Cymru 'ar flaen y gad' yn y maes adfer morwellt

  • Cyhoeddwyd
Un o ddeifwyr y prosiect morwelltFfynhonnell y llun, Lewis Jefferies

Gallai Cymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes adfer morwellt, fyddai'n gallu cyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae gan Gymru'r arbenigedd gwyddonol i adfer morwellt ar raddfa fawr a datblygu dull y gellir ei ddefnyddio ar draws y byd, yn ôl elusen Prosiect Morwellt, Prifysgol Abertawe a'r WWF.

Gyda morwellt yn adnabyddus am ei allu i storio carbon a chynyddu bioamrywiaeth, mae galwadau ar Lywodraeth Cymru am ymrwymiad pellach i gefnogi'r gwaith a gwneud Cymru yn arloeswyr yn y maes.

Dywedodd y llywodraeth bod morwellt yn "arwrol" wrth roi cynefin i fywyd gwyllt, amddiffyn rhag llifogydd a storio carbon, ac y byddai'n gweithio i'w adfer.

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies

Beth yw Morwellt?

Mae morwellt yn cael ei adnabod fel cynefin cynhyrchiol a phwysig ledled y byd.

Yn ogystal â helpu pysgodfeydd, mae morwellt hefyd yn cael ei weld fel adnodd da i fynd i'r afael â newid hinsawdd, drwy amsugno carbon a lleihau nwyon tŷ gwydr.

Mae hyd at 92% o forwellt wedi ei golli o amgylch y DU, ond nod Prosiect Achub Morwellt Cefnforoedd yng Nghymru yw newid hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Sam Rees yw un o'r rhai sy'n gweithio ar y prosiect

Yn ôl arweinydd y prosiect, Sam Rees: "Ni'n cymryd pethau ry'n ni'n gwybod am forwellt yn barod a gweithio i wella hynny, faint mae e'n ei gostio, a'r amser mae e'n cymryd…

"Ni'n gallu creu blueprint, ni'n gallu rhoi hwnna i unrhyw un ar draws y byd a gobeithio byddan nhw'n gallu restoro hefyd wedyn."

Treialon yng Nghymru

Ym Mae Dale, Sir Benfro, roedd treialon methodolegol adfer morwellt cyntaf y DU dan arweiniad WWF a Phrosiect Morwellt.

Gydag arbenigedd Prosiect Morwellt a Phrifysgol Abertawe, mae arbenigwyr bellach yn datblygu ac yn treialu technoleg a dulliau arloesol newydd i'w gwneud yn haws ac yn fwy cost effeithiol i adfer morwellt.

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies

"Ry'n ni'n gweithio gyda chwmni o San Francisco, Reefgen, sy'n creu robots," meddai Sam Rees.

"Gyda'n gwyddoniaeth ni, ry'n ni wedi creu robot sy'n injectio hadau morwellt mewn i'r seabed

"S'dim eisiau divers yn y dŵr 'na unrhyw beth fel 'na, just un neu ddau berson i yrru'r robot.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r robotiaid plannu hadau yn ystod y treialon yn Sir Benfro

"Mae'r robot yma yn fach ond nesaf, y gobaith yw cael un mawr sy'n gallu plannu hectar mewn dydd."

Cyn defnyddio'r robot, sy'n gallu plannu 20,000 o hadau ar y tro, roedd y plannu'n digwydd â llaw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai gwaith mor arloesol ddenu mwy o fuddsoddiad rhyngwladol i Gymru, medd Gareth Clubb

Yn ôl Gareth Clubb, Cyfarwyddwr WWF Cymru, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru yn "arloesol iawn".

"'Dan ni'n eitha' ffyddiog bod Cymru wir ar flaen y gad ac felly mae cael rhyw fath o statws fel canolbwynt i waith adfer cynefinoedd morwellt yn hollol bwysig," meddai.

"Hefyd, fe alle fe ddenu rhagor o ymchwilwyr, rhagor o fuddsoddiad rhyngwladol mewn i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies

Wrth gydnabod fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad morwellt, mae 'na alw am ymrwymiad pellach.

"Nid da lle gellir gwell, wrth gwrs, mi fydden ni'n gofyn am ragor o ymrwymiad, rhagor o fuddsoddiad, er mwyn sicrhau lle Cymru ar flaen pob un wlad yn y byd sydd yn gwneud gwaith yn y maes yma…

"Yn sicr mae e'n un o'r cynefinoedd gorau oll boed ar dir neu yn y môr o ran amsugno nwyon tŷ gwydr, felly mi ddylse fe fod yn flaenoriaeth."

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies

Dywedodd y llywodraeth bod morwellt yn "arwr tawel" wrth roi cynefin i fywyd gwyllt, amddiffyn rhag llifogydd a storio carbon.

Ychwanegodd y llefarydd bod y Prif Weinidog wedi cynnwys adfer morwellt yn y rhaglen lywodraethu, ac yn bwriadu ymweld â'r safle "a thrafod pa gamau y gallwn eu cymryd i ehangu eu gwaith allweddol".

Pynciau cysylltiedig