Adran Dau: Notts County 3-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i amddiffynnwr Casnewydd, Josh Seberry, gael ei gludo o'r maes ar ôl cael anaf yn yr hanner cyntaf
Colli oedd hanes Casnewydd yn Adran Dau nos Fawrth wedi iddyn nhw gael eu trechu o dair gôl i ddim oddi cartref gan Notts County.
Sgoriodd Daniel Crowley (24) a'r capten Macaulay Langstaff (34) yn yr hanner cyntaf i'r tîm cartref cyn i Langstaff gynyddu'r bwlch gyda'i ail gôl (54) o'r noson.
Fe rwydodd Omar Bogle yn yr ail hanner ond doedd y gôl ddim yn sefyll oherwydd achos o lawio, a bu'n rhaid i'r Alltudion adael Meadow Lane heb bwyntiau.
Mae'r ddau dîm yn aros yn yr un safleoedd ar ddiwedd y gêm ag yr oedden nhw ar y dechrau, gyda Chasnewydd yn 19eg a Notts County yn ail.