Dim arwyddion Cymraeg y tu fas i siop newydd yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd iaith blaenllaw a chyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, wedi dweud ei fod e'n "rhyfeddu" nad oes unrhyw arwyddion Cymraeg y tu allan i archfarchnad newydd sbon wnaeth agor yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.
Mae llefarydd ar ran cwmni CK's wedi dweud wrth BBC Cymru bod arwyddion dwyieithog "wedi cael eu harchebu".
Mae'r siop newydd yn Nhre Ioan yn un o 31 sydd yn perthyn i gwmni archfarchnadoedd CK's, cwmni sydd a throsiant blynyddol o £56 miliwn.
Fe wnaeth y cwmni bron iawn i £15m o elw yn 2020 yn ôl cofnodion Ty'r Cwmnïau. Mae'r archfarchnadoedd yn eiddo i ddyn busnes o Abertawe o'r enw Chris Kiley, sydd wedi gwneud ei ffortiwn ar ôl agor ei siop gyntaf yn Llandeilo.
Mae yna arwyddion dwyieithog tu fewn y siop yn Nhre Ioan, ond dim gair o Gymraeg y tu allan ar hyn o bryd.
'Gwasanaethu'r gymuned gyfan?'
Mae Meirion Prys Jones yn byw dafliad carreg o'r archfarchnad newydd.
"Beth sydd yn rhyfeddu fi," meddai, "yw ni'n eistedd fan hyn yn y sir Gymreiciaf yng Nghymru, ac mae yna siop newydd fawr wedi cael ei hagor a does yna ddim unrhyw fath o arwydd Cymraeg tu allan. Dim byd o gwbl. Dim hysbyseb na dim.
"Mae hynny yn fy mhryderu oherwydd slogan y siop yw bod nhw'n gwasanaethau'r gymuned gyfan. Wel, mae'n amlwg nad yw hynny yn wir nag yw e? Os nad oes yna ryw fath o arwydd neu bod nhw'n gyfeillgar tuag at y Gymraeg, yn yr ardal hon, mae rhywbeth mawr o'i le."
Dywedodd Mr Prys Jones ei fod wedi cysylltu gyda'r cwmni i gwyno ond fod yr ymateb wedi ei siomi.
"Cysylltais i â'r cwmni i nodi nad oedd arwyddion ac i ofyn a oedd angen cymorth arnyn nhw. Ges i ymateb rhyfedd nôl, i ddweud y gwir, sef oherwydd bod nhw'n prynu cynnyrch lleol bod hynny rhyw ffordd yn gwneud yn iawn nad oedden nhw yn defnyddio'r Gymraeg. Dadl braidd yn od."
Mae'n dweud fod arwyddion allanol yn bwysig am eu bod nhw yn rhoi "statws i'r Gymraeg" ac yn gwneud yr iaith yn "weladwy".
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran siopau CK: "Mae gan y siop arwyddion dwyieithog y tu mewn ac mae rhai dwyieithog ar gyfer y tu allan ar eu ffordd - yn gyffredinol ychydig o arwyddion sydd gan ein siopau y tu allan beth bynnag.
"Rwyf hefyd yn falch o ddweud y bydd arwyddion Cymraeg ar gyfer y swyddfa bost yn cyrraedd yn fuan - mae nifer o'n siopau yn parhau i gynnal y gwasanaeth hwnnw wrth i nifer o fanciau ac adnoddau eraill ddiflannu o'n cymunedau."
Dyw Cyngor Sir Caerfyrddin ddim wedi ymateb i'n cais am ddatganiad, ond deallir bod cynghorwyr lleol wedi codi'r mater gyda'r cwmni yn yr agoriad swyddogol bnawn Sadwrn.
Cafodd y siop ei hagor yn swyddogol gan y dyfarnwr rygbi Nigel Owens.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni CK's eu bod nhw'n ymwybodol o'r pryderon a bod arwyddion dwyieithog wedi eu harchebu, ac y byddan nhw yn cael ei gosod tu allan i'r siop yn fuan.
Ymateb swyddfa'r Comisiynydd
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Mae gennym dîm arbenigol o staff sy'n gweithio gyda busnesau i'w hannog i gynyddu defnydd o'r Gymraeg.
"O dan y ddeddfwriaeth bresennol does dim rheidrwydd arnynt i wneud hynny, ond rydym yma i gefnogi a rhoi cymorth ymarferol i fusnesau i gynyddu eu defnydd o'r iaith. Rydym hefyd bob amser yn awyddus i glywed gan unigolion am unrhyw brofiadau neu rwystrau maent yn eu wynebu wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
"Rydym yn gweithio gyda'r sector archfarchnadoedd wrth iddynt gyflwyno'r Gymraeg yn eu canghennau yng Nghymru. Byddwn yn cysylltu'n benodol â CK eto ynghylch yr arwyddion hyn a'u defnydd o'r Gymraeg yn gyffredinol.
"Mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin bolisi ar y Gymraeg o fewn ei Gynllun Datblygu Lleol. Wrth roi sylwadau ar ddrafft o'r Cynllun Datblygu Lleol haf y llynedd, fe wnaethom egluro ein bod yn awyddus i gydweithio â nhw wrth i geisiadau cynllunio ddod i law gan gwmnïau mawr a manwerthwyr er mwyn gallu rhoi cyngor a chymorth i fusnesau ddatblygu defnydd o'r iaith wrth sefydlu neu ddatblygu yn yr ardal.
"Byddwn yn cysylltu eto gyda'r Cyngor am hyn.'
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021