Archfarchnad CK's yn gwerthu cig 13 diwrnod wedi'r dyddiad

  • Cyhoeddwyd
Cig wedi pasio'r dyddiadFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar: ITV Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod bron i 50 o eitemau oedd wedi eu gwerthu neu arddangos ar ôl eu dyddiad 'defnyddio erbyn'

Mae archfarchnad yng Nghymru wedi cael ei dal yn gwerthu cig sydd hyd at 13 diwrnod heibio i'w ddyddiad 'defnyddio erbyn' (use-by).

Fe wnaeth rhaglen Y Byd Ar Bedwar ar S4C ganfod bod bron i 50 o eitemau wedi cael eu gwerthu neu eu harddangos gan CK Foodstores ar ôl eu dyddiad defnyddio erbyn.

Mae'n drosedd i unrhyw fusnes werthu cynnyrch ar ôl ei ddyddiad defnyddio erbyn, gan fod bwyta cig sydd ddim yn ffres yn gallu achosi salwch.

Dywedodd CK Foodstores, sy'n rhedeg dros 30 o siopau yng ngorllewin a de Cymru, y byddan nhw'n "monitro a gwella eu polisïau".

'Ddylai'r un siop wneud hyn'

Fel rhan o ymchwiliad wnaeth bara bron i flwyddyn, fe wnaeth y rhaglen ganfod bod bron i hanner y 24 siop aethon nhw iddynt yn gwerthu cynnyrch oedd heibio'r dyddiad defnyddio erbyn.

Roedd hyn yn cynnwys darn o gamwn mewn siop ym Mhenclawdd, Abertawe oedd 13 diwrnod heibio'r dyddiad, a darnau o gyw iâr yn siop Sanclêr, Sir Gaerfyrddin oedd ddeuddydd heibio'r dyddiad.

Fe wnaeth y tîm hefyd brynu darnau o gig moch o siop yn Arberth, Sir Benfro oedd 10 diwrnod heibio'r dyddiad defnyddio erbyn, tra bod cig heibio'r dyddiad hefyd wedi ei ganfod yn siopau Brynhyfryd, Cimla, Llandysul, Llwynfedw, Porth Tywyn, Tyddewi, ac Waunarlwydd.

Ffynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar: ITV Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae CK Foodstores yn rhedeg siopau ar hyd gorllewin a de Cymru

Yn 2020 cafodd CK Foodstores orchymyn i dalu bron i £30,000 am werthu bwyd oedd heibio'r dyddiad, ac arddangos bwyd oedd ddim yn saff, mewn dau o'u siopau yn Abertawe.

Dywedodd Nathan Barnhouse, cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fod hyd yn oed bwyd sy'n dal i edrych neu arogli'n iawn yn gallu cynnwys "bacteria allai eich gwneud chi'n sâl".

"Gallai hynny eich rhoi chi yn yr ysbyty os ydych chi'n hen, ifanc, neu gyda chyflwr iechyd ychwanegol," meddai.

"Hyd yn oed os ydych chi wedi bwyta bwyd fel hyn yn y gorffennol ac wedi bod yn iawn, efallai na fyddwch chi mor lwcus yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar: ITV Cymru Wales

"Mae'n drosedd i werthu rhywbeth heibio i'w ddyddiad defnyddio erbyn, a ddylai siopau ddim bod yn gwneud hyn."

Mewn datganiad wrth y rhaglen dywedodd CK Foodstores eu bod yn "gwerthfawrogi eu holl gwsmeriaid a'r cymunedau ble maen nhw'n gweithio".

"I gydnabod yr ymroddiad hwn i gwsmeriaid, bydd CK yn parhau i fonitro a gwella eu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i dderbyn eitemau o safon am brisiau rhesymol".

Wnaeth CK's ddim ymateb i'r honiadau penodol o werthu cynnyrch oedd wedi pasio eu dyddiad defnyddio erbyn.

Pynciau cysylltiedig