ofni fod y person 'dach chi'n garu'n gwneud y dewis anghywir.
"Ond ar ddiwedd y dydd, dim ond y person yna sydd am wybod be' sy'n iawn iddyn nhw, a'r peth gorau allwch chi 'neud ydi eu cefnogi."
I glywed mwy o stori Kai gwrandewch ar: Siarad Moel: Podlediad Aled Hughes
Hefyd o ddiddordeb: