Parc Cenedlaethol newydd - pryd, ble a pham?
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers 1957 - mae cynlluniau i greu parc cenedlaethol newydd i Gymru.
Mae gan Gymru dri pharc yn barod - Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog.
Ardaloedd o ogledd-ddwyrain a chanolbarth y wlad sydd o dan ystyriaeth y tro hwn.
Felly beth yw'r broses a beth fydd effaith hyn ar yr ardal?
Roedd yr addewid i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn rhan o faniffesto Llafur Cymru yn ystod etholiad diwethaf y Senedd yn 2021.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses yn swyddogol, gan benodi Cyfoeth Naturiol Cymru i arwain y prosiect fydd yn ymgynghori gyda phobl ac asesu ymarferoldeb cael parc cenedlaethol newydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi clustnodi £700,000 y flwyddyn rhwng 2022-25 ar gyfer y cynllun.
Y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths fydd â'r hawl i roi sêl bendith a chreu'r parc newydd.
Nod Llywodraeth Cymru yw ei bod hi mewn sefyllfa i allu gwneud hynny cyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Pa ardaloedd sydd dan ystyriaeth?
Y syniad gwreiddiol oedd lleoli'r parc yn ardaloedd Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AONB).
Ar wefan Bryniau Clwyd mae'r ardal yn cael ei disgrifio "yn gadwyn anhygoel o gopaon grug gyda bryngaerau'r Oes Haearn" a chyfoeth o lwybrau cerdded a mynyddoedd fel Moel Famau.
Mae Dyffryn Dyfrdwy yn "cynnwys tirlun canoloesol", gan gynnwys cestyll deniadol a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae "ardal ymchwil" Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys yr ardaloedd yma i gyd, ac yn ymestyn ymhellach i gynnwys gogledd Powys ac ardaloedd fel Llyn Efyrnwy.
Bydd hefyd yn cynnwys rhannau o Wynedd sy'n ffinio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng AONB a Pharc Cenedlaethol?
Pwrpas AONB ydy "gwarchod a gwella" harddwch naturiol yr ardal - a gwaith yr awdurdodau lleol ydy sicrhau hynny.
Byddai codi statws yr ardal i fod yn barc cenedlaethol llawn yn golygu rhoi pwyslais ar gynnal a gwella bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, yn ogystal â chynnig cyfloed i'r cyhoedd fwynhau "rhinweddau arbennig" yr ardal.
Fel arfer mae'n golygu creu awdurdod parc cenedlaethol newydd i reoli'r parc.
Un maes fydd angen ei ystyried yw ceisiadau cynllunio. Hynny yw, ai'r parc newydd fydd yn gyfrifol am geisiadau cynllunio neu a fydd y cyfrifoldeb yn aros gyda'r awdurdodau lleol?
Beth yw diffiniad harddwch naturiol?
Yn ôl Keith Davies, prif gynghorydd tirweddau dynodedig i Gyfoeth Naturiol Cymru, bydd yn rhaid i'w hasesiad ddangos bod yr ardal yn ddigon prydferth i fod yn "arwyddocaol mewn cyd-destun cenedlaethol".
"Mae hwn yn gysyniad eang iawn. Dydyn ni ddim yn edrych ar yr agwedd weledol yn unig," meddai.
"Bydd angen ystyried ansawdd golygfaol, cadwraeth a bywyd gwyllt, llonyddwch yr ardal, ochr yn ochr â'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol."
Beth fydd cost hyn?
Ar hyn o bryd daw tua 75% o gyllid y tri pharc gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grantiau Parc Cenedlaethol (NPG).
Mae'r swm yn amrywio o barc i barc - gyda phob parc yn derbyn tua £3-4m y flwyddyn.
Daw cyllid pellach o dros £1m y flwyddyn o goffrau'r awdurdodau lleol - gyda Llywodraeth Cymru yn clustnodi arian ychwanegol iddyn nhw ar gyfer hynny.
Mae'r parciau yn creu elw eu hunain hefyd drwy godi ffioedd am geisiadau cynllunio a meysydd parcio.
Ond gyda chyllidebau y sector cyhoeddus dan bwysau, mae rhai sefydliadau yn bryderus y gallai parc newydd olygu llai o arian i'r tri pharc arall.
Un o'r rheiny ydy RSPB Cymru, sy'n rhybuddio "all hyn ddim fod yn achos o dorri'r gacen yn sleisys llai".
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd "y gyllideb ar gyfer y parc cenedlaethol arfaethedig yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys peth o'r gwaith casglu tystiolaeth sydd ar y gweill".
Beth fydd hyn yn ei olygu os ydw i'n byw yno?
Mae pobl sydd o blaid y parc newydd yn gweld hyn yn gyfle gwych i roi hwb i'r economi leol.
Mae parciau cenedlaethol Prydain yn denu 90 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gyda gwariant o £4bn.
Ond mae eraill yn pryderu am y pwysau all gael ei roi ar wasanaethau lleol a phrisiau tai.
Roedd adroddiad gan gymdeithas dai Nationwide y llynedd yn awgrymu y gallai bod mewn parc cenedlaethol ychwanegu 25% at bris eiddo.
Yn ôl Keith Davies o CNC "mi fydd yn rhaid i ni ddangos yn glir wrth ddod i benderfyniad ein bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau cadarnhaol a negyddol posib ar yr ardal, yn ogystal ag adnabod ffyrdd i liniaru unrhyw broblemau".
Fydd y parc newydd yn helpu'r amgylchedd?
Holl bwrpas parciau cenedlaethol yw amddiffyn harddwch naturiol a bywyd gwyllt.
Ond yn ôl Annie Smith, pennaeth polisi natur RSPB Cymru, mae adroddiad arwyddocaol diweddar yn dangos bod "natur yn dirywio ym mhobman", gan gynnwys ardaloedd gwarchodedig Cymru.
Fe wnaeth hyn arwain at ad-drefnu mawr gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiweddar, yn eu polisïau a'r ffordd maen nhw'n cael eu rheoli.
Roedd y parc wedi gweld dirywiad o 30% yn nifer yr adar ar diroedd amaethyddol ers yr 1970au, gyda nifer o'u prif afonydd yn methu eu targedau llygredd.
Dywedodd Ms Smith: "Y newyddion da yw'r ffaith fod y parciau cenedlaethol yn rhan mor fawr o Gymru, mae yna gyfle gwych yma i fod ar flaen y gad i adfer natur a bywyd gwyllt.
"Be rydym eisiau ei weld ydy mwy o bwerau ac adnoddau i ddod ag asiantaethau a phartneriaid at ei gilydd i gydweithio gyda thirfeddianwyr i sicrhau newid."
Be' nesa'?
Mi fydd yna ddau gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn Hydref 2024 a 2025 - ac mi all ffiniau'r parc gael eu haddasu o hyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod parciau cenedlaethol yn "dod â llawer o fanteision, yn amddiffyn ein tirlun godidog ac yn cefnogi'r amgylchedd a chymunedau".
Ychwanegodd bod y gwaith o gynllunio'r parc newydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn dod yn ei flaen yn dda.
"Ar hyn o bryd mae yna gyfnod helaeth o ymgysylltu ac ymgynghori i gasglu barn y cyhoedd, ac rydym yn annog pobl i gymryd rhan," meddai'r llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022