Gwymon Cymru i achub y byd?
- Cyhoeddwyd
Pan 'dych chi'n meddwl am fwydydd traddodiadol Cymreig, un sy'n dod i'r meddwl yn syth, ynghyd â chawl, cig oen, bara brith a chacennau cri, yw bara lawr.
Mae'r Cymry wedi bod yn bwyta gwymon ers canrifoedd, yn enwedig yn ne a gorllewin Cymru.
Ond mae yna arbenigwyr heddiw sy'n credu y gall gwymon hefyd fod yn adnodd hynod werthfawr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Roedd François Beyers yn un o sylfaenwyr Câr-y-Môr ger Tyddewi - cymdeithas gymunedol a'r unig fferm fôr yng Nghymru.
"Pan feddylion ni am y syniad o Câr-y-Môr tua pum mlynedd yn ôl, y bwriad oedd i weithio efo pysgod cregyn," eglurodd. "Mae fy nhad yng nghyfraith yn gweithio yn y diwydiant yna, fel oedd ei dad a'i daid, ac mae o'n nabod y diwydiant yna'n dda iawn.
"Mae pysgod cregyn yn adnodd gwych i gymryd allan y nitradau a ffosfforws sy'n mynd i'r môr oherwydd amaeth. Mae nhw hefyd yn fwydydd sy'n uchel mewn protein a'r mwynau 'dan ni eu hangen.
"Mae ganddo ni fel busnes gysylltiad agos efo'r môr; dwi'n wreiddiol o Cape Town ac mae fy ngwraig a'i theulu'n dod o dde Cymru."
Ond fe esblygodd busnes François i ymdrin â gwymon hefyd.
Daioni gwymon
"Mae gymaint o astudiaethau yn ymwneud â manteision defnyddio gwymon, am y rheswm bod 'na gymaint ohono," esboniai François.
"Wrth gwrs roedd gwymon yn arfer bod yn rhan bwysig o ddeiet pobl, a'r mwyaf oedden ni'n ymchwilio i fewn i'r mathau gwahanol o wymon, y mwyaf oedden ni'n sylwi bod y gwahanol fathau yn rhoi bendithion gwahanol.
"Er enghraifft, mae yna fath o wymon o'r enw Spaghetti Môr, sy'n edrych, fel mae'r enw'n awgrymu, yn union fel spaghetti. Allwch chi ei ddefnyddio yn eich bwyd a chyfnewid eich spaghetti arferol am rhain - mae ganddo lefelau uchel o fitamin B. Mae gan nifer fawr o bobl y Deyrnas Unedig ddiffyg ïodin, ac mae gwymon yn adnodd anferthol o hyn."
Mae François hefyd yn credu fod gwymon yn ddewis ardderchog i feganiaid.
"Pan mae'n dod i fwyd fegan, mae'n anodd weithiau i sicrhau bod rhywun yn cael digon o brotein. Ond mae gwymon yn un o'r pethau gorau i'w ddefnyddio yn absenoldeb cig.
"Mae 'na wymon o'r enw Wakame sy'n cael ei ddefnyddio yn aml mewn sushi - mae'n dda iawn ar gyfer yr esgyrn, calon a mathau penodol o ganser, ac mae un arall o'r enw Letys y Môr sy'n llawn gwrthocsidyddion (antioxidants) ac sy'n dda i'r llygaid."
"Mae gwymon hefyd wrth gwrs yn eitha' adnabyddus am fod yn dda ar gyfer croen pobl, ac mae nofio mewn môr llawn gwymon yn gallu helpu gyda psorïasis. 'Da ni wedi gwneud bagia bach efo gwymon ynddyn nhw sy'n cael eu defnyddio yn y bath i helpu gyda chyflyrau croen.
"Pan grebachodd y diwydiant gwymon yn y gwledydd gorllewinol, fe barhaodd yn y dwyrain - yn Japan, Korea a gwledydd tebyg. Ond rydyn ni wedi dechrau darparu gwymon i dai bwyta yn Llundain, ac o ganlyniad 'dyn ni bellach yn ffermio gwahanol fathau o wymon sy'n siwtio ein cwsmeriad."
Gwymon a newid hinsawdd
Un arbenigwr rhyngwladol sy'n angerddol am botensial gwymon, yw'r Ffrancwr Vincent Doumeizel. Doumeizel yw uwch-ymgynghorwr y Cenhedloedd Unedig yn yr adran sy'n edrych ar ddyfodol hinsawdd y byd. Dywedodd yn ddiweddar y gall gwymon fod yn un o'r adnoddau pwysicaf yn y frwydr i achub dyfodol y blaned.
Mae François a Câr-y-Môr wedi bod siarad gyda Vincent Doumeizel drwy'r rhwydweithiau Ewropeaidd sy'n edrych ar beth fydd rôl gwymon yn y dyfodol (The European Seaweed Coallition).
Dywed François bod sawl cymhelliant iddo weithio yn y diwydiant gwymon a physgod cregyn.
"Oedden ni eisiau creu busnes oedd yn gallu helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd creu swyddi llawn amser i'r bobl leol. Rydyn ni wedi'n lleoli yn Nhyddewi, sy'n ardal sy'n dibynnol ar dwristiaeth - doedd eleni ddim yn flwyddyn wych a doedd y tywydd ddim yn grêt.
"Mae 'na lawer o bobl sy'n ddibynnol ar waith tymhorol, ond oedden ni am greu rhywbeth oedd am gynnal y gymuned drwy'r flwyddyn.
"Pan o'n i'n ymchwilio i ffermydd môr, des i ar draws boi o'r enw Bren Smith, a oedd yn arfer bod yn bysgotwr yn Newfoundland yn ystod y cyfnod pan 'nathon nhw gau'r ffatrïoedd ac fe gollodd llawer o bysgotwyr eu bywoliaeth. Symudodd o lawr i'r Unol Daleithiau gyda'r bwriad o barhau ei ffordd o fyw yn gweithio gyda'r môr.
"'Nath Smith sefydlu fferm fôr gan ddefnyddio dulliau IMTA (Integrated Multi-Trophic Aquaculture) - y syniad o dyfu gwahanol bethau efo'i gilydd allan yn y môr... pysgod cregyn a gwymon. Oedden ni'n deall yr ochr pysgod cregyn o bethau, ac felly 'nathon ni benderfynu ymchwilio ac arbrofi 'chydig bach gan weithio efo gwymon, a dysgu gan Smith."
"'Nath o gymryd dipyn o amser i gael y trwyddedau cywir a 'nathon ni ffeindio lle yn Nhyddewi oedd yn ddelfrydol ar gyfer beth oedden ni eisiau ei wneud.
"Y syniad gwreiddiol oedd i dyfu pysgod cregyn a gwymon ar gyfer bwyd, ond fe newidiodd pethau."
Gwymon fel dewis arall i blastig
"'Dan ni hefyd yn creu biofibres rydyn ni'n ei wneud allan o bioplastics. Enghraifft o hyn yw bod ein gwymon yn cael ei ddefnyddio gan gwmni yn Yr Iseldiroedd i wneud potiau tiwlips allan o bioplastics.
"Beth sy'n dda am rhain yw bod nhw'n bydradwy (biodegradable) ac felly pan mae'r ffermwyr tiwlips yn eu plannu yn y ddaear yn ein potiau ni, mae'r potiau'n pydru ac yna'n gweithio fel gwrtaith.
"Rhywbeth arall rydyn ni'n edrych i'w wneud yw datblygu gwrtaith amaethyddol i'r ffermydd yn Sir Benfro, a hefyd creu bwyd i anifeiliaid fferm.
"Fe all gwymon fod yn fwyd i wartheg sydd yn golygu nad ydynt yn torri gwynt - os 'dych chi'n ystyried ffermydd enfawr America sy'n y gadwyn fast food, ble mae cannoedd ar filoedd o wartheg, mae hyn yn ffynhonnell enfawr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd."
'Ffermydd môr ar hyd yr arfordir'
Mae gan François gynlluniau i dyfu ei fferm bresennol ac i ledaenu'r strategaeth ar draws Cymru.
"Mae ganddon ni fferm tair hectar yn y Ramsey Sound ar y funud, ond 'dan ni'n gobeithio ehangu i 10 hectar cyn bo hir. Mae 'na 14 o bobl lleol yn gweithio i ni a 'da ni'n gobeithio dyblu hynnu dros y cwpl o flynyddoedd nesaf. Bydde'n dda cael mwy o gefnogaeth gan yr awdurdodau, ond mae'n debyg fod pethau yn anodd os mai chi yw'r fferm gyntaf o'ch math yn y wlad."
"Y gobaith ydy y bydden ni'n gallu gwneud y fferm yma'n dempled i'r dyfodol a bod pobl yn dod i ddysgu ganddon ni, a'n bod ni wedyn yn gallu helpu pobl eraill i agor ffermydd môr fel hyn ar hyd arfordir Cymru.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda NRW, y Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i wneud y broses o gael trwyddedau'n haws a chyflymach. Unwaith mae hyn wedi'i sortio alla i weld y ffermydd 'ma'n agor ar hyd yr arfordir.
"Mae potensial o ran bwyd cynaliadwy, nwyddau cynaliadwy fel bioplastics, ond mae hefyd yn creu swyddi gwyrdd. Nid yn unig mae hyn yn ymladd yn erbyn newid hinsawdd, ond mae'n creu cymunedau ble mae swyddi llawn amser mewn ardaloedd sy'n ddibynnol ar dwristiaeth.
"Mae'n bwysig dod â'r gymuned leol efo chi, a deall y potensial anhygoel sydd yna efo'r planhigyn (nid chwyn) yma o'r môr, ac beth all ei wneud i ni yn y dyfodol."
Hefyd o ddiddordeb: