Trawsblaniad calon i Osian wedi cymhlethdodau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Osian JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed rhieni Osian Jones bod ei wydnwch wedi "rhyfeddu'r staff sy'n gofalu amdano

Mae rhieni bachgen 16 oed a gafodd trawsblaniad calon ar ôl cymhlethdodau'n ymwneud â Covid wedi disgrifio ei "siwrne ddewr".

Fe gafodd Osian Jones, o'r Barri ym Mro Morgannwg, dri thrawiad ar y galon ar ôl cael y cyflwr MIS-C (Multisystem Inflammatory syndrome in children associated with Covid).

Fe gafodd ei daro'n wael ym mis Chwefror, ac fe gafodd ei drawsblaniad ar 30 Mehefin.

Mae'n dal mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Harefield, yn Middlesex.

Doedd dim syniad ganddo ei fod â Covid pan aeth yn wael a gorfod mynd i uned frys.

Yn dilyn y trawiadau ar y galon fe gafodd ei ruthro o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd i uned gofal dwys Ysbyty Plant Bryste.

Fe gafodd ei deulu wybod bod MISC-C arno - syndrom llidiol prin sy'n gysylltiedig â'r feirws sy'n achosi Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Ag yntau â chreithiau ar ei galon, fe gafodd ei roi ar beiriant ECMO (extracorporeal membrane oxygenation) a dechrau cael triniaeth dialysis.

Roedd yn ymddangos ei fod yn gwella, ond wedi sawl cam yn ôl fe benderfynwyd i symud Osian i Ysbyty Harefield, Middlesex ar gyfer trawsblaniad a fyddai'n achub ei fywyd.

Mae ei rieni wedi bod yn aros yn Middlesex er mwyn bod yn agos ato yn yr ysbyty ac maen nhw'n gobeithio aros yno nes y bydd yn ddigon da i adael.

"Mae Osian yn gyson wedi rhyfeddu'r doctoriaid a'r nyrsys gyda'i wydnwch, ei agwedd bositif ac, yn fwy na dim, y ffordd y mae wedi wynebu pob cam o'r daith yma, gyda dewrder," dywedodd ei rieni, Alexis ac Andy.

"Rydym mor eithriadol o falch ohono.

"Rydym nawr yn canolbwyntio ar ei adferiad ac, yn y pen draw, ei gael adref fel y gallai fynd yn ôl i chweched dosbarth Stanwell [ysgol ym Mhenarth] ble bydd yn neud ei Lefel A gyda'i ffrindiau."

Mae perthnasau a ffrindiau Osian wedi dechrau codi arian er mwyn cefnogi'r teulu tra'i fod yn yr ysbyty.

Mae ysgol Osian wedi codi dros £3,300 trwy drefnu diwrnod di-wisg ysgol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ffrindiau Osian gyda siec yn dilyn y diwrnod di-wisg ysgol

Mae taith gerdded yn Y Barri ar ddiwrnod pen-blwydd Osian wedi codi dros £2,000, ac mae'n fwriad i ychwanegu mwy yn sgil taith 5km o amgylch Penarth.

Gan ddiolch y gymuned leol, dywedodd rhieni Osian: "Mae gwybod eich bod i gyd yn ein cefnogi wedi rhoi nerth anferthol i ni.

"Mae eich hymdrechion yn golygu y gallwn ni barhau i ganolbwyntio ar roi ein holl gefnogaeth i Osian a'i siwrne ddews i ddod adref."

Mae tudalen ariannu torfol wedi cael ei sefydlu gyda'r nod o godi £30,000. Bydd unrhyw arian dros ben ar ddiwedd arhosiad y teulu yn Middlesex yn mynd at elusen Ysbyty Plant Bryste.

Beth yw MIS-C?

  • Cymhlethdod prin - sydd hefyd yn cael ei alw yn PIMS (Paediatric Inflammatory Multisystem Syndrome) - yn sgil coronafeirws. Mae'n codi yn bennaf ymhlith plant ysgol, ond yn llai aml ymhlith plant bach neu oedolion ifanc.

  • Yn ôl y GIG, mae plant fel arfer â dim symptomau neu symptomau ysgafn wrth ddal coronafeirws, ac yn dechrau arddangos symptomau MIS-C rhwng pedair a chwech wythnos yn ddiweddarach. Mae plant â MIS-C gyda thymheredd dros 38°C (100F) sy'n para am o leiaf dri i bedwar diwrnod.

  • Mae symptomau cyffredin eraill yn cynnwys brech goch (smotiau neu blotiau) all fod yna o hyd neu fynd a dod; llygaid coch (llid ar y llygaid) nad sy'n cosi; poen yn y bol all fod mor ddifrifol â llid y pendics; chwydu a/ neu dolur rhydd; gwddf tost; peswch; diffyg anadl; chwarennau'n chwyddo; y geg yn goch ac yn brifo; dwylo a thraed yn chwyddo; cur pen; pendro; eisiau cysgu; a dryswch.

  • Does dim profion penodol ar gyfer MIS-C. Mae meddygon yn rhoi diagnosis trwy edrych ar lefelau llid yn y corff ar sail profion gwaed, ac ar ba mor dda mae rhannau o'r corff yn gweithio.

Pynciau cysylltiedig