Croesawu cwestiwn am rywedd yng nghyfrifiad 2021
- Cyhoeddwyd
Dywed y gymuned drawsryweddol bod cynnwys cwestiwn newydd ar rywedd yng nghyfrifiad 2021 yn "gam cyntaf" i'w groesawu.
Mae'r cwestiwn newydd, na sy'n rhaid ei ateb, yn gofyn a yw rhywedd presennol person yr un fath â'r un a nodwyd ar enedigaeth.
Bydd pobl dros 16 yn gallu ateb ie neu na a nodi hunaniaeth o ran rhywedd.
Dywed y Swyddfa Ystadegau, a fydd yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth, bod angen clir am wybodaeth.
Dywed Owen Hurcum, 23 oed a darpar faer Bangor, ei fod yn "beth da bod modd nodi rhywedd presennol person yn y cyfrifiad".
"Rhyw symbol yw hyn gan y llywodraeth ond o leiaf mae'n gam i'r cyfeiriad iawn a dwi'n edrych ymlaen i nodi fy rhywedd go iawn ar y ffurflen," meddai.
Ychwanegodd Owen Hurcum bod angen newidiadau pellach. "Ry'n yn gwerthfawrogi'r newid ond dim ond crafu'r wyneb yw hyn.
"Mae angen i ni fod yn gallu nodi rhyweddau ar wahân i benyw/gwryw ar ein pasports a hefyd mae angen gwella'r mynediad i glinigau hunaniaeth rywedd.
"Hefyd mae angen aralleirio Deddf Cydraddoldeb 2010 i gynnwys hunaniaeth anneuaidd (non-binary, sef rhywedd nad yw'n cyfateb i'r patrwm deuaidd traddodiadol gwryw/benyw) fel nodwedd warchodedig."
Mae Owen Hurcum hefyd yn galw ar i bobl iau nag 16 oed gael ateb y cwestiwn.
"Mae pobl yn dod i wybod mwy am eu rhywedd dipyn cyn iddyn nhw fod yn 16 - felly mae'r ffaith nad yw'r dewis ar gael i bobl trawsryweddol a phlant anneuaidd yn enghraifft o wahaniaethu'n reddfol ac mae'n teimlo ychydig fel Adran 28."
'Cam cyntaf da'
Dywed Shash Appan, 24, o Gaerdydd y bydd hi'n llenwi'r ffurflen i ddweud ei bod yn "ddynes drawsryweddol".
Mae hi hefyd yn credu y dylai pobl iau nag 16 gael yr hawl i ateb y cwestiwn gan fod pobl yn aml yn newid eu rhyw pan yn iau na hynny.
Dywed llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod y cwestiwn ond yn cael ei holi i bobl 16 a hŷn gan ein bod "yn rhagweld y byddai data ar hunaniaeth rhywedd gan bobl iau na hynny ddim o ansawdd cystal gan y byddai'r wybodaeth yn cael ei rhoi gan riant neu warchodwr".
"Mae'r data allweddol ry'n ei angen ar hunaniaeth rhywedd yn dod gan wybodaeth am bobl 16 oed a hŷn."
Mae Ms Appan yn dweud bod cynnwys y cwestiwn "yn bendant yn gam ymlaen" gan nad oes unrhyw ystadegau am y maes ar hyn o bryd.
"Mae'n bwysig o ran materion fel cyllido y Gwasanaeth Iechyd," meddai.
"Dyw'r amser mae pobl trawsryweddol yn gorfod aros i fynd i glinigau arbenigol ddim yn deg ac ar hyn o bryd dyw pobl anneuaidd ddim yn cael eu cydnabod gan y gyfraith ac felly does ganddyn nhw ddim llais mewn cymdeithas.
"Mae cael rywfaint o syniad faint o bobl traws sydd yn y DU yn beth da ar gyfer cyllido."
Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio na fydd rhywun yn camddefnyddio'r blwch fel bod modd cael llais a chydnabyddiaeth deg.
Ond ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau bod eu staff wedi ymchwilio i'r mater ac mai dim ond atebion dilys fydd yn cael eu cofnodi.
Dywed Stonewall, sy'n ymgyrchu i sicrhau cyfartaledd i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ar draws Prydain nad oes cofnodion manwl ar hyn o bryd yn nodi maint y gymuned drawsryweddol a bod angen mwy o ymchwil.
Dywed rheolwr polisi, ymgyrchoedd ac ymchwil Stonewall Cymru,Iestyn Wyn, bod hyn yn rhywbeth mae'r sefydliad wedi bod yn ymgyrchu amdano ers blynyddoedd.
"Mae anghenion a phrofiadau ein cymuned wedi'u cuddio," meddai.
"Mae data cyfrifiad ar oed, ethnigrwydd a llwyth o nodweddion eraill wedi bod yn allweddol i ddangos anghyfartaledd a'r angen am gefnogaeth ac fe fydd hynny'n wir am y rhwystrau sy'n wynebu pobl LHDT+."
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau bod eu hymchwil tair blynedd yn dangos bod angen gwybodaeth ar lefel genedlaethol a lleol.
"Heb ddata dibynadwy ar ba mor fawr yw'r gymuned LHDT dyw'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ddim yn ymwybodol o'r anfanteision sy'n eu hwynebu - o ran iechyd, addysg, cyflogaeth a thai ac felly does dim modd mesur effeithiolrwydd polisïau," medd llefarydd.
Beth yw'r cyfrifiad a sut mae'n gweithredu?
Mae'r cyfrifiad yn cael ei lenwi gan bobl o bob cartref yng Nghymru a Lloegr ac yn digwydd bob 10 mlynedd.
Mae cyfrifiad Yr Alban wedi ei ohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig.
Y cyfrifiad yw'r unig waith ymchwil sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am y boblogaeth gyfan ac mae'n unigryw gan fod pawb yn ateb yr un cwestiynau ar yr un diwrnod.
Mae pobl yn ateb cwestiynau am bwy oedd yn eu cartref dros nos ac yn rhoi manylion am swyddi, addysg a chefndir ethnig.
Mae'r atebion yn golygu y gall llywodraeth leol a chanolog ddefnyddio adnoddau yn effeithiol mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd a thrafnidiaeth.
Mae Deddf Cyfrifiad 1920 yn ei gwneud hi'n orfodol i bobl yng Nghymru a Lloegr lenwi'r cyfrifiad.
Bydd cyfrifiad 2021 ar-lein gan fwyaf a hynny am y tro cyntaf erioed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019