Llun eliffantod Aberystwyth 1911 'yn dal i ddod â gwên'

  • Cyhoeddwyd
Llun 'Mixed Bathing in Aberystwyth' gan Arthur LewisFfynhonnell y llun, Arthur Lewis / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llun Arthur Lewis yn dod â gwên i'r wyneb, medd Will Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell Genedlaethol

Mae nofio yn y môr wedi dod yn hynod boblogaidd bellach ond rhywbeth prin yw gweld dau eliffant yn trochi yn y dŵr oer - yn 1911 dyna'n union oedd yr olygfa yn Aberystwyth.

Yn ffodus roedd yna ddyn â chamera wrth law i gofnodi'r digwyddiad ac hyd heddiw, mae llun Arthur Lewis, yn dod â gwên i'r wyneb, medd Will Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn 1911 yr eliffantod Salt a Pepper oedd prif atyniadau sioe anifeiliaid deithiol Bostock a Wombwell a oedd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth.

"Dw i'n meddwl mai'r prif reswm i'r trefnwyr fynd â nhw lawr i'r traeth oedd rhoi cyhoeddusrwydd i'r ffaith eu bod nhw yn y dref, achos byddai gweld dau eliffant yn cerdded drwy brif strydoedd Aberystwyth yn sicr o ddenu sylw," meddai Mr Troughton.

Roedd y sioe anifeiliaid yn teithio rhwng 1846 a 1931 a bu yn Aberystwyth am ddau ddiwrnod.

Dyma mae'n debyg oedd y sioe deithiol fwyaf llwyddiannus ym Mhrydain yn y cyfnod - gyda mwncïod, eirth brown, llewod a theigrod yn teithio o fan i fan.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arthur Lewis yn gwerthu ei luniau fel cardiau post yn siop ei dad

Arferai'r ffotograffydd Arthur Lewis dynnu lluniau o ddigwyddiadau lleol a'u gwerthu yna fel cardiau post yn siop ei dad yn y dref.

Fe fyddai hi wedi cymryd cryn amser iddo dynnu'r llun penodol hwn, mae'n debyg, wrth iddo ddangos gosgeiddrwydd y promenâd Fictoraidd a Chraig Glais.

"Mae'r llun wedi'i dynnu ar draws y dŵr - felly mae'n rhaid bod Arthur Lewis wedi mynd allan ar gwch bach," meddai Mr Troughton.

"Yn y cefndir chi'n gweld cwch bychan felly mae'n rhaid ei fod wedi gofyn i rywun fynd ag ef allan fel ei fod yn gallu tynnu'r llun..

"Fe fyddai wedi bod ar gwch oedd yn ysgwyd ac roedd hi'n gryn gamp i dynnu llun yn y cyfnod hwnnw ac mae wedi llwyddo'n rhyfeddol."

Ffynhonnell y llun, National Fairground & Circus Archive / PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1911 yr eliffantod Salt a Pepper oedd prif atyniadau sioe anifeiliaid deithiol Bostock a Wombwell a oedd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth

Wnaeth y llun ddim cyrraedd y papurau newydd - hynny mae'n debyg gan bod y broses o'i argraffu yn cymryd amser ac yn ddrud ac erbyn i'r llun fod yn barod fe fyddai'r stori yn hen.

Fe gafodd y llun ei dynnu wythnos wedi coroni Brenin George V ac ychydig amser cyn i'r brenin newydd a'r frenhines ymweld â'r dref er mwyn gosod carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol.

"Fe fyddai'r dref cyfan wedi bod yn llawn bywyd," ychwanegodd Mr Troughton.

Mae'r llun o Salt a Pepper, sydd i'w weld ar amryw gynnyrch mewn siopau anrhegion yn y dref, wedi dod yn rhan o hunaniaeth y lle.

Fe wnaeth ysbrydoli nofel - Elephants and Hot Chocolate by the Seaside gan Adam Leonard Phillips.

Y stori y mae nifer wedi ei chlywed yn y dref yw bod yr eliffantod wedi cael mynd am dro i fyny Craig Glais sydd i'w weld yng nghefnlen y llun.

Aiff y stori'n ei blaen i ddweud bod un o'r eliffantod wedi baglu a syrthio i'r rheilffordd gan ladd dau berson a chi, ond chwedl lwyr yw honno. medd Will Troughton.

'Eiconig'

Ar hyd ei yrfa fel ffotograffydd, fe lwyddodd Arthur Lewis i dynnu miloedd o luniau o'r dref - gan gynnwys stormydd geirwon ac ymweliadau gan y teulu Brenhinol.

Ond y llun o Salt a Pepper yw un o'r lluniau mwyaf eiconig, medd Mr Troughton.

"Y llun ei hun, mae ganddo gydbwysedd da ynddo... mae'n nostalgic mewn un ffordd ond hefyd braidd yn rhyfedd.

"Mae'n rhaid i fi gyfaddef, dw i'n hoff iawn ohono. Er eich bod chi'n ei weld ym mhob man, dw i'n meddwl bod yn rhaid iddo fod yn un o luniau unigol mwyaf adnabyddus Arthur Lewis. Mae'n eiconig."

Pynciau cysylltiedig