Athrawon uwchradd Abertawe yn cynnal ail streic undydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Abertawe wedi mynegi siom bod athrawon ysgolion uwchradd yn y sir ar streic eto ddydd Mercher wedi methiant trafodaethau dros amodau gwaith a phroses disgyblu athro.
Bu'n rhaid i chwech o ysgolion y sir gau am ddiwrnod yng nghanol Gorffennaf ac roedd nifer o ysgolion eraill ond wedi gallu agor yn rhannol adeg y streic gyntaf gan aelodau'r NASUWT.
Mae'r undeb yn dweud bod y cyngor wedi gwrthod cynnig ganddyn nhw yn ystod cyfarfod ddydd Llun a fyddai wedi "datrys yr anghydfod".
Mewn ymateb mae'r cyngor yn dweud eu bod "wedi bodloni pedwar allan o'r pump o ofynion" yr undeb a does dim posib bargeinio yn achos y pumed sy'n ymwneud â diogelwch disgyblion.
Ffrae am ddisgyblu aelod staff
Mae aelodau'n gweithredu'n ddiwydiannol, medd yr undeb, dros arferion "croes" eu cyflogwyr, "bygythiad i sicrwydd eu swyddi a methiant Cyngor Abertawe i gydymffurfio â chytundebau cyfunol presennol".
O'r 59% o aelodau ar draws Abertawe a gymrodd ran mewn pleidlais ym mis Mehefin, roedd 92% o blaid mynd ar streic, a 96% yn cefnogi ffyrdd eraill o weithredu'n ddiwydiannol.
Mae'r sefyllfa'n ymwneud ag amrywio disgrifiadau swydd a chytundebau gwaith oedd wedi eu cytuno gan y ddwy ochr, ac â phroses disgyblu un o aelodau'r undeb.
Yn ôl yr NASUWT fe fyddai'r cynnig a wnaethon nhw i'r cyngor wedi datrys yr anghydfod "heb unrhyw effaith niweidiol ar yr ysgol sydd yng nghanol y sefyllfa".
Ychwanegodd bod y cyngor "yn anffodus... wedi gwrthod y cynnig yna a bydd ail ddiwrnod o streicio yn digwydd" ddydd Mercher.
Dywedodd Swyddog Cymru yr NASUWT, Neil Butler: "Yn nghanol argyfwng recriwtio a chadw athrawon, fe wnaeth Cyngor Abertawe gadarnhau proses a arweiniodd at ddiswyddo athro ar gam am ddod ag achos o ymladd i ben.
"Fe fyddai ein cynnig ni wedi galluogi Cyngor Abertawe i adennill ffydd athrawon trwy sicrhau bod y cyngor yn glynu wrth gytundebau cyfunol.
"Trwy wrthod ein cynnig, mae'r cyngor wedi gwneud hi'n glir nad ydyn nhw'n gofidio ynghylch y niwed sydd wedi ei wneud."
Ychwanegodd bod "rhwygo'r Polisi Disgyblu Mewn Ysgolion yn yr achos yn erbyn ein haelod" yn amlygu "diffyg diffuantrwydd" a bod angen i'r cyngor "ddechrau o'r newydd" i adennill athrawon.
'Dim bargeinio dros ddiogelwch disgyblion'
Mewn datganiad yn mynegi siom ynghylch streic sy'n "tarfu ar addysg disgyblion ac ar eu teuluoedd", mae'r cyngor yn mynnu mai "defnyddio grym gormodol yn erbyn disgybl" oedd wrth wraidd diswyddiad yr athro.
Mewn ymateb i honiad yr undeb bod wnelo'r anghydfod ag athrawon yn wynebu ymddygiad treisgar, mae'r cyngor yn dweud "doedd dim disgybl treisgar yn yr achos arbennig yma".
Fel rhan o'r ymchwiliad i'r achos, roedd panel disgyblu wedi gweld lluniau CCTV, ynghyd â phanel apêl "yn cynnwys chwe llywodraethwr a ddaeth i'r casgliad bod grym gormodol wedi ei ddefnyddio yn erbyn y disgybl gan yr athro".
Dywed y cyngor bod angen i athrawon a staff eraill mewn ysgolion "sicrhau pan fo angen ymyrryd yn gorfforol gyda disgybl bod hynny'n gymesur, diogel ac effeithiol".
Ychwanegodd y datganiad bod "llai na 180 o aelodau NASUWT wedi pleidleisio i streicio, sy'n llai na 4% o'r gweithlu ysgol".
"Mae'n bryd i'r NASUWT gydnabod na allen nhw fargeinio dros rywbeth na ellir ei gynnig, os yw dysgwyr am aros yn ddiogel yn Abertawe."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023