Archif: Gwersi iaith annisgwyl yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwersi Esperanto Ysgol Deiniol

Mae wythnos gyntaf mis Medi wastad yn gyfnod cyffrous i ddisgyblion Cymru, wrth i ddrysau'r ysgolion agor am dymor newydd sbon.

Mae sawl pwnc diddorol bellach ar y cwricwlwm cenedlaethol, ond go brin y bydd disgyblion Cymru yn mynychu gwersi Esperanto yr wythnos hon.

Dyna oedd y drefn yn Ysgol Deiniol, Bangor yn 1970, sef yr unig ysgol yng Nghymru bryd hynny i gynnal gwersi Esperanto yn ystod oriau ysgol, gyda llond llaw o rai eraill yn cynnig cyrsiau ar ôl i'r ysgol gau.

Hilda Tharme oedd yr athrawes a hithau sy'n annog y plant i ail-adrodd brawddegau a geiriau penodol ar ei hôl yn y clip yma o'r archif.

Beth yw Esperanto?

Iaith wneud ryngwadol yw Esperanto, a gafodd ei chreu yn 1887.

Nod Dr Ludwik Zamhenof - y dyfeisiwr o Wlad Pwyl - oedd creu iaith ryngwladol fyddai'n "ail iaith i bawb" ac yn "hawdd i'w dysgu".

Mae'r iaith yn parhau i gael ei defnyddio heddiw ar draws y byd, ac yn arbennig yng ngwledydd China, Japan, Brasil, Iran, Lithuania a Cuba. Yn ôl Cymdeithas Iaith Esperanto, mae hi'n un o 100 o ieithoedd mwyaf y byd, a hynny allan o bron i 7,000 o ieithoedd.

Pynciau cysylltiedig