Treialu cynllun peiriant bancio i helpu pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Peiriant bancio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r peiriant bancio yn galluogi cwsmeriaid unrhyw fanc i dalu neu dynnu arian parod

Mae peiriant bancio newydd ym Mro Morgannwg yn caniatáu cwsmeriaid unrhyw fanc i dalu a thynnu arian parod.

Mae'r peiriant yn cael ei dreialu yng nghangen y Principality yn Y Bont-faen - tref lle mae bron pob banc arall wedi cau,

Ar gyfartaledd mae 54 o ganghennau banc wedi cau bob mis yn y DU ers Ionawr 2015.

Mae'r peiriant newydd yn cael ei weithredu gan One Banx mewn partneriaeth â'r Principality.

Bwriad y cynllun yw helpu pobl sy'n teimlo'n anghyfforddus wrth fancio ar-lein.

Gall cwsmeriaid o 22 o fanciau ddefnyddio'r peiriant yn y Principality i reoli eu harian, gyda staff o'r gymdeithas adeiladu ar gael i helpu.

Gobaith Shaun Middleton, pennaeth dosbarthu'r Principality, yw y bydd yn helpu cwsmeriaid sy'n "cael trafferth" wrth i'r banciau eraill gau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shaun Middleton mai'r bwriad yw dod â'r "syniad o fancio ar y stryd fawr yn ôl i'r cymunedau"

"Bob dydd rydyn ni'n cael aelodau, grwpiau elusennol a busnesau lleol yn dweud eu bod nhw'n cael trafferth fawr i fancio ar y stryd fawr," meddai.

Bellach mae gan y Principality y rhwydwaith mwyaf o ganghennau yng Nghymru oherwydd nifer y banciau eraill sydd wedi cau.

"Rydyn ni'n meddwl y gallwn ni ddod â'r syniad o fancio ar y stryd fawr yn ôl i'r cymunedau hyn, i'w helpu i ffynnu a thyfu," ychwanegodd Mr Middleton.

'Person nid peiriant'

"Mae'r syniad yma yn swnio'n dda i mi," meddai Lyn Guy. Fel trysorydd cangen Merched y Wawr Y Bont-faen mae hi'n ystyried defnyddio'r peiriant newydd.

Wedi i fanciau lleol gau mae Ms Guy bellach yn teithio i Lanilltud Fawr - er bod banc Lloyds yn y dref yna hefyd o dan fygythiad erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lyn Guy bod yn well gan bobl hŷn beidio bancio ar-lein ond mae'n teimlo y gallai'r peiriant newydd fod "yn ateb yn sicr, yn lleol"

"Mae'n rhaid i fi fynd i Lanilltud i drosglwyddo arian, neu i fancio yn gyffredinol," meddai.

Fe fydd peiriant newydd y Principality "yn ateb yn sicr, yn lleol," dywedodd.

Ond er y dechnoleg newydd, mae Ms Guy yn pryderu am y staff sy'n colli eu swyddi yn y banciau sydd yn cau, ac mae'n gobeithio na fydd yr adeiladau yn troi yn adfeilion.

"Mae'n drueni os bydd y banciau yn cau yn gyfangwbl," meddai.

"Dwi'n cyfri'n hunan yn eithaf hen erbyn hyn, ond i bobl sy'n hŷn na fi sydd ddim yn gallu delio gyda pheiriannau a phethau - maen nhw'n licio'r syniad o fancio a gweld person, nid peiriant."

Dywedodd Shaun Middleton bod staff y Principality yna i helpu cwsmeriaid gyda'r peiriant newydd.

"Bydd ein staff yma i'w helpu gyda'u cynnig cyntaf [ar y peiriant]. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wybod, ar ôl i'r dechnoleg gael ei chyflwyno mewn cymunedau eraill, yw ei bod hi'n hawdd iawn i'w defnyddio ar ôl i chi drio ychydig o weithiau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Principality y bydd staff ar gael i gynorthwyo pobl wrth ddefnyddio'r peiriant

Dywedodd y Principality y byddai'n asesu llwyddiant yr arbrawf yn Y Bont-faen cyn penderfynu a ddylid ei gyflwyno i ganghennau eraill.

"Rydym wedi rhoi'r peiriant newydd hwn i mewn yn y gobaith y gallwn roi rhywbeth yn ôl i'r Bont-faen heddiw, ond efallai i gymunedau eraill wrth symud i'r dyfodol," meddai Mr Middleton.

Ar wahân i ddwy gymdeithas adeiladu, mae'r Bont-faen i fod i golli'r olaf o'i banciau pan fydd cangen HSBC y dref yn cau. Mae HSBC wedi cyhoeddi cynllun i gau'r banc, ond does dim dyddiad wedi'i gadarnhau eto.

Teithio i gyrraedd banc yn 'ofnadwy'

Yn Ystradgynlais yn ne orllewin Powys mae cwsmeriaid a pherchnogion busnes wedi colli'r banc olaf yn y dref. Fe wnaeth cangen Lloyds gau ei ddrysau wythnos ddiwethaf.

Mae rhai yn y gymuned yn gweld yr angen am fanc lleol.

"Chi'n mynd i'r banc os nad y'ch chi'n gallu defnyddio'r cyfrifiadur, a does dim dewis gyda chi. Nawr mae'n rhaid mynd i Bontardawe neu Gastell-nedd," meddai Non Gross, 61, o Ystradgynlais.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Non Gross nad oes cysylltiadau trafnidiaeth digon dda i bobl cyrraedd canghennau banciau yn hawdd

"Os y'ch chi am wneud unrhyw waith personol gyda'r banc, mae'n rhaid i chi drafeilu. Ac mae'r bysys yn ofnadwy dyddiau hyn!"

Tra bod rhai yn colli'r gwasanaeth personol, mae siopau'r pentref wedi sylwi newid mewn agweddau tuag at arian parod ers y pandemig.

Yn ei siop ar y stryd fawr mae'r cigydd Mark Griffiths yn dweud bod ei gwsmeriaid wedi dod i dderbyn y ffaith bod banciau yn cau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Griffiths fod agwedd pobl at arian parod wedi newid ers y pandemig gyda mwy yn talu gyda cherdyn

"Roedd pedwar banc yma ar un pryd, does dim un ar ôl nawr," meddai.

"Does dim gwahaniaeth i fi achos mae lot wedi bod yn defnyddio carden achos Covid, felly maen nhw wedi penderfynu defnyddio'r garden bob amser."

Bancio stryd fawr yn 'hanfodol'

Mae pobl hŷn yn cael eu taro'n arbennig o wael wrth i ganghennau banc gau, gydag ymchwil gan yr elusen Age UK yn awgrymu bod 58% o bobl dros 85 oed yn dibynnu ar fancio wyneb-yn-wyneb.

Dywedodd Duncan Cockburn, sylfaenydd One Banx, y gallai'r peiriant sy'n cael ei dreialu fod yn "bont" i helpu pobl i ddefnyddio bancio digidol gyda chymorth staff y gymdeithas adeiladu.

"Mae bancio ar y stryd fawr yn gwbl hanfodol i'r pontio hynny," meddai.

"Roedd gennym ddyn 94 oed wedi dechrau bancio ar-lein am y tro cyntaf erioed, yn syml oherwydd ei fod eisiau talu mewn ei arian parod.

"Galluogodd One Banx iddo dalu ei arian parod i'w gyfrif, ac felly i gofrestru ar gyfer bancio ar-lein.

"Rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o bobl oedrannus yn defnyddio hwn, ac yn ymuno â bancio ar-lein am y tro cyntaf."

Pynciau cysylltiedig