Honiadau bod ymosodwr Casnewydd wedi ei gam-drin yn hiliol

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y drosedd honedig wrth i Omar Bogle ddathlu un o'i ddwy gôl yn erbyn Gilliangham

Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau bod cefnogwr wedi ymddwyn mewn modd hiliol yn ystod gêm Casnewydd yn erbyn Gillingham yn Adran Dau ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Kent bod yr unigolyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar sail hil.

Fe ddigwyddodd y drosedd honedig wrth i'r ymosodwr Omar Bogle ddathlu un o'i ddwy gôl ym muddugoliaeth yr Alltudion o 2-0.

Mae'r heddlu yn parhau i gynnal ymholiadau rhag ofn bod rhagor o droseddau wedi eu cyflawni yn ystod y gêm.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Casnewydd mewn datganiad eu bod yn "hynod siomedig" gydag ymddygiad y cefnogwr dan sylw.

"Rydyn ni'n condemnio hiliaeth, rhagfarn neu wahaniaethu o unrhyw fath," meddai'r datganiad.

Fe gadarnhaodd Clwb Pêl-droed Gillingham bod yr unigolyn wedi cael ei wahardd o'r clwb am oes.

Dywedon nhw fod eu hymateb yn brawf nad ydyn nhw'n goddef unrhyw ymddygiad o'r fath.

Pynciau cysylltiedig