Dominic Raab yn ymddiswyddo wedi honiadau o fwlio

  • Cyhoeddwyd
Dominic RaabFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Dominic Raab wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cyfiawnder a Dirprwy Brif Weinidog y DU yn dilyn ymchwiliad i honiadau o fwlio.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog Rishi Sunak, dywedodd Mr Raab y byddai'n camu o'r neilltu pe bai'r ymchwiliad yn canfod "unrhyw fath o fwlio" yn ei ymddygiad.

Ond mynnodd fod yr ymchwiliad wedi "wfftio pob honiad yn fy erbyn i oni bai am ddau".

Cafodd yr adroddiad, a gafodd ei ysgrifennu gan y cyfreithiwr Adam Tolley KC, ei gyhoeddi gan y llywodraeth fore Gwener.

'Pwysau anfwriadol'

Wrth ymddiswyddo, dywedodd Mr Raab fod y ddau ganfyddiad aeth yn ei erbyn yn "wallus" a'u bod yn "gosod cynsail peryglus ar gyfer llywodraethu'n dda".

Dywedodd ei fod yn ymddiheuro am unrhyw "bwysau anfwriadol" a roddodd ar swyddogion, a bod hynny'n rhan o'r "safonau a'r heriau" a gyflwynodd i'w adran.

Ychwanegodd y byddai gosod bar "mor isel" ar gyfer diffinio beth oedd bwlio yn annog "honiadau ffug".

Roedd ansicrwydd wedi bod ynghylch dyfodol Mr Raab ers bore Iau, pan dderbyniodd Rishi Sunak yr adroddiad gan Mr Tolley.

Fe wnaeth Mr Tolley ymchwilio i wyth honiad o fwlio yn erbyn Mr Raab, yn ymwneud â'i gyfnodau blaenorol fel Ysgrifennydd Cyfiawnder ac Ysgrifennydd Tramor dan Boris Johnson, ac fel Ysgrifennydd Brexit dan Theresa May.

Roedd Mr Raab yn un o brif gefnogwyr Mr Sunak yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr, ac fe gafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Cyfiawnder ganddo ym mis Hydref y llynedd.

Mae Mr Sunak nawr dan bwysau i esbonio beth yr oedd ef yn ei wybod am yr honiadau cyn penodi Mr Raab i'w gabinet.

Pynciau cysylltiedig