Cais am unedau gwyliau ym Mhen Llŷn wedi'i dynnu yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Bentref MynythoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad oedd codi'r datblygiad drws nesaf i Neuadd Bentref Mynytho

Mae cais i ddatblygu unedau gwyliau mewn pentref ym Mhen Llŷn wedi cael ei dynnu yn ôl.

Bwriad y datblygwyr oedd codi 16 uned wyliau, pum tŷ marchnad agored, tafarn a thŷ bwyta ym Mynytho ger Abersoch.

Roedd y cynllun wedi arwain at wrthwynebiad yn lleol, gydag un cynghorydd yn dweud bod ei "ffôn heb stopio" ers i bobl ddod i wybod amdano.

Mae'r person y tu ôl i'r cynllun nawr wedi dweud y byddan nhw'n "ailystyried", a gweld beth allan nhw newid er mwyn ailgyflwyno'r cais.

Gobeithio 'newid ac ailgyflwyno'

Roedd John Fifield, wnaeth gyflwyno'r cais cynllunio, wedi dadlau y byddai'r datblygiad yn dod â buddion economaidd i'r ardal.

Y bwriad oedd codi'r datblygiad drws nesaf i'r neuadd bentref ar safle tŷ a garej masnachol ym Mynytho.

Roedd Mr Fifield yn ymgeisydd i fod yn gynghorydd dros yr ardal yn etholiadau lleol y llynedd, dolen allanol.

Adeg cyflwyno'r cais, fe ddywedodd fod datblygiadau o'r fath yn helpu i gadw ysgolion a chyfleusterau lleol yn hyfyw.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cais yn gofyn am godi 16 uned wyliau, pump o dai, tafarn a thŷ bwyta

"Does 'na ddim tafarn na thŷ bwyty ym Mynytho, a bydd ein cynnig o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr," meddai.

"Does dim amheuaeth bod galw gan weithredwyr a chwsmeriaid am rywbeth addas ym Mynytho ac nid ydym yn derbyn bod siopau presennol yn yr ardal yn ei chael hi'n anodd - ceisiwch archebu bwrdd yn unrhyw le."

Ond mae nawr wedi tynnu ei gais yn ôl, gan ddweud wrth BBC Cymru Fyw y bydd nawr yn "ailystyried" sut i fwrw ati.

"Rydyn ni wedi tynnu 'nôl ar ôl gweld rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan ymgynghorwyr statudol, y cyhoedd, swyddogion cynllunio," meddai.

"Mae 'na bethau allwn ni wneud... rydyn ni'n gobeithio newid pethau a'i ailgyflwyno."

Oes galw am y datblygiad?

Pan ddaeth y cais gwreiddiol i'r amlwg fe ddywedodd y cynghorydd lleol fod 'na eisoes wrthwynebiad cryf ymhlith pobl yr ardal.

"Dydi'r ffôn heb stopio. Mae pobl y pryderu'n arw," meddai Angela Russell, sy'n cynrychioli ward Llanbedrog a Mynytho ar Gyngor Gwynedd.

"Mae o'n or-ddatblygiad, tu allan i'r ffin datblygu, a ti'n gorfod cwestiynu os oes 'na alw am y math yma o ddatblygiad.

"'Dan ni'm angen mwy o dafarndai a thai bwyta. Mae'r rhai sydd ganddon ni yn stryglo fel ma'i."

Ychwanegodd mai "gwaith o safon 'dan ni angen yma, dim swyddi tymhorol".

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o sut allai'r datblygiad gorffenedig fod wedi edrych

Wrth gyflwyno'r cais roedd Mr Fifield wedi dadlau bod galw am wyliau ym Mhen Llŷn dal yn uchel er fod pobl yn gallu teithio dramor eto ers y pandemig.

Ychwanegodd nad oedd y tymor gwyliau yn yr ardal mor gyfyngedig i'r haf ag yr oedd pobl yn ei feddwl, ac y byddai'r llety gwyliau "yn darparu swyddi da i bobl leol" a'u helpu i aros yn yr ardal.

Dywedodd Mr Fifield ei fod yn parhau i gredu hynny er i'r cais gael ei dynnu yn ôl, ond y byddan nhw'n "gwrando ar y sylwadau sydd wedi eu gwneud".

"Rydyn ni hefyd wedi gofyn am gyfarfod gyda swyddogion cynllunio i weld beth yw eu hawgrymiadau," meddai.

Pynciau cysylltiedig