Cyflwyno'r newyddion fis yn unig ar ôl pasio Lefel A

  • Cyhoeddwyd
Sion Williams
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Williams

Lai na mis yn ôl fe gafodd Siôn Williams ei ganlyniadau Lefel A... ac mae o wedi dechrau swydd fel cyflwynydd newyddion ar S4C yn barod.

Am dridiau yr wythnos fe fydd o flaen camerâu rhaglen newydd i blant a phobl ifanc, Newyddion Ni, sy'n cymryd lle Ffeil ac yn cynnig straeon newyddion a chwaraeon.

Mae Siôn Williams, sy'n 18, yn dod o Glais, Abertawe, a bu Cymru Fyw yn holi ambell gwestiwn er mwyn dod i'w adnabod yn well.

Lai na mis ar ôl cael dy ganlyniadau Lefel A rwyt ti wedi dechrau swydd efo'r BBC yn cyflwyno Newyddion Ni ar S4C. Sut wyt ti'n teimlo am hynny?

Dal methu credu'r peth! Dyw e ddim yn teimlo yn real. Weithiau dwi ar bwys y ddesg ac mae'n rhaid i mi gymryd eiliad i neud yn siŵr nad ydw i mewn breuddwyd. Wrth eistedd yn adeilad y BBC yng Nghaerdydd yn gweld cyflwynwyr ac arbenigwyr y maes o fy amgylch, fi dal yn aros i ddihuno lan ar un o soffas lolfa'r chweched!

Sonia ychydig am sut mae dy wythnos arferol nawr yn wahanol i'r hyn oedd o fis neu ddau yn ôl?

Y gwahaniaeth fwyaf 'weda i yw yn amlwg bod 'na lot llai o amser i gymdeithasu neu fynd mas gyda'n ffrindiau ond ar yr un pryd nad yw'n teimlo fel gweithio i fod yn onest. Dwi'n caru cyflwyno a does dim lot o bethe fydden ni'n gwneud yn lle.

Disgrifiad o’r llun,

Siôn Williams yn cyflwyno ei raglen cyntaf un o'r stiwdio rhithiol ar 4 Medi, 2023

Petae ti heb gael y swydd, beth oedd dy 'Gynllun B'?

Oedd dim syniad 'da fi i fod yn onest oherwydd nad o'n i'n gwybod fel i dorri mewn i'r maes heblaw am brifysgol ond roedd yr opsiwn hynny yn un afreaslitig, oherwydd yn bennaf faint oedd hi'n costio. O'n i'n hyd yn oed dadlau dilyn Dad a mynd i'r llynges ar un pwynt, felly diolch byth ges i'r swydd!

Faint o ddiddordeb sydd gan blant a phobl ifanc mewn newyddiadura, a sut mae ennyn eu diddordeb?

O holi mewn ysgolion, mae'n glir bod gan blant ddiddordeb mewn straeon o bob math - a gobeithio bydd Newyddion Ni yn eu helpu i wneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Dwi'n credu bod plant Cymru yn haeddu cael gwasanaeth newyddion lawn, difyr, yn eu hiaith nhw.

Be' ydi rhai o'r prif sialensau sy'n wynebu newyddiaduraeth i dy genhedlaeth di?

Dyddie 'ma mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan mor fawr o fywydau pobl ifanc a newyddion ffug yn gallu bod yn broblem, felly mae'n bwysig iawn bod y newyddion yn gywir. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n gwbod eu bod nhw'n gallu trystio yr hyn sy'n cael ei ddweud.

Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael clywed am straeon mawr y dydd ac am bynciau sy'n berthnasol iddyn nhw fel newid hinsawdd a hawliau dynol. Mae angen manteisio ar dechnoleg newydd ac ar gyfryngau cymdeithasol yn enwedig i'w denu nhw i wylio'r newyddion.

Pa fath o newyddion sy'n denu dy ddiddordeb di?

Yn bennaf chwaraeon, dwi'n caru'r holl beth o'r sgil a'r arbenigedd sydd angen i'r cefnogwyr brwd. Ond wrth ddweud hynny mae gen i ddiddordeb mewn pob math o newyddion a gobeithio mae fy mrwdfrydedd yn amlwg wrth i mi gyflwyno!

Fel un sydd wedi ei fagu yn ardal Abertawe, be' ydi dy dri hoff le yno sy'n haeddu bod yn y penawdau?

Cwestiwn da! Faswn ni'n dweud nôl adre yn Glais. Mae'n lle prydferth, tawel a gwyrdd. Yn ogystal ag atgofion melys o 'ware a chael picnics yn yr ardd gyda Mam, Iolo (fy efaill), Tad-cu a Mam-gu.

Ffynhonnell y llun, Kevin Feathers/Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Yr afon Tawe, ger cartref Siôn ym mhentref Glais

Yr ail le faswn ni'n ddweud yw nôl yn nhai teras Cwmdu, Cwmbwrla, lle odd Nana a Grampa yn byw. Dwi'n cofio'n glir Dad yn mynd a fi ac Iolo draw i'r parc ac yn ffeindio hen bêl droed ac yn ware tan oedd hi'n dywyll, ac wedyn yn mynd nôl i'r tŷ i glywed antics Nana a cwmpo i gysgu wrth wylio Over The Hedge neu Surfs Up.

Y trydydd lle yw clwb criced Clydach. Mae'n rhaid i mi ddweud 'ny oherwydd dwi wedi treulio gymaint o amser yna yn y nets, yn chwarae gemau neu gymdeithasu gyda'r bois.

Fe fydd Newyddion Ni yn cael ei ddarlledu ar ddydd Llun, Mercher a Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Pynciau cysylltiedig