Dathlu 50 mlynedd o'r Dinesydd, y papur bro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Ym mis Ebrill 1973 cyhoeddwyd y papur bro cyntaf sef Y Dinesydd yng Nghaerdydd.
O fewn ychydig dros flwyddyn roedd 'na hanner dwsin o bapurau bro eraill wedi eu sefydlu. Hanner canrif ers cyhoeddiad cyntaf Y Dinesydd mae dros hanner cant o bapurau bro ar gael ar draws Cymru.
Bu Norman Williams, golygydd cyntaf Y Dinesydd, yn siarad gyda Dei Tomos ar Radio Cymru am hanes sefydlu'r papur lleol i Gaerdydd a'r cylch.
Yn ôl Norman, mae'r stori'n cychwyn gyda galwad ffôn gan Meredydd Evans (Merêd): "'Nai fyth anghofio yr alwad honno, o'n i'n gweithio yng ngwasg y brifysgol yn y dociau yng Nghaerdydd a'r bwriad oedd priodi o fewn ychydig fisoedd felly 'oedd fy meddwl i ar bethau eraill.
"Dyma fi'n cael y neges fod Meredydd Evans ar y ffôn yn gofyn i fi ddod i'w gyfarfod am sgwrs.
"Roedd cyfarfod wedi bod yng Nghaerdydd o ryw grŵp cymharol fychan i drafod y syniad yma o gyhoeddi papur lleol yng Nghaerdydd. Roedd ffrind da yn y cyfarfod yna ddim isho'r job ei hunan ac yn dweud 'pam na wnewch chi siarad efo Norman?'
"A dyna oedd cefndir yr alwad ffôn gyda Merêd.
"Dwi'n meddwl mod i wedi mynd yno efo llwyth o negydd-dod yn sôn am yr holl broblemau fyddai'n debygol o wynebu unrhyw bapur lleol, yn enwedig mewn dinas.
"Ar ôl rhestru'r holl broblemau ymateb Merêd oedd - 'Chdi 'di'r union berson i'n helpu ni.'"
Felly daeth Norman yn olygydd cyntaf ar Y Dinesydd. Roedd ganddo brofiad golygyddol eisoes oherwydd ei waith ar Y Dyfodol (papur prifysgol Bangor) tra'i fod yn y brifysgol ac hefyd Bronco, fel mae'n esbonio: "Mi oedd 'na ferw yn y byd cyhoeddi ym Mangor.
"Yn flynyddol mi oedd gyda chi Bronco, ein papur rag ni. Roedd yn gwerthu miloedd. Mi oedd y gwaith o greu y straeon yma oedd yn llawn dychymyg yn gyfle gwych i'r myfyrwyr hynny oedd yn mwynhau ysgrifennu deunydd ysgafn, blaengar."
Wedi ei gyfnod yn y brifysgol ym Mangor symudodd Norman i lawr i Gaerdydd a chael swydd yng ngwasg y brifysgol.
Y cychwyn
Bu cyfarfod yng nghartref cyntaf Norman yng Nghaerdydd i drafod cychwyn y papur: "Dwi'n cofio cael un o'r cyfarfodydd cyntaf efo cynrychiolwyr o wahanol agweddau o'r gwaith - dim mwy na 10 ohonon ni.
"Fel fyddech chi'n disgwyl yng Nghaerdydd, 10 eitha' gwahanol.
"Roedd angen i'r papur gynrychioli pawb yng Nghaerdydd, pob ardal ac mi wnaed hynny. Mi wnaethon ni sicrhau fod 'na ddeunydd, fod pobl yn cynrychioli gwahanol ardaloedd.
Dawn perswadio
"Un o'r penderfyniadau mawr 'nathon ni gymryd oedd bod hi'n anymarferol i werthu'r papur. A dyna lle ddaeth David Meredith mewn fel swyddog hysbysebion.
"Gatho ni'r hysbysebion rhyfedda' - sut oedd o'n perswadio pobl i dalu dipyn go lew o arian am dudalen cyfan megis cwmni chwalu adeiladau?
"Mi oedd o'n cael yr hysbysebion 'ma oedd yn caniatáu i ni i ddosbarthu'r papur."
Yn rhifyn cyntaf Y Dinesydd mae 'na hysbysb gan Banc Midland.
Rôl Merêd
Bu Norman yn golygu'r papur am bron i dair mlynedd o 1973 ac mae'n talu teyrnged i'r holl gymorth gafodd ar y pryd: "Merêd ddaru gychwyn y cyfan ac mi ddaru o dynnu cymaint o bwysau oddi arna' i. Roedd cyhoeddi rhai miloedd o gopïau yn gryn dasg ac roedd rhaid cael yr arian ac roedd o'n ardderchog.
"Mae o'n nodweddiadol ohono fo - 'oedd o bob amser yna pan oeddech chi isho fo.
Cynnal digwyddiadau
"Peth arall 'nathon ni neud oedd Eisteddfod Treganna, mi gynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn, Eurwyn Ogwen yn ennill y gadair.
"Mi oedd 'na bethau da yn digwydd yn sgil y papur."
Gosod y papur
Yn y 1970au roedd y papur yn cael ei osod gan ddefnyddio teipiaduron trydan a Letraset (lle oedd gyda chi dudalennau o lythrennau).
Sbardun i bapurau eraill
Meddai Norman: "Roedd yn rhyfeddol - o fewn dim i gyhoeddi'r rhifyn cyntaf dangoswyd diddordeb mawr ar hyd ac ar led Cymru. Dwi'n cofio mynd i sawl cyfarfod i roi pobl ar ben ffordd.
"Mi oedd yr ymateb yn ardderchog. Roedd o'n wych o beth pan oeddech chi'n gweld Papur Pawb yn Aberystwyth wedi ei gyhoeddi yn fuan wedyn.
"Mae'n bwysig sôn - mi oedd 'na rai unigolion oedd yn amheus o gael grantiau tuag at y papurau bro ond roedd cyfraniad John Walter Jones yn y Swyddfa Gymreig yn ardderchog.
"'Nath John roi help mawr i bapurau bro ar draws Gymru. Mi oedd ei gyfraniad o yn hollbwysig.
"Mae'n wirioneddol rhyfeddol fod Y Dinesydd yn dal i fynd - dydy hi ddim yn hawdd cyhoeddi papur mewn dinas ac maen nhw'n codi am bob copi.
"Y gobaith ydy y bydd y papurau bro yn dal i gynnal y diwylliant Cymraeg drwy Gymru gyfan - ar hyn o bryd mae'r ffaith fod 'na bapur yn cyrraedd tŷ rhywun... ac mae pobl yn eu croesawu nhw ac maen nhw'n dal i wneud cyfraniad pwysig iawn tuag at y diwylliant Cymraeg."